Skip to main content

https://food.blog.gov.uk/2020/06/29/the-people-who-protect-your-plate/

The people who protect your plate

Posted by: , Posted on: - Categories: Our mission

Meat Hygiene Inspector - Food Standards Agency

Cymraeg

Welcome to the Food Standards Agency (FSA) blog.

We believe that everybody should be able to trust the food they eat. We have launched this blog to create a space for anybody interested in finding out more about what we are doing and what we are thinking in our mission to have food we can trust. We are looking forward to sharing with you our work to keep it that way.

Our senior leaders, managers and staff will use this blog to talk about what we’re thinking about at the FSA, how we’re putting that into practice, and what we’re learning.

This blog is a place for you to give us your thoughts on what we’re working on. Your insight will help to inform our activities within the complex and ever-changing food system. We will also use this platform to highlight and acknowledge the work of partners who play their part to make sure food is safe and what it says it is.

As this is our first blog, below is an outline of who we are and what we do.

About the FSA

We are an independent non-Ministerial government department. We were set up in 2000 following a series of high-profile food safety issues, such as the BSE crisis, otherwise known as mad cow disease, or Bovine Spongiform Encephalopathy.

There are more than 500,000 food businesses across England, Wales and Northern Ireland, which we work across to protect public health and consumers’ wider interests in relation to food. We will be telling you more about how we regulate them, and the work we do around food that is imported from other countries.

With an evidence-based scientific approach, we work to strike the right balance between protection from risk, consumer choice, and support for business growth and innovation. We do all this while delivering regulation that is effective, proportionate and sustainable.

Our posts on this blog will explore the key role we play in ensuring the food industry is successful domestically and internationally.

Underpinned by FSA science

We have more than 20 years’ experience of developing policy and regulation on the best available scientific evidence.

Our scientific research programme is vibrant and covers a wide range of food safety concerns such as allergens, food-borne disease and food hygiene.

We employ over 100 scientists, economists, statisticians, analysts and researchers. These experts will post about their work and how they help protect public health and consumers’ interests in relation to food.

Taking a scientific, evidence based approach is vital to our aspiration to deliver the most open and transparent regulatory regime in the world.

In future blog posts we will look at how, through science and technology, we can protect consumers more effectively, while reducing unnecessary burdens on business.

Don't forget to subscribe for updates and let us know what you would like to hear about.

We are looking forward to it.

Y bobl sy’n diogelu'r bwyd ar dy blât

Croeso i flog yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Dyma'r lle i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwybod rhagor am yr hyn rydym ni’n ei wneud, a'r hyn rydym ni’n ei ystyried, yn ein cenhadaeth am fwyd y gallwn ymddiried ynddo.

Rydym ni’n credu y dylai pawb allu ymddiried yn y bwyd maen nhw'n ei fwyta, o'r fferm i'r fforc. Rydym ni’n edrych ymlaen at rannu ein gwaith gyda chi i'w gadw felly.

Bydd ein huwch-arweinwyr, ein rheolwyr a’n staff yn defnyddio'r blog hwn i siarad am yr hyn rydym ni'n ei drafod yn yr ASB, sut rydym ni'n rhoi hynny ar waith, a'r hyn rydym ni'n ei ddysgu.

Bydd y blog hwn yn lle i chi rannu eich barn â ni am yr hyn rydym ni'n gweithio arno. Bydd eich mewnwelediad yn helpu i lywio ein gweithgareddau o fewn y system fwyd gymhleth sy'n newid yn barhaus.

Byddwn ni hefyd yn defnyddio'r blog hwn i gydnabod gwaith partneriaid sy'n chwarae eu rhan i sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label.

Gan mai hwn yw ein blog cyntaf, isod mae amlinelliad o bwy ydym ni a beth rydym ni'n ei wneud. Bydd hefyd yn rhoi blas i chi ar yr hyn y byddwn ni’n blogio amdano.

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Rydym ni’n adran Anweinidogol annibynnol o’r llywodraeth. Rydym ni’n gweithio ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon i ddiogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau ehangach defnyddwyr mewn perthynas â bwyd.

Cawsom ein sefydlu yn 2000, yn dilyn cyfres o faterion diogelwch bwyd proffil uchel. Mae'r rhain yn cynnwys argyfwng Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol (BSE), a elwir fel arall yn glefyd y gwartheg gwallgof.

Mae mwy na 500,000 o fusnesau bwyd ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Byddwn ni’n dweud rhagor wrthych am sut rydym ni’n eu rheoleiddio, a'r gwaith a wnawn o amgylch bwyd sy'n cael ei fewnforio o wledydd eraill.

Gan ddilyn dull gwyddonol sy'n seiliedig ar dystiolaeth, rydym ni’n gweithio i sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng diogelu rhag risg, dewis defnyddwyr, a chefnogaeth ar gyfer twf busnes ac arloesi. Rydym ni’n gwneud hyn i gyd wrth gyflenwi mesurau rheoleiddio sy'n effeithiol, yn gymesur ac yn gynaliadwy.

Bydd ein negeseuon yn y blog hwn yn archwilio'r rôl allweddol a chwaraewn wrth sicrhau bod y diwydiant bwyd yn llwyddiannus yn ddomestig ac yn rhyngwladol.

Gwyddoniaeth yw sylfaen ein gwaith

Mae gennym ni dros 20 mlynedd o brofiad o ddefnyddio’r dystiolaeth wyddonol orau sydd ar gael i lywio ein gwaith polisi a rheoleiddio.

Mae ein rhaglen ymchwil wyddonol yn fywiog ac yn ymdrin ag ystod eang o bryderon diogelwch bwyd fel alergenau, clefyd a gludir gan fwyd a hylendid bwyd.

Rydym ni’n cyflogi dros 100 o wyddonwyr, economegwyr, ystadegwyr, dadansoddwyr ac ymchwilwyr. Bydd yr arbenigwyr hyn yn trafod eu gwaith a sut maen nhw'n helpu i ddiogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd.

Mae cael ein harwain gan wyddoniaeth a thystiolaeth yn hanfodol i'n dyhead i gyflenwi'r drefn reoleiddio fwyaf agored a thryloyw yn y byd.

Mewn negeseuon blog yn y dyfodol, byddwn ni’n edrych ar sut y gallwn ni ddiogelu defnyddwyr yn fwy effeithiol a lleihau beichiau diangen ar fusnesau, gan ddefnyddio gwyddoniaeth a thechnoleg.

Peidiwch ag anghofio tanysgrifio i gael diweddariadau a gadewch i ni wybod beth yr hoffech chi glywed amdano.

Rydym ni’n edrych ymlaen at glywed gennych.

Sharing and comments

Share this page

Leave a comment

We only ask for your email address so we know you're a real person

By submitting a comment you understand it may be published on this public website. Please read our privacy notice to see how the GOV.UK blogging platform handles your information.