Skip to main content

https://food.blog.gov.uk/2020/10/06/why-is-black-history-month-important-a-personal-view/

Why is Black History Month important? A personal view

Posted by: , Posted on: - Categories: People

Black History Month

Cymraeg

Sushma Acharya reflects on the evolving place of Black History Month in modern society, and what she will take from the celebrations this October.

 

Black History Month (BHM) takes place each October and has grown into a prominent platform to represent BAME (Black, Asian and Minority Ethnic) experiences.

Having worked in multiple roles in different departments and agencies during my 20 years in the Civil Service, and through my work in the legal profession before that, I have seen first-hand the challenges faced by BAME employees in different organisations.

I wouldn’t describe myself as BAME. David Lammy has said “it’s a lazy piece of jargon”, and some hate it. Most people though think that we do need some term to use to represent our collective experiences, and that’s the best we’ve got right now.

The origins of Black History Month

BHM began specifically to celebrate African Americans and their achievements. It has spread slowly, coming to the UK from the USA in 1987. It has caught on gradually in some areas but in recent years it has grown in prominence, albeit at a relatively low-key level. Having been involved in organising BHM events for a number of years, to me it has always seemed a bit of a struggle to get people interested, involved or even just to endorse events. This has been challenging.

This year, however, seems different. It seems that there has been a convergence of stories that no one can ignore. From racist chants at football matches, to the debate over whether statues should stay or go, the presence of racial inequality has been stark and for all to see.

These things have of course been around for years. They have been talked about seriously without getting anywhere much. But is this recent momentum the breakthrough which will result in us being treated differently? And do we all want the same thing?

A common ground for minorities

For the Civil Service, the questions are profound. We collect information through BAME statistics, so we can see that currently only 6% of Senior Civil Servants across the Civil Service have identified as BAME. BAME as a reference in this context is useful to expose and address very real inequalities, but maybe we could drill down further. Recording heritage instead, would perhaps help us to unpack these inequalities and move beyond BAME as a catch-all marker, into an understanding of diversity in the workplace that’s real and actionable.

The official aim of BHM in the UK is to “celebrate the culture, history and achievement of Britain’s African and Caribbean communities”. That’s an important focus for the event, but I think about BHM as a space to talk about the things that minorities have in common. We can find common ground in the ethnicity pay gap, the fact that minorities have experienced similar discrimination and that we have often helped each other through difficult times in our personal and professional lives.

BHM is a reminder that we all have hidden histories. It’s a moment to remember that many similar stories have also been forgotten or erased. We would do well to remember the old African proverb: ‘Until the lion learns to write, every story will glorify the hunter.’ In all this, we should not forget that there are white people too who have suffered discrimination. This is inclusive, not divisive.

The impact of Black History Month

We may not solve the weighty issues afflicting the world through BHM alone, but we can raise and debate these issues. We can give emphasis to what it means to be British, focus on how we contribute, and look at how we can enrich our country’s story in a positive way. BHM is just the start.

As members of the Civil Service, and as a responsible employer, we can link black history with our strategy-making. Our leaders can make inclusiveness a meaningful part of our strategy, vision, KPIs and business as usual. We can carry this on all year round and bring inclusion into the real world.

So, over the coming month, let’s think about these things and how we can do better. Let’s consider the role we all play in achieving this. At the same time, let’s have some fun with it.

Black History Month at the Food Standards Agency

At the Food Standards Agency, our BAME network has created a remarkable calendar of events and discussions throughout October to highlight BHM. I’m really looking forward to the fantastic schedule which the volunteer team have organised. It includes talks, a poetry competition, a Balti challenge (there is always a food element!), but also opportunities to learn some key facts which even I did not know.

For example, did you know that Henrietta Lacks, born in 1920, has had her cells used for medical research and development the polio vaccine; and cancer, AIDS and other types of medical research. Just imagine. Her headstone sums it up: ‘Here lies Henrietta Lacks (HeLa). Her immortal cells will continue to help mankind forever’.

It’s never too late to learn, engage and celebrate great people. I hope that the lessons of BHM will mean that in the future our children will have the freedom to live and thrive without any hindrance in a world where we respect differences and each other. I want them to have opportunities to do their best and have no limits. Everyone deserves this irrespective of who or what they are.

This Black History Month let’s remember that it’s about living free lives unhindered by the society in which we live and remembering the stories of those who have come before.

