Skip to main content

https://food.blog.gov.uk/2021/03/22/our-food-hypersensitivity-strategy-and-commitment-to-consumers/

Our Food Hypersensitivity Strategy and commitment to consumers

Posted by: , Posted on: - Categories: Allergy

food labelling allergies

Cymraeg

Ahead of the 2021 Food Hypersensitivity Symposium, Sushma Acharya, Head of Policy & Strategy for Food Hypersensitivity, looks at how we’re working to make the UK a place where food is safe, where allergy information can be trusted and where food hypersensitive consumers are included in our food culture.

 

An estimated 2.6 million people live with a diagnosed food allergy in the UK. This incurable condition can only be managed through avoidance. It reduces quality of life and there can be disastrous consequences if an allergen is unknowingly consumed.

Our work on raising awareness and understanding of food hypersensitivity is vital. For some consumers, it’s a matter of life or death - allergies tragically cause around 10 deaths per year in the UK.

Our commitment to the food hypersensitive consumer

At the FSA we want to make the UK somewhere where people with hypersensitivities can:

  • be safe – they, and food businesses, should have the information they need to manage risks
  • trust allergy information – they should be able to know that clear allergen messaging is reliable
  • have the opportunity for choice – they should be able to participate in our food culture.

Over recent years, we have been bringing this commitment to life by working closely with allergy charities, food businesses and local authorities to develop a programme of work in this area. Our priorities have been to better protect consumers, widen their choices and support businesses in achieving compliance.

This has included the body of work that led to our recommendation to bring into force Natasha’s Law in October 2021 – full allergen labelling on prepacked for direct sale food – foods packaged at the same place where they are sold. To help businesses prepare for Natasha’s Law we have launched a suite of resources, inducing food allergy training and an allergen checklist.

Changing attitudes to food allergy

It was gratifying to see this week that something of a cultural shift has taken place in food businesses across the UK since the last significant changes to allergen food labelling in 2014.

New research has found that food businesses’ handling of allergens has significantly improved since new regulations came into force in 2014. The regulations make it mandatory to provide information to consumers about the presence of 14 allergenic ingredients in food.

What the ‘The food industry’s provision of allergen information to consumers’ report tells us

The FSA’s report revealed dramatic improvement in provision of allergen information by food businesses and better food safety for consumers. The report found:

  • Better provision of allergen information: The vast majority of the 2,303 food business operators surveyed said that they provide written or verbal information about each of the 14 allergens they sell.
  • Improved allergen labelling policies: 95% of food businesses said they have a written (83%) or informal policy (12%) on allergen labelling – up from 60% in 2012. This includes a large majority of market traders. Of 55 market traders surveyed, 93% had written (78%) or informal (15%) policies.
  • Better checking of allergenic ingredients: Almost all (99.9%) of food businesses had processes in place to check if a product contains allergenic ingredients – up from 92% in 2012. Nearly nine in ten food businesses (86%) check or audit the ingredients they obtain from suppliers and wholesalers (71% in 2012).
  • More training for staff: Half of food businesses had received formal training on food allergens (49%), up from a third (34%) reporting this in 2012. Almost all food business operators provided staff with allergen information (99%), most commonly through verbal training (90%).

Our Food Hypersensitivity Strategy

But there is still much more to do, and the fight for food hypersensitive consumers continues. Some areas of focus for our Food Hypersensitivity Strategy (FHS), all underpinned by robust science and evidence, include:

  1. An exploration of a Food Allergy Safety Scheme (FASS) – a scheme that would indicate to consumers that a food catering business is allergy aware and has recognised allergy management standards in place.
  2. A review of precautionary allergen labelling – assessing the use of the wording on food labels such as ‘may contain’ which can limit choice for hypersensitive consumers and create confusion. We’re examining how we can provide greater clarity for both consumers and businesses in this area.
  3. Ensuring that businesses and local authorities are ready for the changes to PPDS food labelling in October 2021 – so that food hypersensitive consumers can enjoy even safer food, more trusted information and ultimately further choice and participation in the UK’s food culture.

