Skip to main content

https://food.blog.gov.uk/2020/07/20/camping-food-safety/

Camping food safety

Posted by: , Posted on: - Categories: Hygiene

An illustration of a bear with a pot over a campfire

Cymraeg

After recent months of limited movement due to the coronavirus (COVID-19) pandemic, thoughts for many are now turning to how to get their fill of rest and relaxation outside the home. While some are thinking of rekindling adventures abroad, many are looking to an escape closer to home through camping.

Beyond camp-site health and safety risks like left-on gas cylinders and stray tent pegs, it’s important to remember effective food hygiene to avoid food poisoning and to stop boisterous squirrels running off with your nuts. Whether you’re a first-time camper, or rediscovering the wild after many years, here are some tips to keep your camp safe. Enjoy your escape free from worry of food poisoning.

High-risk foods

When you go camping it’s important to plan ahead and choose the food you take carefully. The conditions you store food in a tent or vehicle will be different from home. The varying temperatures and humidity may pose a food risk.

You should take extra care around ready-to-eat food intended to be consumed without further cooking. This includes cooked meat, eggs and dairy, which will spoil and deteriorate if not stored correctly.

Remember to store ready-to-eat foods separately from raw foods to avoid cross-contamination. Keeping different food types in sealed containers can help with this. If it’s not possible to store ready-to-eat or raw foods sufficiently throughout your trip, you may consider taking predominantly dry foods instead, such as pasta or lentils.

Food should be stored below 5°C. For short trips, you can take a cool box to keep food at the correct temperature. However, a cool box is unlikely to keep foods chilled for an extended period of time. Many tent pitches are serviced and provide electricity. If that is the case, you can bring camping fridges or coolers that maintain the temperature.

If this is not possible, try to use a well-insulated cooler with ice packs and check that the temperature is 5°C or below. Chilling food properly helps stop harmful bacteria from growing, especially in the warm summer months.

Cooking

Cooking food at the right temperature and for the correct length of time will ensure that any harmful bacteria are killed. Much like a barbecue, if you’re cooking meat, don’t forget that charred on the outside doesn’t always mean cooked on the inside. Before serving meat always check:

  • the meat is steaming hot throughout
  • there is no pink meat visible when you cut into the thickest part
  • the meat’s juices run clear.

Food poisoning

When you’re cooking your meals, remember to keep food and your cooking pots covered to avoid any unwelcome pests contaminating your food. Before preparing and cooking your meal, do your best to clear the food preparation area of any insects, animals or birds. Using sealed containers helps to avoid pests which could contaminate your food or ingredients.

Effective cleaning of cooking equipment and utensils is needed to avoid cross-contamination between meals and to remove any harmful bacteria that may grow if cooked food is left out in warm temperatures. Poor camp hygiene and cleaning practices can lead to food poisoning. So make sure you use clean water with washing up liquid and thoroughly scrub your equipment with a clean cloth or sponge.

Hand washing

Effective cleaning gets rid of bacteria on hands, equipment and surfaces. Hand washing is important to stop harmful bacteria from spreading onto food. You should wash your hands before and after handling food. This is particularly important if you are eating outdoors, or have been handling raw meat or camping equipment such as firelighters.

Ideally you should wash your hands thoroughly with soap and hot water for 20 seconds. If your camp site does not have adequate hand washing facilities available, you should use a wet wipe to clean your hands. You can use an alcohol hand gel to sanitise your hands. However, remember that not all bugs are killed or removed by hand gel. Correct hand washing is always the most effective way.

Diogelwch bwyd wrth wersylla

Ar ôl y misoedd diwethaf o orfod aros adref oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19), mae llawer o bobl nawr yn dechrau meddwl am ffyrdd o ymlacio y tu allan i’r cartref. Tra bod rhai yn ystyried anturiaethau dramor, mae llawer yn edrych i ddianc yn nes at eu milltir sgwâr trwy wersylla.

Y tu hwnt i risgiau iechyd a diogelwch safleoedd gwersylla, fel anghofio diffodd silindrau nwy a phegiau pebyll ar hyd y lle, mae'n bwysig cofio dilyn arferion hylendid bwyd da er mwyn osgoi gwenwyn bwyd ac atal gwiwerod barus rhag dwyn eich cnau. P'un a ydych chi'n gwersylla am y tro cyntaf, neu'n ailddarganfod y bywyd gwyllt ar ôl blynyddoedd lawer, dyma air o gyngor ar wersylla’n ddiogel. Mwynhewch eich gwyliau heb orfod poeni am wenwyn bwyd neu anaf.

Bwydydd risg uchel

Wrth wersylla, mae'n bwysig cynllunio ymlaen llaw a dewis y bwyd rydych chi'n ei gymryd yn ofalus. Bydd yr amodau rydych chi'n storio bwyd mewn pabell neu gerbyd yn wahanol i'ch cartref. Gall y tymereddau a'r lleithder amrywiol beri risg bwyd.

