Last week’s piece in The Guardian by Sonia Sodha, trailing a Radio 4 Analysis programme, struck a chord. I am just three weeks into my new job as the Food Standards Agency’s Chief Scientific Adviser and the article encapsulates for me both why the independent, evidence-based approach of the FSA is so critical and why it’s essential we stick to our principles first put in place when we were created 20 years ago.
As Ms Sodha’s article says, the BSE scandal of the 1980s and 90s was a defining moment in food safety for the UK. The day in March 1996 when the then Health Secretary, Stephen Dorrell, stood up in the House of Commons and announced that there was indeed a probable link between BSE and Creutzfeldt-Jakob's Disease, a fatal condition which affects humans, is written deep into our collective psyche. Mercifully, fewer people have died from this agonising disease than was thought likely to be the case at the time.
The scandal and the deep disquiet felt throughout the country led to the commissioning of Professor Philip James’s report in 1997 which called for a separate independent government department with no other interests in trade, industry and politics to be responsible for food safety. Up until then the Ministry of Agriculture, Fisheries and Food had responsibility for both promoting UK agricultural interests and regulating them.
In 2000 the FSA came into being, determined not to repeat the mistakes of the past and with a very clear mandate to put the consumer first, to be open and transparent and to make decisions based on the very best evidence and science available, without influence from government pressure.
This has not always been easy. Open Board discussions on fraught issues of the day like GM and advertising junk food to children meant pressure from all directions in the early to late 2000s. More recently we have tackled emotive issues such as allergen labelling and the regulation of cannabidiol (CBD) in our Board meetings, which are always streamed live and are open for questions.
I strongly believe the benefit for consumers and our stakeholders in government, local authorities and industry in us having these open discussions easily outweighs a more closed and secretive approach.
As an independent regulator we also advise ministers and Ms Sodha makes a really interesting point in her article, quoting Professor Peter Lunn who says that, in his experience, scientific advisers tend to be ‘more strident in communicating evidence if they know it will chime with what politicians want to hear.’ I believe this has never been the case with the FSA and it certainly won’t be under my watch.
Our advice will continue to be unvarnished, reflecting the best science and evidence available at the time. And that leads me onto my last point. Science changes. We have seen this very clearly with the COVID-19 pandemic and we as scientists and regulators need to accept this. This might mean changing our advice, or adding a nuance where there wasn’t one before. But most importantly, it means treating people like grown-ups and giving them the best advice we can, based on open and transparent scientific evidence.
Mae gwyddoniaeth agored a diduedd yn hanfodol, ond nid bob amser yn hawdd
Fe wnaeth darn Sonia Sodha yn y Guardian yr wythnos ddiwethaf, yn dilyn rhaglen Analysis ar Radio 4, daro tant. Dwi bellach yn fy nhrydedd wythnos yn fy swydd newydd fel Prif Gynghorydd Gwyddonol yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ac mae’r erthygl yn crynhoi i mi pam fod dull annibynnol, seiliedig ar dystiolaeth yr ASB mor hanfodol a pham ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n cadw at ein hegwyddorion a gyflwynwyd yn wreiddiol wrth sefydlu’r Asiantaeth 20 mlynedd yn ôl.
Fel y dywed erthygl Ms Sodha, roedd sgandal BSE yr 1980au a'r 90au yn foment ddiffiniol o ran diogelwch bwyd i'r Deyrnas Unedig. Mae'r diwrnod ym mis Mawrth 1996 pan gododd yr Ysgrifennydd Iechyd ar y pryd, Stephen Dorrell, ar ei draed yn Nhŷ'r Cyffredin a chyhoeddi bod cysylltiad tebygol rhwng BSE a Chlefyd Creutzfeldt-Jakob, cyflwr angheuol sy'n effeithio ar fodau dynol, wedi aros yn y cof i nifer o bobl. Mae’n ryddhad bod llai o bobl wedi marw o'r afiechyd creulon hwn na chredir oedd yn debygol disgwyl ar y pryd.
Arweiniodd y sgandal a’r gofid dwfn ledled y wlad at gomisiynu adroddiad yr Athro Philip James ym 1997 a oedd yn galw am adran lywodraeth annibynnol ar wahân heb unrhyw fuddiannau eraill mewn masnach, y diwydiant na gwleidyddiaeth i fod yn gyfrifol am ddiogelwch bwyd. Hyd hynny roedd gan y Weinyddiaeth Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gyfrifoldeb am hyrwyddo buddiannau amaethyddol y DU a'u rheoleiddio.
Yn 2000 daeth yr ASB i fodolaeth, yn benderfynol o beidio ag ailadrodd camgymeriadau’r gorffennol a gyda mandad clir iawn i roi’r defnyddiwr yn gyntaf, i fod yn agored ac yn dryloyw ac i wneud penderfyniadau yn seiliedig ar y dystiolaeth a’r wyddoniaeth orau sydd ar gael, heb ddylanwad o bwysau'r llywodraeth.
Nid yw hyn wedi bod yn hawdd bob amser. Roedd trafodaethau agored y Bwrdd ar faterion dadleuol y dydd fel bwyd GM a hysbysebu bwyd sothach i blant yn golygu pwysau o bob cyfeiriad drwy gydol y 2000au. Yn fwy diweddar rydym ni wedi mynd i'r afael â materion fel labelu alergenau a rheoleiddio canabidiol (CBD) yng nghyfarfodydd ein Bwrdd, sydd bob amser yn cael eu ffrydio'n fyw ac yn agored i gwestiynau.
Rydw i’n credu'n gryf bod y budd i ddefnyddwyr a'n rhanddeiliaid yn y llywodraeth, awdurdodau lleol a’r diwydiant yn y ffaith ein bod yn cynnal y trafodaethau hyn yn agored yn gorbwyso dull mwy caeedig a chyfrinachol yn hawdd.
Fel rheoleiddiwr annibynnol, rydym ni hefyd yn cynghori gweinidogion ac mae Ms Sodha yn nodi pwynt diddorol iawn yn ei herthygl, gan ddyfynnu'r Athro Peter Lunn sy'n dweud, yn ei brofiad ef, bod cynghorwyr gwyddonol yn tueddu i fod yn 'fwy grymus wrth gyfathrebu tystiolaeth os ydyn nhw'n gwybod y bydd yn cyd-fynd â’r hyn y mae gwleidyddion eisiau ei glywed.' Nid yw hyn wedi bod yn wir o ran yr ASB ac yn sicr ni fydd yn digwydd gyda mi wrth y llyw.
Bydd ein cyngor yn parhau i fod yn onest, gan adlewyrchu'r wyddoniaeth a'r dystiolaeth orau sydd ar gael ar y pryd. Ac mae hynny'n fy arwain at fy mhwynt olaf. Mae gwyddoniaeth yn newid. Rydym ni wedi gweld hyn yn glir iawn gyda'r pandemig COVID-19 ac mae angen i ni fel gwyddonwyr a rheoleiddwyr dderbyn hyn. Gallai hyn olygu newid ein cyngor, neu ychwanegu awgrymiadau lle nad oeddent i gael o'r blaen. Ond yn bwysicaf oll, mae'n golygu trin pobl fel oedolion a rhoi'r cyngor gorau y gallwn ni, yn seiliedig ar dystiolaeth wyddonol agored a thryloyw.
Leave a comment