Michelle Patel, Head of Social Science, considers the role of horizon scanning and its importance when preparing for the future.
Today we have published a Board paper about horizon scanning and how we’ve applied the principles to the COVID-19 outbreak. In a changing world, it’s more important than ever that we learn to read the signals around us to be as ready as we can be to respond to what consumers and the food system need from us.
What is horizon scanning?
Horizon scanning means looking ahead to see what's coming, even if it isn’t immediately clear. Last year our Science Council presented their thoughts to the FSA Board on how we could do this better, drawing on many sources of information to understand how the world is changing. This included surveillance, economic analysis, social science, technological innovation, trade data and data science.
We started initially by looking at longer-term changes in areas like tech – for example lab-grown meat and gene-editing - but the COVID-19 crisis gave us a chance to use these principles in the here and now.
The impact of COVID-19 on food was huge, immediate and complex. I was asked to put together a team to answer (and in part anticipate) the questions that were outside the day-to-day crisis response. We drew on all available information to look further ahead at the challenges that may arise. In parallel, a panel of experts shared their insight to help us to spot things we might have missed. We then brought together insights from:
- operational analytics
- data science
- the latest economic, market and social research
- intelligence from the food industry
- other government departments, and our own
- our primary research, including qualitative research, consumer surveys and social media listening.
The impact of COVID-19 on consumers
In June, we published the first reports from our primary research. These provided the first government statistics on household food insecurity during lockdown.
Today, we have published five new reports which look further at the impact of COVID-19 on consumers and their food. The reports also include the predictions of our expert panel.
When people went into lockdown, supermarket shelves were stripped bare and stockpiling was widely reported. However, the evidence actually suggests that the shortages were caused by a large number of people buying slightly more, rather than mass stockpiling. People went back to doing one weekly shop – less frequent, but spending more.
Demand for online shopping soared, and at first supermarkets could not keep up with demand. Many people said they worried about returning to normal, and in particular, eating in restaurants. Many said they were increasingly interested in vegan and plant-based food.
However, many were not so lucky. Young people and families were hardest hit, financially. After just a month of lockdown more than 200,000 children had to skip meals because their family didn’t have enough food during lockdown. Food bank charities saw huge surges in demand. We know that people take more risks with food safety if they are worried about not having enough food.
Meanwhile, people were cooking more from scratch, freezing more food and throwing less away. They said they snacked more, but also were buying more vegetable boxes, getting deliveries from local retailers and buying fish direct from the fisherman. However, farmers selling products like raw drinking milk to customers directly as well as people using Facebook Marketplace to sell food, could have been putting people at risk.
People cooking at home wanted mince and burgers. Expensive meat, like steak, wasn’t needed as much for restaurants, nor were dairy products. However, this meant that there were initially some serious storage and transport issues as businesses struggled to cope with excess stock.
Established business models have changed fast, with wholesalers opening online retail operations, restaurants converting to takeaways, or shutting for the duration. Supermarkets started to sell products destined for restaurants, while demand for local food boxes such as fruit and vegetable schemes sold from farms direct to the consumer soared.
Prepared for the future
The Board paper and the reports contain much more detail, and I hope you find them interesting. What we learnt has helped us to tailor our responses in real time, especially in our communications. Being quick and actively understanding the statistics fed into Ministerial-level decisions to make sure people got enough to eat; they informed the recent National Food Strategy report, and they are now used as part of Public Health England’s monitoring of the impact of COVID-19.
Drawing on a wider range of data, synthesising it, triangulating it with other sources such as real-time social media listening, and reporting quickly and regularly, helped us to make the right strategic decisions.
The team worked incredibly hard to do it and we’ve now built an approach that the FSA will be able to call upon in future. It has aligned with one of our Areas of Research Interest around the future of food systems, which asks how we can remain responsive to the changing world around us.
The impact of the virus and, in the longer term, the economic and social changes that we are seeing, will all have a bearing on food and consumers. We want to be ready.
Sganio’r gorwel a’r system fwyd
Michelle Patel, Pennaeth Gwyddor Gymdeithasol, yn ystyried rôl sganio’r gorwel a’i bwysigrwydd wrth baratoi at y dyfodol.
