My six years as the FSA’s Chief Scientific Adviser have been eventful. There have been multiple general elections, the UK has left the EU, and we are in the midst of a global pandemic. All these things have affected the work of the FSA, ensuring there’s never been a dull moment in my time as a government scientist.
I started my career in biological science, moving into ecology. I have a fascination with the natural world - to help see it, protect it, and do something worthwhile. That is perhaps what led me to working for the FSA.
I didn’t consider myself an expert in food safety when I applied for the post, as most of my professional career had been on food systems in particular agriculture and the environment. But food is such a universal issue, and helping to create a safe, trusted and healthy food system for everybody sounded like a meaningful pursuit. I also liked the FSA ethos. It is committed to using science and evidence to inform decision-making at a fundamental level.
Our commitments to science and evidence
Government reliance on science and evidence as a base for decision-making has come to the fore during COVID-19, and it's pleasing to see. It’s also encouraging to see the growing public interest in how science is used to inform government policy.
To continue to build public trust, we must ensure that we are open and transparent in our decision-making. The FSA has an ongoing commitment to be open and transparent in its use of evidence. This means being clear on what we do and do not know, where we need to seek further evidence on an issue, how evidence is used, and why we think a course of action is correct.
It is this philosophy that is at the heart of one of the biggest projects I have worked on during my CSA term - the FSA’s risk analysis process. The process is broken down into three parts:
- risk assessment – the scientific part that assesses the nature of the hazard and how exposed and vulnerable people are likely to be.
- risk management – the consideration of the risk assessment and wider consumer issues to create advice to prevent or control the risk.
- risk communication – exchanging information on risk and effectively communicating risk and uncertainty.
This process will continue to protect consumer interests by providing the best independent, scientific advice to ensure all food sold in the UK complies with the highest safety standards. After the transition period, this process will be used to authorise regulated products for the UK market, such as additives and flavourings.
We will also make our own national human health risk assessment of, for example, genetically modified (GM) foods. It can also be used to evaluate other issues relating to food production, such as chemical washes.
World-leading in food safety regulation
We believe this process to be world-leading in food safety regulation, particularly in ensuring transparency, public understanding and trust in the advice we provide.
In-line with our core principles of openness and transparency, food safety risk management advice, including to government ministers, will be published. This includes the analysis and evidence on which that advice is based.
Other highlights of my time as CSA include driving the focus on antimicrobial resistance, where progress has been incredible. COVID-19 illustrates only too well what happens when you have no effective treatment for a microorganism.
I am also pleased that food hypersensitivity is now receiving more attention, having seen the impact of food allergies on everyday life. Reflecting on COVID public behaviour messages, the concept of doing things to protect others may help us in so many ways when people’s risk appetites or vulnerabilities might be different.
I’ve no doubt that the next six years will bring their own challenges, and I wish my successor all the best in the role. I do hope I can stay in close contact in my new job with UK Research and Innovation (UKRI), as we look forward to a UK food system which ensures healthy humans and a healthy environment.
Yr Athro Guy Poppy yn myfyrio ar ei amser fel Prif Gynghorydd Gwyddonol yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB).
Mae gweithio am chwe blynedd fel Prif Gynghorydd Gwyddonol yr ASB wedi bod yn gyffrous. Bu sawl etholiad cyffredinol, mae'r Deyrnas Unedig (DU) wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd (UE), ac rydym ni yng nghanol pandemig byd-eang. Mae'r holl bethau hyn wedi effeithio ar waith yr ASB, gan sicrhau nad oes eiliad tawel wedi bod yn fy nghyfnod fel gwyddonydd i’r llywodraeth.
Dechreuais fy ngyrfa mewn gwyddor fiolegol, gan ganolbwyntio ar ecoleg. Rydw i’n gwirioni ar y byd naturiol - er mwyn helpu pobl i'w weld, ei ddiogelu, ac i wneud rhywbeth gwerth chweil. Dyna efallai a arweiniodd fi at weithio i'r ASB.
Doeddwn i ddim yn ystyried fy hun yn arbenigwr mewn diogelwch bwyd pan wnes i gais am y swydd, gan fod y rhan fwyaf o fy ngyrfa broffesiynol wedi canolbwyntio ar systemau bwyd, yn benodol amaethyddiaeth a'r amgylchedd. Ond mae bwyd yn fater mor gyffredinol, ac roedd helpu i greu system fwyd ddiogel, ddibynadwy ac iach i bawb yn swnio fel gwaith gwerth chweil. Hoffais ethos yr ASB hefyd. Fel adran anweinidogol, mae hi wedi ymrwymo i ddefnyddio gwyddoniaeth a thystiolaeth i lywio'r broses o wneud penderfyniadau ar lefel sylfaenol.