We want to galvanize those who share our commitment to safety, trust and choice for the food hypersensitive consumer. The 2021 Food Hypersensitivity Symposium takes place on 23 and 24 March and will be an opportunity to work with stakeholders across the board to make these ambitions a reality.

You can find out more about our food hypersensitivity work online.

food labelling allergies

Ar ddechrau Symposiwm Gorsensitifrwydd i Fwyd 2021, dyma Sushma Acharya, Pennaeth Polisi a Strategaeth ar gyfer Gorsensitifrwydd i Fwyd, yn edrych ar sut rydym ni’n gweithio i wneud yn siŵr bod bwyd y Deyrnas Unedig (DU) yn ddiogel, lle gellir ymddiried mewn gwybodaeth am alergeddau a lle mae defnyddwyr sydd â gorsensitifrwydd i fwyd wedi’u cynnwys yn ein diwylliant bwyd.

 

Amcangyfrifir bod 2.6 miliwn o bobl wedi cael diagnosis alergedd bwyd yn y DU. Does dim gwellhad ar gyfer y cyflwr hwn, dim ond osgoi bwyd penodol. Mae'n lleihau ansawdd bywyd a gall fod canlyniadau difrifol os yw unigolyn yn bwyta alergen heb yn wybod iddynt.

Mae ein gwaith ar godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gorsensitifrwydd i fwyd yn hanfodol. I rai defnyddwyr, mae'n fater o fyw neu farw. Mae alergeddau yn achosi tua 10 marwolaeth y flwyddyn yn y DU.

Ein hymrwymiad i ddefnyddwyr sydd a gorsensitifrwydd i fwyd

Yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) rydym ni am wneud y DU yn rhywle lle gall pobl â gorsensitifrwydd i fwyd:

  • fod yn ddiogel – dylai fod ganddyn nhw, a busnesau bwyd, yr wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i reoli risgiau
  • ymddiried mewn gwybodaeth am alergeddau – dylent allu gwybod bod negeseuon clir am alergenau yn ddibynadwy
  • cael cyfle i ddewis – dylent allu cymryd rhan yn ein diwylliant bwyd

Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym ni wedi cymryd camau ymarferol i sicrhau ein hymrwymiad trwy weithio'n agos gydag elusennau alergeddau, busnesau bwyd ac awdurdodau lleol i ddatblygu rhaglen waith yn y maes hwn. Ein blaenoriaethau fu diogelu defnyddwyr yn well, cynyddu eu dewisiadau a chynorthwyo busnesau i sicrhau eu bod yn cydymffurfio.

Mae hyn wedi cynnwys gwaith a arweiniodd at ein hargymhelliad i ddod â Deddf Natasha i rym ym mis Hydref 2021, sef labelu alergenau llawn ar fwyd wedi'i becynnu ymlaen llaw i'w werthu'n uniongyrchol – sef bwyd wedi'i becynnu yn yr un man lle mae’n cael ei werthu. Er mwyn helpu busnesau i baratoi ar gyfer Deddf Natasha, rydym ni wedi lansio cyfres o adnoddau, gan gynnwys hyfforddiant alergeddau a rhestr wirio alergenau.

Agweddau at alergeddau bwyd yn newid

Roedd yn braf gweld yr wythnos hon bod rhyw fath o newid diwylliannol wedi digwydd mewn busnesau bwyd ledled y DU ers y newidiadau sylweddol diwethaf i labelu alergenau ar fwyd yn 2014.

Mae ymchwil newydd wedi canfod bod y ffordd y mae busnesau bwyd yn trin alergenau wedi gwella’n sylweddol ers i reoliadau newydd ddod i rym yn 2014. Mae'r rheoliadau yn ei gwneud hi'n orfodol darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr am bresenoldeb 14 cynhwysyn alergenaidd mewn bwyd.

