Skip to main content

This blog post was published under the 2015-2024 Conservative Administration

https://food.blog.gov.uk/2023/07/21/and-the-winner-of-the-rcvs-impact-award-is-collin-willson/

And the winner of the RCVS Impact Award is... Collin Willson!

Collin Willson at the RCVS Awards Day. He is in front of a large screen that says "I am honoured to have been nominated by the BVA and veterinary colleagues for this award. It is a reflection of the continuing work by BVA to advance the understanding of animal welfare.

Cymraeg

The FSA has long been proud of all of its vets and the vital work they do.

The challenge has been that this work protecting public health, animal health and welfare and underpinning international trade often goes unnoticed by the public and frequently by the wider veterinary profession. Our colleagues in the clinical veterinary world hold the public imagination much more and yet, without undermining clinical practice, the profession also offers many other interesting opportunities and career paths.

Imagine then, our delight when Collin not only won the Impact Award from The Royal College of Veterinary Surgeons (RCVS) but was nominated by British Veterinary Association (BVA) President Malcolm Morley. Collin has a lifetime of achievements which deserve nominations in their own right but the ‘catapult’ for this particular award is his vital work on welfare at slaughter, especially his work with the Halal meat industry.

The ongoing impact of his work will positively affect millions of animals… and knowing Collin, he will just shrug and continue making a difference in his own humble way.

Here's what Collin says about his RCVS Impact Award win:

On 24 April 2023, I received an email from RCVS and as many vets would, I wondered what it was about. It was a letter from the RCVS President Melissa Donald saying:

I am delighted to inform you that you were recently nominated for the RCVS Impact Award, and that the Council of the RCVS, at its meeting on Thursday, 16 March 2023, unanimously agreed to bestow this award upon you.

At this time it was embargoed, so apologies to the many people that I met between then and 28 April when the RCVS press release told all.

The press release stated that:

His nominator was current BVA President Malcolm Morley MRCVS, who said: “As Chair of BVA's Welfare at Slaughter Working Group, Collin led the development of our position on welfare at slaughter and has been instrumental in developing relationships with Halal certification body representatives to further our mutual aims of good welfare from farm to fork.

“In collaboration with Dr Awal Fuseini, Collin has transformed the way in which the veterinary profession engages with key stakeholders in the Halal sector to create a better understanding of the requirements of Halal meat production, and has enabled the sharing and recognition of the evidence-base relating to welfare at slaughter. Through his careful negotiation and management of relationships he has been instrumental in fostering a mutual respect and trust between the profession and community leaders.”

I still find it an honour three months later and remain humbled that my professional colleagues considered my work worthy of an award. I am proud to join the many previous recipients of this prestigious award.

I am very pleased that animal welfare at slaughter has been recognised in the award of this recognition.

The highlight of the award is the annual RCVS awards ceremony, this year was held on 7 July at 1 Great George St, London. I was fortunate that my wife and two daughters were able to join me for the day and we enjoyed a day in London at a fantastic venue to receive the award. I am not sure if my wife and daughters found the RCVS awards more exciting, or the fact that they saw the trooping of the colour whilst the AGM was being held.

We travelled back home to South Wales with lots of photos and videos and memories of a fantastic day out that will stay with us forever.


I had the pleasure of joining Collin’s family at RCVS Awards Day to watch Collin receive his award in person and represent those of us who have chosen a different veterinary career pathway.

I have no hesitation in pushing Collin into the limelight to let him know how proud we all are of him.

Enillydd Gwobr Effaith Coleg Brenhinol y Milfeddygon (RCVS) yw... Collin Willson!

Collin Willson at the RCVS Awards Day. He is in front of a large screen that says "I am honoured to have been nominated by the BVA and veterinary colleagues for this award. It is a reflection of the continuing work by BVA to advance the understanding of animal welfare.

Mae milfeddygon a’r gwaith hanfodol y maent yn ei wneud o hyd wedi bod yn destun balchder i’r Asiantaeth Safonau Bwyd

Fodd bynnag, nid yw’r gwaith sy’n diogelu iechyd y cyhoedd, iechyd a lles anifeiliaid, ac sy’n sail i fasnach ryngwladol yn dwyn sylw’r cyhoedd na’r proffesiwn milfeddygol ehangach yn aml iawn. Mae ein cydweithwyr yn y byd milfeddygol clinigol yn well am ddal dychymyg y cyhoedd ac, heb danseilio ymarfer clinigol, mae’r proffesiwn hefyd yn cynnig llawer o gyfleoedd a llwybrau gyrfa diddorol eraill.