Dylech gymryd gofal arbennig o fwyd parod i'w fwyta y bwriedir ei fwyta heb ei goginio ymhellach. Mae hyn yn cynnwys cig wedi’i goginio, wyau a llaeth, a fydd yn difetha ac yn dirywio os nad ydynt yn cael eu storio'n gywir.

Cofiwch storio bwyd parod i’w fwyta ar wahân i fwyd amrwd er mwyn atal croeshalogi. Gall cadw gwahanol fathau o fwyd mewn cynwysyddion wedi'u selio helpu gyda hyn. Os nad yw'n bosibl storio bwyd parod i'w fwyta neu fwyd amrwd yn ddigonol trwy gydol eich taith, efallai y dylech chi ystyried cymryd bwyd sych yn bennaf yn lle, fel pasta neu corbys (lentils).

Dylech storio bwyd o dan 5°C. Ar gyfer teithiau byrion, gallwch fynd â bag oeri i gadw bwyd ar y tymheredd cywir. Fodd bynnag, mae'n annhebygol y bydd bag oeri yn cadw bwyd yn ddigon oer am gyfnod estynedig. Mae llawer o feysydd pebyll yn darparu trydan. Os oes trydan, gallwch chi ddod ag oergelloedd gwersylla neu oeryddion (coolers) sy'n cynnal y tymheredd.

Os nad yw hyn yn bosibl, ceisiwch ddefnyddio oerydd wedi'i inswleiddio'n dda gyda phecynnau iâ a gwirio bod y tymheredd yn 5°C neu'n is. Mae oeri bwyd yn iawn yn helpu i atal bacteria niweidiol rhag tyfu, yn enwedig yn ystod misoedd cynnes yr haf.

Coginio

Wrth goginio bwyd ar y tymheredd cywir ac am yr amser cywir bydd yn sicrhau bod unrhyw facteria niweidiol yn cael eu lladd. Yn debyg iawn i farbeciw, os ydych chi’n coginio cig a’i fod yn ddu ar y tu allan, nid yw bob amser yn golygu ei fod wedi'i goginio ar y tu mewn. Cyn gweini cig, cofiwch wirio:

  • bod y cig yn stemio'n boeth drwyddo draw
  • nid oes unrhyw gig pinc wrth dorri i'r darn mwyaf trwchus
  • bod suddion y cig yn rhedeg yn glir.

Gwenwyn bwyd

Pan fyddwch chi'n coginio'ch prydau bwyd, cofiwch orchuddio bwyd a sosbenni er mwyn osgoi unrhyw blâu digroeso rhag halogi'ch bwyd. Cyn paratoi a choginio'ch pryd, gwnewch eich gorau i glirio’r ardal paratoi bwyd rhag unrhyw bryfed, anifeiliaid neu adar. Mae defnyddio cynwysyddion wedi'u selio yn helpu i osgoi plâu a allai halogi'ch bwyd neu'ch cynhwysion.

Mae angen glanhau offer coginio yn effeithiol er mwyn osgoi croeshalogi rhwng prydau bwyd ac i gael gwared ar unrhyw facteria niweidiol a allai dyfu os yw bwyd wedi'i goginio yn cael ei adael allan mewn tymereddau cynnes. Gall arferion hylendid a glanhau gwael wrth wersylla arwain at wenwyn bwyd. Felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n defnyddio dŵr glân gyda hylif golchi llestri a golchwch eich offer yn drylwyr gyda lliain neu sbwng glân.

Golchi dwylo

Mae glanhau’n effeithiol yn cael gwared ar facteria oddi ar ddwylo, offer ac arwynebau. Mae golchi dwylo yn bwysig i atal bacteria niweidiol rhag lledaenu ar fwyd. Golchwch eich dwylo cyn ac ar ôl trin bwyd bob amser. Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych chi'n bwyta yn yr awyr agored, neu wedi bod yn trin cig amrwd neu offer gwersylla fel diffoddwyr tân.

Yn ddelfrydol dylech olchi'ch dwylo'n drylwyr gyda sebon a dŵr poeth am 20 eiliad. Os nad oes gan eich safle gwersylla gyfleusterau golchi dwylo digonol, dylech ddefnyddio weips gwlyb i lanhau'ch dwylo. Gallwch chi ddefnyddio gel llaw alcohol i lanweithio'ch dwylo. Fodd bynnag, cofiwch nad yw gel llaw yn lladd pob pryfyn. Golchi dwylo'n gywir yw'r ffordd fwyaf effeithiol bob amser.

Sharing and comments

Share this page

1 comment

  1. Comment by Arun Kumar posted on

    Very nice information. Thank you for sharing.

    Reply

Leave a comment

We only ask for your email address so we know you're a real person

By submitting a comment you understand it may be published on this public website. Please read our privacy notice to see how the GOV.UK blogging platform handles your information.