Ein hymrwymiadau i wyddoniaeth a thystiolaeth
Mae dibyniaeth y llywodraeth ar wyddoniaeth a thystiolaeth fel sylfaen ar gyfer gwneud penderfyniadau wedi dod i’r amlwg yn ystod COVID-19, ac mae’n braf bod arbenigwyr yn ôl mewn ffasiwn! Mae hefyd yn galonogol gweld diddordeb cynyddol y cyhoedd yn y modd y mae gwyddoniaeth yn cael ei defnyddio i lywio polisi'r llywodraeth.
Er mwyn parhau i adeiladu ymddiriedaeth y cyhoedd, rhaid inni sicrhau ein bod yn agored ac yn dryloyw wrth wneud penderfyniadau. Mae gan yr ASB ymrwymiad parhaus i fod yn agored ac yn dryloyw wrth ddefnyddio tystiolaeth. Mae hyn yn golygu bod yn glir am yr hyn rydym ni’n ei wneud ac nad ydym ni’n ei wybod, lle mae angen i ni geisio tystiolaeth bellach ar fater, sut mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio, a pham rydym ni’n credu bod llwybr gweithredu yn gywir.
Yr athroniaeth hon sydd wrth wraidd un o'r prosiectau mwyaf i mi weithio arno yn ystod fy nhymor fel Prif Gynghorydd Gwyddonol – proses dadansoddi risg yr ASB. Mae’r broses wedi’i rhannu yn dair rhan:
- asesiad risg – y rhan wyddonol sy'n asesu natur y perygl a pha mor debygol yw hi y bydd pobl yn agored ac yn fregus.
- rheoli risg – ystyried yr asesiad risg a materion ehangach i ddefnyddwyr er mwyn llunio cyngor i atal neu i reoli'r risg.
- cyfathrebu risg – cyfnewid gwybodaeth am risg a chyfathrebu risg ac ansicrwydd yn effeithiol.
Bydd y broses hon yn parhau i ddiogelu defnyddwyr trwy ddarparu'r cyngor gwyddonol annibynnol gorau i sicrhau bod yr holl fwyd a werthir yn y DU yn cydymffurfio â'r safonau diogelwch uchaf. Ar ôl y cyfnod pontio, bydd y broses hon yn cael ei defnyddio i awdurdodi cynhyrchion wedi’u rheoleiddio ar gyfer marchnad y DU, fel ychwanegion a chyflasynnau.
Byddwn ni hefyd yn gwneud ein hasesiad risg iechyd pobl cenedlaethol ein hunain o fwydydd sydd wedi’u haddasu yn enetig (GM), er enghraifft. Gellir hefyd defnyddio’r broses i werthuso materion eraill sy'n ymwneud â chynhyrchu bwyd, fel prosesau golchi cemegol.
Corff blaenllaw yn fyd-eang o ran rheoleiddio diogelwch bwyd
Credwn fod y broses hon yn arwain y byd o ran rheoleiddio diogelwch bwyd, yn arbennig o ran sicrhau tryloywder, dealltwriaeth y cyhoedd ac ymddiriedaeth yn y cyngor a ddarparwn.
Yn unol â'n hegwyddorion craidd sef trylowyder a bod yn agored, bydd cyngor ar reoli risg diogelwch bwyd a ddarperir i eraill, gan gynnwys gweinidogion y llywodraeth, yn cael ei gyhoeddi. Mae hyn yn cynnwys y dadansoddiad a'r dystiolaeth y mae'r cyngor hwnnw yn seiliedig arnynt.
Mae uchafbwyntiau eraill fy nghyfnod fel Prif Gynghorydd Gwyddonol yn cynnwys gyrru'r ffocws ar ymwrthedd gwrthficrobaidd, lle mae'r cynnydd wedi bod yn anhygoel. Mae COVID-19 yn enghraifft dda o’r hyn sy'n digwydd pan nad oes gennych driniaeth effeithiol ar gyfer micro-organeb.
Rwyf hefyd yn falch bod gorsensitifrwydd i fwyd bellach yn cael rhagor o sylw, ar ôl gweld effaith alergeddau bwyd ar fywydau bob dydd. Gan adlewyrchu ar negeseuon ymddygiad cyhoeddus COVID, gall y cysyniad o wneud pethau i ddiogelu eraill ein helpu mewn cymaint o ffyrdd pan allai parodrwydd pobl i dderbyn risg neu ba mor agored ydynt i gael eu heffeithio, fod yn wahanol.
Does gen i ddim amheuaeth y bydd y chwe blynedd nesaf yn dod â digon o heriau gwahanol, a hoffwn ddymuno'r gorau i'm holynydd yn y rôl. Rwy'n gobeithio y gallaf aros mewn cysylltiad agos yn fy swydd newydd gydag Ymchwil ac Arloesi’r DU (UKRI), wrth i ni edrych ymlaen at system fwyd yn y DU sy'n sicrhau pobl iach ac amgylchedd iach.
Leave a comment