Skip to main content

https://food.blog.gov.uk/2022/08/24/trace-study-does-not-getting-enough-sleep-increase-the-chance-of-a-severe-peanut-allergic-reaction/

TRACE study: Does not getting enough sleep increase the chance of a severe peanut allergic reaction?

Posted by: , Posted on: - Categories: Allergy, Science

Tired person looking upwards

Cymraeg

Ayah Wafi, Allergen Risk Assessor at the Food Standards Agency, explores new research findings from the TRACE study published recently which suggests that not getting enough sleep can increase the chance of a more severe allergic reaction.

What is the TRACE study?

The Threshold Reactivity and Clinical Evaluation (TRACE) study funded by the FSA set out to investigate how factors such as sleep deprivation, exercise, and repeat allergen exposure over time, can affect the threshold of reactivity (the amount of peanut allergen needed to trigger a reaction in a sensitised subject). Recognising that peanut allergy is one of the most common causes of fatal allergic reactions in the UK, the study also investigated the severity of allergic reactions to peanut in adult volunteers known to have a peanut allergy.

Peanut allergy is one of the most common causes of fatal allergic reactions in the UK. More than 120 peanut-allergic adults took part in the medically supervised ‘peanut challenge’ trial where they were given increasing amounts of peanut until they developed an allergic reaction. This challenge was repeated following exercise and separately when they were sleep-deprived. Any reactions were then treated quickly and in most cases, treatment with adrenaline was not necessary.

In 2019, the TRACE team published research which found that exercise and not getting enough sleep could significantly reduce the amount of peanut allergen needed to trigger a reaction.

New findings in 2022

New findings published in 2022 now suggest that not getting enough sleep can increase the chance of a more severe allergic reaction. One possible hypothesis for this could be that lack of sleep can make it easier for allergens to enter the bloodstream which increases the chance of a more severe reaction. This is in line with the team’s findings that sleep deprivation increased the severity of gastrointestinal symptoms.

The study also found that exercise did not cause a significant increase in the severity of allergic reactions to peanut.

For the first time, the TRACE team also found evidence which showed that an increase in severity of reaction is associated with repeat exposure to an allergen. To guard against the possibility of a desensitisation effect (training a patient’s immune system to tolerate an allergen and not produce allergy symptoms), the study had three-month intervals between each challenge.

What does this mean for my allergy?

This study was specifically carried out on adult volunteers with an allergy to peanut however, the results might be relevant for other food allergies as well.

The FSA recommends that all individuals with a food allergy should not consume products if their allergen(s) is mentioned as an ingredient in the food product, or mentioned in precautionary allergen labelling, e.g. may contain, due to the risk of the unintentional presence of the allergen in the food.

Findings from this study suggest that individuals with an allergy to peanut should be extra vigilant when eating food prior to and following exercise, or when they are sleep deprived, as they may react to lower amounts of allergen. Sleep deprivation can also result in more severe symptoms.

Furthermore, this study shows that under certain circumstances, more frequent exposure of subjects to an allergen to which they are sensitised may be associated with more severe symptoms. Therefore, I suggest that those with an allergy should be extra wary to reduce the risk of accidental exposure.

Further information on the study

The studies looking into reaction thresholds and severity were published in December 2019 in The Journal of Allergy and Clinical Immunology and in May 2022 in Effects of Exercise and Sleep Deprivation on Reaction Severity During Oral Peanut Challenge: A Randomized Controlled Trial.

Gallai diffyg cwsg gynyddu’r siawns o gael adwaith alergaidd difrifol i bysgnau

Mae Ayah Wafi, Asesydd Risg Alergenau yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), yn archwilio canfyddiadau ymchwil newydd o astudiaeth TRACE a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy’n awgrymu y gall diffyg cwsg gynyddu’r siawns o gael adwaith alergaidd mwy difrifol.

Beth yw astudiaeth TRACE?

Nod yr astudiaeth Adweithedd Trothwy a Gwerthuso Clinigol (TRACE) a ariannwyd gan yr ASB oedd ymchwilio i sut y gall ffactorau fel diffyg cwsg, ymarfer corff, a dod i gysylltiad ag alergenau dro ar ôl tro dros amser, effeithio ar drothwy adweithedd (swm yr alergen pysgnau sydd ei angen i achosi adwaith i rywun sydd â gorsensitifrwydd). Gan gydnabod mai alergedd i bysgnau yw un o’r adweithiau alergaidd angheuol mwyaf cyffredin yn y Deyrnas Unedig, ymchwiliodd yr astudiaeth hefyd i ddifrifoldeb adweithiau alergaidd pysgnau ymhlith oedolion y gwyddys bod ganddynt alergedd i bysgnau.