Dychmygwch felly pa mor falch oeddem pan enillodd Collin, nid yn unig Gwobr Effaith Coleg Brenhinol y Milfeddygon (RCVS), ond hefyd pan gafodd ei enwebu gan Lywydd Cymdeithas Milfeddygon Prydain (BVA), Malcolm Morley. Mae gan Collin oes o gyflawniadau sydd oll yn haeddu enwebiadau. Fodd bynnag, yr hyn a arweiniodd at ennill y wobr arbennig hon oedd ei waith hanfodol ar les anifeiliaid adeg eu lladd, ac yn enwedig ei waith gyda’r diwydiant cig Halal.

Bydd effaith barhaus ei waith yn effeithio’n gadarnhaol ar filiynau o anifeiliaid... a o nabod Collin, bydd yn codi’i ysgwyddau a pharhau i wneud gwahaniaeth yn ei ffordd ddiymhongar ei hun.

Dyma air gan Collin am ennill Gwobr Effaith RCVS:

Ar 24 Ebrill 2023, cefais e-bost gan RCVS, ac fel llawer o filfeddygon, roeddwn i’n meddwl tybed beth oedd cynnwys y neges. Roedd yn cynnwys llythyr gan Lywydd RCVS, Melissa Donald, yn dweud:

Mae’n bleser gennyf ddweud y cawsoch eich enwebu’n ddiweddar ar gyfer Gwobr Effaith RCVS, a bod Cyngor y RCVS, yn ei gyfarfod ddydd Iau, 16 Mawrth 2023, wedi cytuno’n unfrydol i ddyfarnu’r wobr hon i chi.

Roedd y newyddion dan embargo ar y pryd, felly ymddiheuriadau i’r nifer mawr o bobl a welais rhwng y cyfnod hwnnw a 28 Ebrill pan ddatgelodd datganiad i’r wasg yr RCVS y cwbl.

Nododd y datganiad i’r wasg:

Ei enwebydd oedd Llywydd presennol y BVA, Malcolm Morley MRCVS, a ddywedodd: “Fel Cadeirydd Gweithgor Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd BVA, arweiniodd Collin ar y gwaith i ddatblygu ein safbwynt ar les anifeiliaid adeg eu lladd. Mae hefyd wedi chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu perthnasoedd gyda chynrychiolwyr cyrff ardystio Halal, a hynny er mwyn hyrwyddo ein cyd-amcanion, sef sicrhau lles da o’r fferm i’r fforc.

“Mewn cydweithrediad â Dr Awal Fuseini, mae Collin wedi trawsnewid y ffordd y mae’r proffesiwn milfeddygol yn ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol yn y sector Halal i greu gwell dealltwriaeth o ofynion cynhyrchu cig Halal. Mae hefyd wedi galluogi rhannu a chydnabod tystiolaeth sy’n ymwneud â lles anifeiliaid adeg eu lladd. Trwy drafod a rheoli perthnasoedd yn ofalus, mae wedi chwarae rôl hanfodol wrth feithrin parch ac ymddiriedaeth rhwng y proffesiwn ac arweinwyr yn y gymuned.”

Mae’n dal yn anrhydedd i mi dri mis yn ddiweddarach ac rwy’n teimlo’n falch iawn o hyd fod fy nghydweithwyr proffesiynol yn meddwl bod fy ngwaith yn haeddu gwobr. Rwyf wrth fy modd yn ymuno â’r sawl sydd wedi ennill y wobr fawreddog hon yn y gorffennol.

Rwy’n falch iawn bod lles anifeiliaid adeg eu lladd hefyd wedi’i gydnabod.

Uchafbwynt ennill y wobr yw seremoni wobrwyo flynyddol RCVS, a gynhaliwyd eleni ar 7 Gorffennaf yn 1 Great George St, Llundain. Roeddwn yn ffodus bod fy ngwraig a’m dwy ferch wedi gallu ymuno â mi am y diwrnod, ac fe wnaethom fwynhau diwrnod yn Llundain mewn lleoliad gwych i dderbyn y wobr. Dydw i ddim yn gwybod beth oedd fwyaf cyffrous i’m gwraig a’m merched, y gwobrau RCVS neu’r ffaith eu bod wedi gweld seremoni Cyflwyno’r Faner yn ystod y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Gwnaethom deithio yn ôl i Dde Cymru gyda llawer o luniau a fideos ac atgofion am ddiwrnod gwych y byddwn yn ei gofio am byth.


Cefais y fraint o ymuno â theulu Collin ar Ddiwrnod Gwobrau RCVS i’w weld yn derbyn ei wobr yn bersonol, gan hefyd gynrychioli’r rheiny sydd wedi dewis llwybr gyrfa milfeddygol gwahanol.

Rwyf wrth fy modd yn canu clodydd Collin, gan sicrhau ei fod yn gwybod ein bod ni gyd yn hynod o falch ohono ef a’i lwyddiannau.

Sharing and comments

Share this page

Leave a comment

We only ask for your email address so we know you're a real person

By submitting a comment you understand it may be published on this public website. Please read our privacy notice to see how the GOV.UK blogging platform handles your information.