Heddiw rydym ni wedi cyhoeddi papur y Bwrdd ynglŷn â sganio’r gorwel a sut rydym ni wedi defnyddio'r egwyddorion i'r achos o Covid-19. Mewn byd sy'n newid mae'n bwysicach nag erioed ein bod ni'n dysgu darllen yr arwyddion o'n cwmpas i fod mor barod ag y gallwn ni i ymateb i'r hyn sydd ei angen gennym ni ar ddefnyddwyr a'r system fwyd.
Beth yw sganio’r gorwel?
Mae sganio’r gorwel yn golygu edrych i’r dyfodol i weld beth sydd ar y gweill, hyd yn oed os nad yw'n glir ar unwaith. Y llynedd, cyflwynodd ein Cyngor Gwyddoniaeth eu barn i Fwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ar sut y gallem wneud hyn yn well, gan dynnu ar lawer o ffynonellau gwybodaeth i ddeall sut mae’r byd yn newid. Roedd hyn yn cynnwys gwyliadwriaeth, dadansoddiad economaidd, gwyddor gymdeithasol, arloesi technolegol, data masnach a gwyddoniaeth data, i ddeall sut mae'r byd yn newid.
Dechreuon ni trwy edrych ar newidiadau tymor hwy mewn pethau fel technoleg – er enghraifft ar gig wedi’i dyfu mewn labordy a golygu genynnau – ond rhoddodd argyfwng Covid-19 gyfle i ni ddefnyddio'r egwyddorion hyn ar unwaith.
Roedd effaith Covid-19 ar fwyd yn enfawr, yn frys ac yn gymhleth. Gofynnwyd i mi lunio tîm i ateb (ac yn rhannol i ragweld) y cwestiynau a oedd y tu allan i'r ymateb argyfwng o ddydd i ddydd ac i dynnu ar yr holl wybodaeth a oedd ar gael er mwyn edrych ymhellach. Ochr yn ochr â hynny, fe wnaeth panel o arbenigwyr ein helpu i adnabod pethau y gallem fod wedi'u methu. Yna daethom â mewnwelediadau (insights) o:
- waith dadansoddi gweithredol
- gwyddor data
- yr ymchwil economaidd, marchnad a chymdeithasol ddiweddaraf
- gwybodaeth gan y diwydiant bwyd
- adrannau eraill y Llywodraeth
- ymchwil sylfaenol yr ASB gan gynnwys ymchwil ansoddol, arolygon defnyddwyr a gwrando ar y cyfryngau cymdeithasu.
Effaith Covid-19 ar ddefnyddwyr
Ym mis Mehefin, gwnaethom gyhoeddi'r adroddiadau cyntaf o'n hymchwil sylfaenol, gan ddarparu ystadegau cyntaf y Llywodraeth ar ansicrwydd bwyd yn y cartref yn ystod y cyfnod clo.
Heddiw, rydym ni wedi cyhoeddi pum adroddiad newydd sy'n edrych ar effaith Covid-19 ar ddefnyddwyr a'u bwyd, yn ogystal â rhagfynegiadau ein panel arbenigol. Ar ddechrau’r cyfnod clo, roedd silffoedd archfarchnadoedd yn wag ac roedd llawer o sôn am bentyrru stociau. Fodd bynnag, mae'r dystiolaeth mewn gwirionedd yn awgrymu bod y prinder wedi ei achosi gan nifer fawr o bobl yn prynu ychydig yn fwy yn hytrach na phobl yn pentyrru stociau.
Aeth pobl yn ôl i wneud un siop wythnosol – yn llai aml ond yn gwario mwy. Cynyddodd y galw am siopa ar-lein, ac ar y dechrau nid oedd archfarchnadoedd yn gallu ymateb i'r galw. Dywedodd llawer o bobl eu bod yn poeni am ddychwelyd i normal, ac yn benodol, fwyta mewn bwytai. Dywedodd llawer eu bod yn dechrau ymddiddori mewn bwyd figan a bwyd llysieuol.