Canfyddiadau’r adroddiad 'Darpariaeth y diwydiant bwyd o wybodaeth am alergenau i ddefnyddwyr'

Datgelodd adroddiad yr ASB welliant dramatig o ran darparu gwybodaeth am alergenau gan fusnesau bwyd a gwell diogelwch bwyd i ddefnyddwyr. Canfu'r adroddiad:

  • Gwell darpariaeth o wybodaeth am alergenau: Dywedodd mwyafrif helaeth y 2,303 o weithredwyr busnesau bwyd a gymerodd ran yn yr arolwg eu bod yn darparu gwybodaeth ysgrifenedig neu lafar am bob un o'r 14 alergen y maent yn eu gwerthu.
  • Polisïau labelu alergenau gwell: Dywedodd 95% o fusnesau bwyd fod ganddyn nhw bolisi ysgrifenedig (83%) neu bolisi anffurfiol (12%) ar labelu alergenau – i fyny o 60% yn 2012. Mae hyn yn cynnwys mwyafrif helaeth o fasnachwyr marchnadoedd. O'r 55 o fasnachwyr marchnadoedd a arolygwyd, roedd gan 93% bolisïau ysgrifenedig (78%) neu bolisïau anffurfiol (15%).
  • Prosesau gwirio cynhwysion alergenaidd gwell: Roedd gan bron pob un (99.9%) o fusnesau bwyd brosesau ar waith i wirio a yw cynnyrch yn cynnwys cynhwysion alergenaidd – i fyny o 92% yn 2012. Mae bron i naw o bob deg busnes bwyd (86%) yn gwirio neu'n archwilio'r cynhwysion sy’n dod gan gyflenwyr a chyfanwerthwyr (71% yn 2012).
  • Rhagor o hyfforddiant i staff: Roedd hanner y busnesau bwyd wedi cael hyfforddiant ffurfiol ar alergenau bwyd (49%), i fyny o draean (34%) yn 2012. Roedd bron pob gweithredwr busnes bwyd yn darparu gwybodaeth am alergenau i staff (99%), yn fwyaf cyffredin trwy hyfforddiant llafar (90%).

Ein Strategaeth Gorsensitifrwydd i Fwyd

Ond mae llawer mwy o waith i’w wneud, ac mae'r frwydr dros ddefnyddwyr sydd â gorsensitifrwydd i fwyd yn parhau. Dyma rai meysydd ffocws ar gyfer ein Strategaeth Gorsensitifrwydd i Fwyd, pob un wedi'i seilio ar wyddoniaeth a thystiolaeth gadarn:

  1. Archwiliad o Gynllun Diogelwch Alergeddau Bwyd (FASS) – cynllun a fyddai'n dangos i ddefnyddwyr bod busnes arlwyo bwyd yn ymwybodol o alergeddau ac wedi cydnabod safonau rheoli alergedd.
  2. Adolygiad o labeli yn rhybuddio am alergenau – asesu defnydd geiriad ar labeli bwyd fel 'gall gynnwys' a all gyfyngu ar ddewis i ddefnyddwyr sydd â gorsensitifrwydd i fwyd a chreu dryswch. Rydym ni’n archwilio sut y gallwn ni ddarparu gwell eglurder i ddefnyddwyr a busnesau yn y maes hwn.
  3. Sicrhau bod busnesau ac awdurdodau lleol yn barod ar gyfer y newidiadau i labelu bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS) ym mis Hydref 2021 – fel y gall defnyddwyr sydd â gorsensitifrwydd i fwyd fwynhau bwyd hyd yn oed yn fwy diogel, rhagor o wybodaeth y gellir ymddiried ynddi ac yn y pen draw, rhagor o ddewis a’r gallu i gymryd rhan yn niwylliant bwyd y DU.

Rydym ni am annog y rhai sy'n rhannu ein hymrwymiad i ddiogelwch, i ymddiriedaeth ac i ddewis ar gyfer defnyddwyr sydd â gorsensitifrwydd i fwyd. Mae Symposiwm Gorsensitifrwydd i Fwyd 2021 yn cael ei gynnal ar 23 a 24 Mawrth a bydd yn gyfle i weithio gyda rhanddeiliaid yn gyffredinol i wireddu'r uchelgeisiau hyn.

Os hoffech chi ddarganfod rhagor am ein gwaith ar orsensitifrwydd i fwyd, ewch i.

Sharing and comments

Share this page

Leave a comment

We only ask for your email address so we know you're a real person

By submitting a comment you understand it may be published on this public website. Please read our privacy notice to see how the GOV.UK blogging platform handles your information.