As we enter British Science Week 2021, we are publishing the first step in our exploration of citizen science and its application to FSA research areas.
Our new report, Citizen Science and Food: A Review sets out citizen science as it has been applied to the FSA research priorities. This review is the first part of an exciting project to explore how we can involve the people and communities we serve in building the evidence on which policy decisions are made.
What is citizen science?
There is no one size fits all definition for citizen science, but projects essentially involve engaging with communities and asking them to be part of the project, either through engaging them in data collection or through other ways of co-creation. For participants, citizen science offers learning opportunities, the satisfaction of contributing to scientific evidence and the potential to influence policy. It can also give us data which is high in volume, has a wide geographical spread, is relatively quick to deploy and that we couldn’t access any other way.
It lends itself well to evidence-based policy development and has been endorsed by the European Commission for Research, Science and Innovation as a key part of their Science With And For Society work programme.
As part of our commitment to exploring innovative methods and their application to priority research areas, the Food Standards Agency is keen to explore what it can do in this space. The report demonstrates that the research community are already undertaking numerous pieces of research that align with FSA evidence needs. This includes fascinating examples from the UK and global communities, where participants have collected data on topics ranging from food preparation in the home to levels of chemical contaminant in foods.
Over the past decade, the use and popularity of citizen science has seen substantial growth, attributable (in part) to advances in web-based and mobile technology. As well as making participation more appealing for (some) citizen scientists, such advancements have improved data collection and management. Citizen science can be responsive to emerging trends and issues, enabling faster, more evidence-informed reactions to events.
Citizen science in a changing world
The last 12 months have demonstrated like never before that we live in a changing and often unpredictable world. As such, the scientific community may benefit from harnessing citizen science as a method to explore the full social, economic and health impacts of the COVID-19 crisis, as well as other challenges that society may face in the future.
The report is the first step in the FSA’s plan for citizen science. We want to build networks and harness the existing expertise within the research community. The next step will be the launch of a joint funding call with UK Research and Innovation, a leading research funder in this area. This will fund five pilot projects, with a duration of 6-9 months, that address FSA research interests.
The call will be launched on Thursday 18 March 2021 with details available on the UKRI funding finder from Thursday 11 March 2021. Ahead of this time, if anyone would like to talk further about citizen science at the FSA please contact Dr Rebecca Gillespie.
Pŵer pobl - sut mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn bwriadu harneisio Gwyddor Dinasyddion
Wrth i ni ddechrau dathlu Wythnos Gwyddoniaeth Prydain 2021, rydym ni’n cyhoeddi ein cam cyntaf o ran archwilio dull arloesol gwyddor dinasyddion a’i ddefnydd ym meysydd ymchwil yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Mae ein hadroddiad newydd, Citizen Science and Food: A Review yn nodi sut mae Gwyddor Dinasyddion wedi’i rhoi ar waith mewn perthynas â blaenoriaethau ymchwil yr ASB. Mae’r adolygiad hwn yn rhan gyntaf o brosiect cyffrous i archwilio sut y gallwn ni gynnwys y bobl a'r cymunedau rydym ni’n eu gwasanaethu wrth adeiladu'r dystiolaeth y mae penderfyniadau polisi yn seiliedig arni.
Nid oes un diffiniad i ddisgrifio pawb, ond yn y bôn mae prosiectau gwyddor dinasyddion yn cynnwys ymgysylltu â chymunedau a gofyn iddynt fod yn rhan o'r prosiect, naill ai trwy eu cynnwys wrth gasglu data neu drwy ffyrdd eraill o greu ar y cyd. Ar gyfer y rheiny sy’n cymryd rhan, mae gwyddor dinasyddion yn cynnig cyfleoedd dysgu, y boddhad o gyfrannu at dystiolaeth wyddonol a'r posibilrwydd o ddylanwadu ar bolisi. Gall hefyd roi data i ni sydd: yn uchel o ran cyfaint, sydd â lledaeniad daearyddol eang, ac sy'n gymharol gyflym i'w ddefnyddio ac na allem ni gael mynediad ato mewn unrhyw ffordd arall.
Mae gwyddor diansyddion yn addas ar gyfer datblygu polisïau seiliedig ar dystiolaeth ac mae wedi'i chymeradwyo gan y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil, Gwyddoniaeth ac Arloesi fel rhan allweddol o'i raglen waith Science With And For Society (SWAFS 2020).
Fel rhan o'n hymrwymiad i archwilio dulliau arloesol a'u defnyddio mewn meysydd ymchwil sydd â blaenoriaeth, mae'r ASB yn awyddus i archwilio'r hyn y mae’n gallu ei gyflawni. Mae'r adroddiad yn dangos bod y gymuned ymchwil eisoes yn cynnal nifer o ddarnau o ymchwil sy'n cyd-fynd ag anghenion tystiolaeth yr ASB, gydag enghreifftiau hynod ddiddorol o gymunedau'r Deyrnas Unedig (DU) ac yn fyd-eang, lle mae’r rheiny sy’n cymryd rhan wedi casglu data ar bynciau sy'n amrywio o baratoi bwyd yn y cartref i lefelau’r halogion cemegol mewn bwyd.
Dros y degawd diwethaf, mae’r defnydd o wyddor dinasyddion a’i boblogrwydd wedi gweld twf sylweddol, y gellir ei briodoli (yn rhannol) i ddatblygiadau technoleg symudol ac ar y we. Yn ogystal â gwneud cymryd rhan yn fwy apelgar ar gyfer (rhai) gwyddonwyr dinasyddion, mae datblygiadau o'r fath wedi gwella prosesau casglu a rheoli data. Gall gwyddor dinasyddion ymateb i dueddiadau a materion sy'n dod i'r amlwg a galluogi ymatebion cyflymach sy'n seiliedig ar dystiolaeth i ddigwyddiadau.
Gwyddor Dinasyddion mewn byd sy'n newid.
Mae'r 12 mis diwethaf wedi dangos ein bod ni’n byw mewn byd sy'n newid ac sy’n aml yn anrhagweladwy. O'r herwydd, gall y gymuned wyddoniaeth elwa o harneisio'r dull hwn i archwilio effeithiau cymdeithasol, economaidd ac iechyd llawn argyfwng COVID-19 yn ogystal â heriau eraill y gallai ein cymdeithas eu hwynebu yn y dyfodol.
Yr adroddiad yw'r cam cyntaf yng nghynllun yr ASB ar gyfer gwyddor dinasyddion. Rydym ni am adeiladu rhwydweithiau a harneisio'r arbenigedd presennol yn y gymuned ymchwil. Y cam nesaf fydd lansio galwad ariannu ar y cyd gydag UK Research and Innovation, sy’n gorff ariannu ymchwil blaenllaw yn y maes hwn, i ariannu pump prosiect peilot (i bara rhwng 6 a 9 mis) sy'n mynd i'r afael â diddordebau ymchwil yr ASB.
Bydd yr alwad yn cael ei lansio ddydd Iau 18 Mawrth 2021 gyda manylion ar gael ar adnodd canfod cyllid UKRI o ddydd Iau 11 Mawrth 2021. Cyn yr adeg hon, os hoffai unrhyw un siarad ymhellach am Wyddor Dinasyddion yn yr ASB cysylltwch â Dr Rebecca Gillespie.
Leave a comment