Fodd bynnag, nid oedd llawer o bobl mor lwcus. Pobl ifanc a theuluoedd a gafodd eu taro galetaf, yn ariannol. Ar ôl dim ond mis o fod yn y cyfnod clo, roedd yn rhaid i fwy na 200,000 o blant hepgor prydau bwyd oherwydd nad oedd gan eu teulu ddigon o fwyd yn ystod y cyfnod clo. Roedd cynnydd enfawr yn nifer y bobl yn defnyddio elusennau banciau bwyd. Rydym ni’n gwybod bod pobl yn cymryd mwy o risgiau gyda diogelwch bwyd os ydyn nhw'n poeni am gael digon.
Yn y cyfamser, roedd pobl yn coginio mwy o brydau cartref, yn rhewi mwy o fwyd ac yn gwastraffu llai o fwyd. Dywedon nhw eu bod wedi bwyta byrbrydau yn fwy aml, ond hefyd eu bod yn prynu mwy o focsys llysiau, yn cael nwyddau gan fanwerthwyr lleol ac yn prynu pysgod yn uniongyrchol gan y pysgotwr. Fodd bynnag, gallai ffermwyr sy'n gwerthu pethau fel llaeth yfed amrwd i bobl yn uniongyrchol yn ogystal â phobl sy'n defnyddio Facebook Marketplace i werthu bwyd roi pobl mewn perygl.
Roedd pobl a oedd yn coginio gartref eisiau briwgig (mince) a byrgyrs. Nid oedd angen cymaint o gig drud, fel stêc, ar gyfer bwytai, na chynhyrchion llaeth chwaith. Fodd bynnag, roedd hyn yn golygu bod rhai problemau storio a chludo difrifol wrth i fusnesau ymdrechu i ymdopi â gormod o stoc.
Mae modelau busnes sefydledig wedi newid yn gyflym, gyda chyfanwerthwyr yn agor gweithrediadau manwerthu ar-lein, bwytai yn trosi i siopau tecawê neu'n cau am y tro. Dechreuodd archfarchnadoedd werthu cynhyrchion a oedd i fod ar gyfer bwytai, tra bod y galw am focsys bwyd lleol fel cynlluniau ffrwythau a llysiau a werthir o ffermydd yn uniongyrchol i'r defnyddiwr wedi cynyddu.
Bod yn barod ar gyfer y dyfodol
Mae llawer mwy o fanylion ym mhapur y Bwrdd a'r adroddiadau, a gobeithio y byddan nhw o ddiddordeb i chi. Mae'r hyn a wnaethom ddysgu wedi ein helpu i deilwra ein hymatebion mewn amser real, yn enwedig ar gyfathrebu. Roedd bod yn gyflym gyda'r ystadegau’n golygu eu bod wedi’u hystyried yn rhan o benderfyniadau ar lefel Gweinidogol i sicrhau bod pobl yn cael digon i'w fwyta; roedd yr ystadegau wedi llywio adroddiad diweddar y Strategaeth Fwyd Genedlaethol ac maent bellach yn cael eu defnyddio fel rhan o waith monitro Iechyd Cyhoeddus Lloegr ar effaith Covid-19.
Roedd tynnu ar ystod ehangach o ddata, ei gyfosod, a’i driongli â ffynonellau eraill fel gwrando ar y cyfryngau cymdeithasu mewn amser real, ac adrodd yn gyflym ac yn rheolaidd yn ein helpu i wneud y penderfyniadau strategol cywir.
Gweithiodd y tîm yn anhygoel o galed i wneud hyn ond rydym ni bellach wedi adeiladu dull y bydd yr ASB yn gallu ei ddefnyddio yn y dyfodol. Mae'n cyd-fynd ag un o'n Meysydd o ddiddordeb Ymchwil o amgylch dyfodol systemau bwyd sy'n gofyn sut y gallwn ni barhau i ymateb i'r byd sy'n newid o'n cwmpas.
Bydd effaith y feirws, ac yn y tymor hwy, y newidiadau economaidd a chymdeithasol yr ydym i gyd yn eu gweld yn cael effaith ar fwyd a defnyddwyr. Rydym ni am fod yn barod.
Leave a comment