Pam mae Mis Hanes Pobl Dduon yn bwysig? - Barn bersonol

Mae Sushma Acharya yn myfyrio ar le esblygol Mis Hanes Pobl Dduon yn y gymdeithas fodern, ac yn rhannu sut y bydd hi'n cymryd rhan yn y dathliadau ym mis Hydref.

 

Mae Mis Hanes Pobl Dduon (BHM) yn digwydd bob mis Hydref ac mae wedi tyfu i fod yn blatfform amlwg i gynrychioli profiadau BAME (Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig).

Ar ôl gweithio mewn sawl rôl mewn gwahanol adrannau ac asiantaethau yn ystod fy 20 mlynedd yn y Gwasanaeth Sifil, a thrwy fy ngwaith yn y proffesiwn cyfreithiol cyn hynny, rydw i wedi gweld o lygad y ffynnon yr heriau sy'n wynebu gweithwyr BAME mewn gwahanol sefydliadau.

Fuaswn i ddim yn disgrifio fy hun fel BAME, a dydw i ddim yn credu y byddai llawer o bobl. Mae David Lammy wedi dweud “it’s a lazy piece of jargon”, ac mae rhai yn ei gasáu. Mae'r rhan fwyaf o bobl, serch hynny, o'r farn bod angen rhyw derm arnom i'w ddefnyddio i gynrychioli ein profiadau ar y cyd, a dyna'r gorau sydd ar gael ar hyn o bryd.

Tarddiad Mis Hanes Pobl Dduon (BHM)

Dechreuodd BHM yn benodol i ddathlu Americanwyr Affricanaidd a'u cyflawniadau. Mae wedi lledaenu'n araf, gan ddod i'r Deyrnas Unedig (DU) o Unol Daleithiau America (UDA) ym 1987. Mae wedi bwrw gwreiddiau’n raddol mewn rhai meysydd ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi dod fwy amlwg, er bod hynny ar lefel gymharol isel. Ar ôl bod yn rhan o drefnu digwyddiadau BHM am nifer o flynyddoedd, i mi mae bob amser wedi bod yn eithaf anodd ennyn diddordeb pobl, i’w hannog i gymryd rhan neu hyd yn oed i’w cael i hyrwyddo digwyddiadau. Mae hyn wedi bod yn heriol.

Mae eleni, fodd bynnag, i weld yn wahanol. Mae'n ymddangos y bu llu o straeon na all unrhyw un eu hanwybyddu. O ganeuon hiliol mewn gemau pêl-droed, i'r gydnabyddiaeth bod symbol sy’n cynrychioli da i un person yn symbol o ddrygioni a gormes i rywun arall, mae presenoldeb anghydraddoldeb hiliol wedi bod yn amlwg i bawb ei weld.

Mae'r pethau hyn wedi bod o gwmpas ers blynyddoedd wrth gwrs. Maen nhw wedi’u trafod o ddifrif ond heb wneud fawr o gynnydd. Ond ai’r momentwm diweddar hwn yw’r datblygiad arloesol a fydd yn golygu ein bod yn cael ein trin yn wahanol? Ac a ydym ni i gyd eisiau'r un peth?

Tir cyffredin i grwpiau lleiafrifol

Ar gyfer y Gwasanaeth Sifil, mae'r cwestiynau'n ddwys. Rydym ni’n casglu gwybodaeth trwy ystadegau BAME, felly gallwn ni weld mai dim ond 6% o Uwch Weision Sifil ar draws y Gwasanaeth Sifil sydd wedi nodi eu bod o gefndir BAME ar hyn o bryd. Mae BAME fel cyfeiriad yn y cyd-destun hwn yn ddefnyddiol i ddatgelu a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau real iawn. Ond efallai y gallem dyrchu’n ddyfnach. Byddai cofnodi treftadaeth yn lle hynny efallai'n ein helpu i fynd i’r afael â'r anghydraddoldebau hyn a symud y tu hwnt i BAME fel term cyffredinol, a symud tuag at ddealltwriaeth o amrywiaeth yn y gweithle sy'n real ac y gellir ei weithredu.

Nod swyddogol BHM yn y DU yw “dathlu diwylliant, hanes a chyflawniad cymunedau Affricanaidd a Charibïaidd Prydain”. Mae hynny'n ganolbwynt pwysig i'r digwyddiad, ond dwi’n meddwl am BHM fel gofod i siarad am y pethau sydd gan grwpiau lleiafrifol yn gyffredin. Gallwn ddod o hyd i dir cyffredin yn y bwlch cyflog ethnigrwydd, y ffaith bod grwpiau lleiafrifol wedi profi gwahaniaethu tebyg a'n bod yn aml wedi helpu ein gilydd trwy gyfnodau anodd yn ein bywydau personol a phroffesiynol.

