Rick Mumford, Head of Science, Evidence and Research Directorate, reflects on our recently published report comparing the methodologies used to estimate foodborne disease in the UK to those in other countries. He considers what the report tells us about comparing international food standards.
At the Food Standards Agency (FSA), we are committed to putting safety and the consumer at the heart of everything we do.
One of the ways we do this is by providing expert, independent advice and risk assessment that is based on the very latest scientific research and evidence. Through doing this, we can continue to protect public health across England, Wales and Northern Ireland, and provide consumers with food they can trust.
With the COVID-19 pandemic and growing focus on international trade, we recognise that food safety and standards are a hot topic. As we work to maintain the highest possible food standards for now and the future, the generation and publication of research and evidence linked to this is essential.
Foodborne disease rates
This week, we have published the first of three scientific reports which all attempt to compare international food standards. Whilst topical, they are also perfect examples of work regularly carried out by FSA scientists and analysts. This is often in collaboration with colleagues from other organisations, across academia and government. Through this research, we have been able to improve our understanding of a range of data, plugging gaps in our knowledge. In turn, this helps us give the best advice possible to decision-makers and other stakeholders.
Our first publication is a comparison of the ways different countries estimate infectious intestinal disease (IID) and foodborne disease (FBD) rates. Estimates are needed due to under-reporting; not everyone who gets ill will seek medical help and those who do will not always get a confirmed diagnosis. The data can then inform a country’s own food policy and prioritisation of resources.
In recent years, there have been attempts to compare relative foodborne disease rates of different countries. These rarely consider uncertainty in the individual country’s estimates, or the different estimation methods used. This report aimed to identify approaches used and assess whether comparisons between countries were fair, or even possible.
The study, commissioned by the FSA and carried out by Public Health England, uncovered three broad approaches used globally:
- Retrospective cross-sectional surveys - a representative sample of the population is contacted and asked about their symptoms in the recent past.
- Surveillance pyramid studies - an estimation of the number of cases missed due to either people not seeking medical help or the medical profession being unable to make a precise diagnosis of cause.
- Prospective cohort studies - a sample population is recruited in advance, then report weekly on any symptoms of illness and may also submit samples, so specific causes can be determined.
It is worth noting that the first and third of these approaches estimate IID from all sources (including food and non-food ones), so a further step of applying mathematical models is added to estimate the proportion of illness due to FBD.
Researchers concluded that the UK is using the most accurate approach available (prospective cohort studies). However, they also found that it is not possible to compare foodborne disease rates effectively between countries. This is due to the hugely different methodologies and recording systems employed.
What the results showed
The study found that internationally, retrospective cross-sectional surveys are the most commonly used, with rates of self-reported illness ranging from 0.31 to 1.4 episodes of IID per person per year. However, differences in the way nations approach these surveys, such as how they define cases and how well their sample size represents the whole population, can impact the rate and its reliability.
Similarly, the way estimates are calculated through surveillance pyramid studies vary between countries because they are based on the particular pathogens most relevant in each nation. Meanwhile, the quality and representativeness of surveillance systems within countries must be taken into account too.
Finally, prospective cohort studies were found to be the least commonly used, mainly due to the cost. However, they are deemed to be the most accurate way of estimating IID rates. This is due to symptomatic patients being sampled and tested, thus allowing the likely pathogen causing illness to be established. This direct attribution of cause through an accurate diagnosis, is lacking from other approaches.
The FSA have used this approach since our ground-breaking IID1 study, carried out in England in the mid-1990s, and again its follow-up study, IID2, in 2011. These two studies are unique in their continuity, in being the only prospective cohort studies conducted using the same methodology, repeated at different points in time and in the same country. This combination of factors means they provide a rare opportunity to reliably compare pathogen-specific estimates over time.
However, the report concludes that attempting to accurately compare different countries’ foodborne disease rates is an almost impossible task. The only way you could attempt this would be for different countries to have the same type of study with the exact same study specifications, over the same time period. Even then, differences in underlying surveillance data available in each country could cause issues, particularly in terms of determining what proportion of IID cases are due to food.
What next?
We have a much greater understanding of the different approaches taken across the globe and will continue to look and learn from this. As part of this ongoing commitment, we are planning to start a third IID study in 2021. It will further strengthen our understanding of foodborne disease and build on our knowledge of other studies from across the world.
In the coming months, we will also publish two more scientific comparison projects, to analyse:
- Foodborne disease rates in the UK, US, Australia and Canada in more detail, to be published in a peer-reviewed science journal;
- Food production methods worldwide, to help inform understanding of these different systems.
We will, as always, continue to publish the advice we provide to others, and the analysis and evidence on which that advice is based.