Alergedd i bysgnau yw un o’r adweithiau alergaidd angheuol mwyaf cyffredin yn y Derynas Unedig. Cymerodd mwy na 120 o oedolion ag alergedd i bysgnau ran yn y arbrawf ‘her pysgnau’ dan oruchwyliaeth feddygol, lle rhoddwyd symiau cynyddol o bysgnau iddynt nes iddynt ddatblygu adwaith alergaidd. Ailadroddwyd yr her hon yn dilyn sesiwn ymarfer corff, ac unwaith eto pan nad oeddent wedi cael llawer o gwsg. Roedd unrhyw adweithiau yn cael eu trin yn gyflym ac, yn y rhan fwyaf o achosion, nid oedd angen triniaeth ag adrenalin.

Yn 2019, cyhoeddodd tîm TRACE ymchwil a ganfu y gallai ymarfer corff a diffyg cwsg leihau faint o alergen pysgnau sydd ei angen i achosi adwaith yn sylweddol.

Canfyddiadau newydd

Mae canfyddiadau newydd a gyhoeddwyd yn 2022 bellach yn awgrymu y gall diffyg cwsg gynyddu’r siawns o gael adwaith alergaidd mwy difrifol. Un rhagdybiaeth bosib ar gyfer hyn yw y gall diffyg cwsg ei gwneud hi’n haws i alergenau fynd i mewn i’r llif gwaed, sy’n cynyddu’r siawns o adwaith mwy difrifol. Mae hyn yn unol â chanfyddiadau’r tîm bod diffyg cwsg wedi cynyddu difrifoldeb symptomau gastroberfeddol.

Canfu’r astudiaeth hefyd nad oedd ymarfer corff yn achosi cynnydd sylweddol yn nifrifoldeb adweithiau alergaidd i bysgnau.

Am y tro cyntaf, canfu tîm TRACE dystiolaeth hefyd a oedd yn dangos bod cynnydd yn nifrifoldeb yr adwaith yn gysylltiedig â dod i gysylltiad ag alergen dro ar ôl tro. Er mwyn diogelu rhag y posibilrwydd o effaith dadsensiteiddio (hyfforddi system imiwnedd claf i oddef alergen a pheidio â chynhyrchu symptomau alergedd), roedd yr astudiaeth yn cynnwys cyfnodau hir (tri mis) rhwng pob her.

Beth mae hyn yn ei olygu i fy alergedd?

Cynhaliwyd yr astudiaeth hon yn benodol gydag oedolion gwirfoddol sydd ag alergedd i bysgnau. Fodd bynnag, gallai’r canlyniadau fod yn berthnasol i alergeddau bwyd eraill hefyd.

Mae’r ASB yn argymell na ddylai unigolion sydd ag alergedd bwyd fwyta cynhyrchion os caiff unrhyw un o’u halergen(au) eu crybwyll fel cynhwysyn yn y cynnyrch bwyd, neu eu crybwyll mewn labeli alergenau rhagofalus, er enghraifft ‘gallai gynnwys’, oherwydd y risg y gallai’r alergen fod yn bresennol yn y bwyd yn anfwriadol.

Mae canfyddiadau o’r astudiaeth hon yn awgrymu y dylai unigolion sydd ag alergedd i bysgnau fod yn wyliadwrus iawn wrth fwyta bwyd cyn ac ar ôl ymarfer corff, neu pan fyddant yn dioddef yn arbennig o ddiffyg cwsg, oherwydd gallant gael adwaith i symiau llai o alergenau a gallant brofi mwy o symtomau difrifol. Yn unol â chanllawiau’r GIG, rydym yn argymell bod oedolion yn cael o leiaf 7 - 9 awr o gwsg y noson.

Ymhellach, mae’r astudiaeth hon yn dangos, o dan rai amgylchiadau, y gallai dod i gysylltiad yn amlach ag alergen fod yn gysylltiedig â symptomau mwy difrifol. Felly, awgrymir y dylai’r rheiny sydd ag alergedd bwyd fod yn fwy gwyliadwrus i leihau’r risg o ddod i gysylltiad yn ddamweiniol.

Gwybodaeth bellach am yr astudiaeth

Cyhoeddwyd yr astudiaethau sy’n edrych ar drothwyon a difrifoldeb adweithiau ym mis Rhagfyr 2019 yn The Journal of Allergy and Clinical Imunology ac ym mis Mai 2022 yn Effects of Exercise and Sleep Deprivation on Reaction Severity During Oral Peanut Challenge: A Randomized Controlled Trial.

Sharing and comments

Share this page

Leave a comment

We only ask for your email address so we know you're a real person

By submitting a comment you understand it may be published on this public website. Please read our privacy notice to see how the GOV.UK blogging platform handles your information.