
We’ve just published the papers for the next FSA Board meeting, which is being held on Wednesday 25 March in Weymouth. We’ll be covering a range of subjects, from future food regulation to the latest picture on foodborne disease.
We will also be discussing recent developments on the FSA’s preparations for a UK-EU SPS Agreement. Defra has confirmed that the UK intends to align with EU rules under a new Sanitary and Phytosanitary Agreement (or SPS Agreement) by mid 2027. UK businesses will need to meet EU rules within the scope of the agreement, whether they export to the EU or not. We’re telling all food businesses, including small and medium enterprises, that they may need to make operational changes to ensure they will be ready to comply next year.
Negotiations are ongoing, but we want to make sure businesses have the information and support they need to prepare. We’re encouraging them to engage with their trade body or industry association, and to sign up to Defra's email alerts so they can receive updates as negotiations progress. GOV.UK has a list of in-scope regulations to help businesses start assessing what potential changes could mean for their operations. Defra has also launched a Call for Information which will give businesses the opportunity to tell the government how these changes could affect them and what support they might need.
Closer alignment with the EU is good news for food safety. It means we can identify potential risks earlier and act more quickly. An agreement will reduce barriers, simplify trade, strengthen cooperation, and of course maintain our high standards for food safety, so consumers can continue to have confidence in the food they buy.
We’ll be discussing all of this, and more, with the FSA Board on 25 March. If you’re interested in watching the meeting, you can join us live online – sign up now
Katie Pettifer
Chief Executive of FSA
Bwrdd yr ASB i drafod y datblygiadau diweddaraf ar y Cytundeb SPS yng nghyfarfod mis Mawrth.

Rydym newydd gyhoeddi’r papurau ar gyfer cyfarfod nesaf Bwrdd yr ASB, a gynhelir ddydd Mercher, 25 Mawrth yn Weymouth. Byddwn yn trafod amrywiaeth o bynciau, o reoleiddio bwyd yn y dyfodol i’r darlun diweddaraf ar glefydau a gludir gan fwyd.
Byddwn hefyd yn trafod datblygiadau diweddar ar baratoadau’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ar gyfer Cytundeb Iechydol a Ffytoiechydol (SPS) rhwng y DU a’r UE. Mae Defra wedi cadarnhau bod y DU yn bwriadu cyd-fynd â rheolau’r UE o dan Gytundeb SPS newydd erbyn canol 2027. Bydd angen i fusnesau’r DU fodloni rheolau’r UE o fewn cwmpas y cytundeb, p’un a ydyn nhw’n allforio i’r UE ai peidio. Rydym yn rhoi gwybod i bob busnes bwyd, gan gynnwys rhai bach a chanolig, y gallai fod angen iddynt wneud newidiadau gweithredol i sicrhau y byddant yn barod i gydymffurfio y flwyddyn nesaf.
Mae trafodaethau’n parhau, ond rydym am sicrhau bod gan fusnesau’r wybodaeth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i baratoi. Rydym yn eu hannog i ymgysylltu â’u corff masnach neu gymdeithas diwydiant, ac i gofrestru ar gyfer hysbysiadau e-bost Defra fel y gallant gael yr wybodaeth ddiweddaraf wrth i’r trafodaethau fynd rhagddynt. Mae gan GOV.UK restr o reoliadau sydd o fewn cwmpas y trafodaethau i helpu busnesau i ddechrau asesu beth allai newidiadau posib ei olygu i’w gweithrediadau. Mae Defra hefyd wedi lansio Galwad am Wybodaeth a fydd yn rhoi cyfle i fusnesau ddweud wrth y llywodraeth sut y gallai’r newidiadau hyn effeithio arnynt a pha gymorth y gallai fod ei angen arnynt.
Mae cyd-fynd yn agosach â’r UE yn newyddion da ar gyfer diogelwch bwyd. Mae’n golygu y gallwn nodi risgiau posib yn gynharach a gweithredu’n gynt. Bydd cytundeb yn lleihau rhwystrau, yn symleiddio masnach, yn cryfhau cydweithrediad, ac wrth gwrs yn cynnal ein safonau uchel ar gyfer diogelwch bwyd, fel y gall defnyddwyr barhau i fod â hyder yn y bwyd maen nhw’n ei brynu.
Byddwn yn trafod hyn oll, a mwy, â Bwrdd yr ASB ar 25 Mawrth. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwylio’r cyfarfod, gallwch ymuno â ni’n fyw ar-lein – cofrestrwch nawr.
Katie Pettifer
Prif Weithredwr yr ASB
Leave a comment