Cymharu safonau bwyd rhyngwladol
Yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), rydym ni wedi ymrwymo i roi diogelwch a defnyddwyr wrth wraidd popeth a wnawn. Un o'r ffyrdd rydym ni'n gwneud hyn yw trwy ddarparu cyngor ac asesiadau risg arbenigol ac annibynnol sy'n seiliedig ar yr ymchwil a'r dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf. Trwy wneud hyn, gallwn barhau i ddiogelu iechyd y cyhoedd ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon a sicrhau bwyd y gall defnyddwyr ymddiried ynddo.
Gyda phandemig Covid-19 a’r ffocws cynyddol ar fasnach ryngwladol, rydym ni’n cydnabod bod diogelwch a safonau bwyd yn bwnc llosg ar hyn o bryd. Wrth i ni weithio i gynnal y safonau bwyd uchaf posibl ar gyfer nawr a'r dyfodol, mae cynhyrchu a chyhoeddi ymchwil a thystiolaeth sy'n gysylltiedig â hyn yn hanfodol.
Cyfraddau clefyd a gludir gan fwyd
Yr wythnos hon, rydym ni wedi cyhoeddi'r cyntaf o dri adroddiad gwyddonol sydd oll yn ceisio cymharu safonau bwyd rhyngwladol. Er eu bod yn amserol, maent hefyd yn enghreifftiau perffaith o waith a gynhelir yn rheolaidd gan wyddonwyr a dadansoddwyr yr ASB. Mae hyn yn aml mewn cydweithrediad â chydweithwyr o sefydliadau eraill, ar draws y byd academaidd a'r llywodraeth. Trwy'r gwaith ymchwil hwn, rydym ni wedi gallu gwella ein dealltwriaeth o ystod o ddata, gan lenwi bylchau yn ein gwybodaeth. Yn ei dro, mae hyn yn ein helpu ni i roi'r cyngor gorau posibl i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau a rhanddeiliaid eraill.
Mae ein cyhoeddiad cyntaf yn gymhariaeth o'r ffyrdd y mae gwahanol wledydd yn amcangyfrif cyfraddau clefydau perfeddol heintus a chlefydau a gludir gan fwyd. Mae angen amcangyfrifon gan fod achosion yn cael eu tan-adrodd (underreport). Ni fydd pawb sy'n mynd yn sâl yn ceisio cymorth meddygol ac ni fydd y rhai sy'n gwneud hynny bob amser yn cael diagnosis wedi'i gadarnhau. Yna, gall y data lywio polisi bwyd y wlad dan sylw a’i helpu i flaenoriaethu adnoddau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu ymdrechion i gymharu cyfraddau clefydau a gludir gan fwyd mewn gwahanol wledydd. Anaml y bydd y rhain yn ystyried ansicrwydd yn amcangyfrifon y wlad unigol neu'r gwahanol ddulliau amcangyfrif a ddefnyddir. Nod yr adroddiad hwn oedd nodi dulliau a ddefnyddir ac asesu a oedd cymariaethau rhwng gwledydd yn deg neu hyd yn oed yn bosibl.
Datgelodd yr astudiaeth, a gomisiynwyd gan yr ASB ac a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr, dri dull eang a ddefnyddir yn fyd-eang:
- Arolygon trawsdoriadol ôl-weithredol - cysylltir â sampl gynrychioliadol o'r boblogaeth a gofynnir iddynt am eu symptomau yn y gorffennol diweddar.
- Astudiaethau pyramid gwyliadwriaeth - amcangyfrif o nifer yr achosion a gollwyd trwy pobl un ai ddim yn ceisio cymorth meddygol neu’r proffesiwn meddygol ddim yn gallu gwneud diagnosis penodol o’r achos.
- Astudiaethau carfan posibl - mae poblogaeth sampl yn cael ei recriwtio ymlaen llaw, ac yna’n adrodd yn wythnosol ar unrhyw symptomau salwch. Gallant hefyd gyflwyno samplau fel y gellir pennu achosion penodol.
Mae'n werth nodi bod y cyntaf a'r trydydd o'r dulliau hyn yn amcangyfrif clefydau perfeddol heintus o bob ffynhonnell (gan gynnwys o fwyd ac o ffynonellau nad ydynt yn fwy), felly ychwanegir cam pellach o gymhwyso modelau mathemategol i amcangyfrif cyfran y salwch a gludir gan fwyd.
Daeth ymchwilwyr i'r casgliad bod y Deyrnas Unedig (DU) yn defnyddio'r dull mwyaf cywir sydd ar gael (astudiaethau carfan posibl). Fodd bynnag, canfuwyd hefyd nad yw'n bosibl cymharu cyfraddau clefydau a gludir gan fwyd yn effeithiol rhwng gwledydd. Mae hyn oherwydd y methodolegau a'r systemau cofnodi tra wahanol a ddefnyddir.