Mae BHM yn ein hatgoffa bod gan bob un ohonom ni hanesion cudd. Mae'n foment i gofio bod llawer o straeon tebyg hefyd wedi’u hanghofio neu eu dileu. Dyma ddwyn i gof hen ddihareb Affricanaidd (wedi’i gyfieithu): “Hyd nes i’r llew ddysgu sut i ysgrifennu, bydd pob stori yn gogoneddu’r heliwr.” Yn hyn oll, ddylen ni ddim anghofio bod pobl wyn hefyd wedi dioddef gwahaniaethu. Y nod yw cynnwys ac nid gwahanu.

Effaith Mis Hanes Pobl Dduon

Efallai na fyddwn ni’n datrys y materion pwysig sy'n poeni’r byd trwy BHM yn unig, ond gallwn godi’r materion hyn a’u trafod. Gallwn roi pwyslais ar beth mae'n ei olygu i fod yn Brydeiniwr, canolbwyntio ar sut rydym ni’n cyfrannu, ac edrych ar sut y gallwn ni gyfoethogi stori ein gwlad mewn ffordd gadarnhaol. Dim ond y dechrau yw BHM.

Fel aelodau o'r Gwasanaeth Sifil, ac fel cyflogwr cyfrifol, gallwn ni gysylltu hanes pobl dduon â'n dull llunio strategaeth. Gall ein harweinwyr wneud cynhwysiant yn rhan ystyrlon o'n strategaeth, ein gweledigaeth, ein dangosyddion perfformiad allweddol a’n busnes fel arfer. Gallwn fwrw ymlaen â’r gwaith yma trwy gydol y flwyddyn a gwireddu cynhwysiant go iawn.

Felly, dros y mis nesaf, gadewch i ni feddwl am y pethau hyn a sut y gallwn ni wneud yn well. Gadewch i ni ystyried y rôl rydym ni i gyd yn ei chwarae wrth gyflawni hyn. Ar yr un pryd, gadewch i ni fwynhau hefyd.

Mis Hanes Pobl Dduon yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd, mae ein rhwydwaith BAME wedi creu calendr rhyfeddol o ddigwyddiadau a thrafodaethau trwy gydol mis Hydref i dynnu sylw at BHM. Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at yr amserlen wych y mae'r tîm gwirfoddol wedi'i threfnu. Mae'n cynnwys sgyrsiau, cystadleuaeth farddoniaeth, her Balti (mae yna wastad elfen fwyd!), ond hefyd cyfleoedd i ddysgu rhai ffeithiau allweddol nad oeddwn i’n eu gwybod hyd yn oed.

Er enghraifft, oeddech chi'n gwybod bod celloedd Henrietta Lacks, a aned ym 1920, wedi’u defnyddio ar gyfer ymchwil feddygol ac i ddatblygu'r brechlyn polio; a chanser, AIDS a mathau eraill o ymchwil feddygol? Dychmygwch! Mae ei charreg fedd yn dweud y cyfan: ‘Here lies Henrietta Lacks (HeLa). Her immortal cells will continue to help mankind forever’.

Dydy hi byth yn rhy hwyr i ddysgu, ymgysylltu a dathlu pobl wych. Gobeithio y bydd gwersi BHM yn golygu y bydd gan ein plant ni ryddid i fyw a ffynnu yn y dyfodol heb unrhyw rwystr mewn byd lle rydym ni'n parchu gwahaniaethau ac yn parchu ein gilydd. Rydw i am iddyn nhw gael cyfleoedd i wneud eu gorau, heb unrhyw derfynau. Mae pawb yn haeddu hyn waeth pwy neu beth ydyn nhw.

Yn ystod Mis Hanes Pobl Dduon, gadewch i ni gofio ei fod yn ymwneud â byw bywydau rhydd heb rwystr gan y gymdeithas yr ydym ni’n byw ynddi a chofio straeon y rhai o’r gorffennol.

Sharing and comments

Share this page

Leave a comment

We only ask for your email address so we know you're a real person

By submitting a comment you understand it may be published on this public website. Please read our privacy notice to see how the GOV.UK blogging platform handles your information.