Beth ddangosodd y canlyniadau
Canfu’r astudiaeth mai yn rhyngwladol, arolygon trawsdoriadol ôl-weithredol yw’r rhai a ddefnyddir amlaf, gyda chyfraddau salwch hunan-gofnodedig yn amrywio o 0.31 i 1.4 achlysur o glefydau perfeddol heintus fesul person bob blwyddyn. Fodd bynnag, gall gwahaniaethau yn y ffordd y mae gwledydd yn mynd i'r afael â'r arolygon hyn, fel y ffordd y maen nhw’n diffinio achosion a pha mor dda y mae maint eu sampl yn cynrychioli'r boblogaeth gyfan, effeithio ar y gyfradd a'i dibynadwyedd.
Yn yr un modd, mae'r ffordd y caiff amcangyfrifon eu cyfrifo trwy astudiaethau pyramid gwyliadwriaeth yn amrywio rhwng gwledydd oherwydd eu bod yn seiliedig ar y pathogenau penodol sydd fwyaf perthnasol ym mhob gwlad. Yn y cyfamser, rhaid ystyried ansawdd a chynrychiolaeth systemau gwyliadwriaeth mewn gwledydd hefyd.
Yn olaf, canfuwyd mai astudiaethau carfan posibl oedd y rhai a ddefnyddir leiaf, yn bennaf oherwydd y gost. Fodd bynnag, bernir mai dyma’r ffordd fwyaf cywir o amcangyfrif cyfraddau clefydau perfeddol heintus. Mae hyn oherwydd bod cleifion symptomatig yn cael eu samplu a'u profi, gan ganiatáu ar gyfer pennu’r pathogen tebygol sy'n achosi salwch. Mae'r drefn hon o briodoli achos yn uniongyrchol trwy ddiagnosis cywir, yn brin mewn dulliau eraill.
Mae'r ASB wedi defnyddio'r dull hwn ers ein hastudiaeth arloesol o Glefydau Perfeddol Heintus (IID1), a gynhaliwyd yn Lloegr yng nghanol y 1990au, ac eto ein hastudiaeth ddilynol, IID2, yn 2011. Mae'r ddwy astudiaeth hon yn unigryw yn eu parhad, gan mai nhw yw'r unig astudiaethau carfan posibl a gynhelir gan ddefnyddio'r un fethodoleg, a ailadroddir ar wahanol adegau ac yn yr un wlad. Mae'r cyfuniad hwn o ffactorau yn golygu eu bod yn rhoi cyfle prin i gymharu amcangyfrifon sy'n benodol i bathogen yn ddibynadwy dros amser.
Fodd bynnag, daw’r adroddiad i’r casgliad bod ceisio cymharu cyfraddau gwahanol wledydd o glefydau a gludir gan fwyd bron yn amhosibl. Yr unig ffordd y gallech roi cynnig ar hyn fyddai i wahanol wledydd gael yr un math o astudiaeth gyda'r un manylebau astudio, dros yr un cyfnod amser. Hyd yn oed wedyn, gallai gwahaniaethau yn y data gwyliadwriaeth sylfaenol sydd ar gael ym mhob gwlad achosi problemau, yn enwedig o ran penderfynu pa gyfran o achosion o glefydau perfeddol heintus sydd o ganlyniad i fwyd.
Beth nesaf?
Mae gennym ni ddealltwriaeth llawer gwell o'r gwahanol ddulliau a ddefnyddir ledled y byd, a byddwn ni’n parhau i edrych a dysgu o hyn. Fel rhan o'r ymrwymiad parhaus hwn, rydym ni’n bwriadu cychwyn trydydd astudiaeth IID yn 2021. Bydd yn cryfhau ymhellach ein dealltwriaeth o glefydau a gludir gan fwyd ac yn adeiladu ar ein gwybodaeth am astudiaethau eraill o bob cwr o'r byd.
Yn ystod y misoedd nesaf, byddwn ni hefyd yn cyhoeddi dau brosiect cymharu gwyddonol arall, i ddadansoddi:
- Cyfraddau clefydau a gludir gan fwyd yn y DU, yr Unol Daleithiau, Awstralia a Chanada yn fwy manwl, i'w cyhoeddi mewn cyfnodolyn gwyddoniaeth a adolygir gan gymheiriaid;
- Dulliau cynhyrchu bwyd ledled y byd, er mwyn helpu i ddeall y systemau hyn.
Byddwn ni'n parhau i gyhoeddi'r cyngor a ddarparwn i eraill a'r dadansoddiad a'r dystiolaeth y mae'r cyngor hwnnw yn seiliedig arnynt.
Leave a comment