Skip to main content

https://food.blog.gov.uk/2020/10/02/understanding-the-risk-of-food-crime/

Understanding the risk of food crime

Posted by: , Posted on: - Categories: Our mission

Food crime strategic assessment

Cymraeg

The COVID-19 pandemic has presented a unique set of challenges for all of those working in the food system. At the National Food Crime Unit (NFCU), protecting the integrity of the food supply chain during such times of uncertainty has been one of our key priorities.

However, if this year has taught us anything, it is to expect the unexpected. With this in mind, the Food Standards Agency remains cautious and alert to current and future challenges in the food supply chain.

Trust in the food system

Access to food has been a significant concern for the public during this pandemic. Consumer habits have changed, as shown by our COVID-19 consumer research.

This has meant food businesses and the food system have had to adapt their operations and settle into agile working patterns. Despite the changes, we have been clear that a lack of trust in food should not add to consumer or business worries. To support businesses during this time, we have provided guidance on how to avoid food crime and profiteering during the pandemic.

The National Food Crime Unit

The National Food Crime Unit was formed in 2015. Shortly after our inception, we worked with Food Standards Scotland’s Food Crime and Incidents Unit to produce the first strategic assessment of food crime in the UK. A lot has changed in the food landscape since then, not least through leaving the European Union and an increase in the sale of food online.

We need to remain vigilant against a small minority of criminals and unscrupulous businesses whose activity risks undermining our trust in food.

Food Crime Strategic Assessment

To this end we have published our joint 2020 Food Crime Strategic Assessment, working once again with Food Standards Scotland. This has identified a number of parts of the industry, or types of food products, that could be vulnerable to food crime.

From illegally harvested shellfish, to fraudsters imitating a legitimate business and acquiring a food product without paying for it, the assessment highlights a number of opportunities for food crime which pose a significant financial impact to food businesses, as well as potentially serious risks to consumers.

However, our fundamental assessment remains as it did in 2016: the UK has some of the safest and most trusted food in the world and the vast majority of food businesses in this country operate legitimately and honestly.

The impact of food fraud

Food fraud is not a victimless crime. Our work aims to give consumers assurance that a food product is what it says it is and ensure that legitimate food businesses are not undercut by criminal enterprises.

Food crime can also have significant consequences when corners are cut. For example, if almond powder is replaced with cheaper peanut powder and not declared on the label, it could result in a serious allergic reaction and even death. Our work aims to protect all consumers from unscrupulous traders.

Tackling food crime

We need to engage and partner with legitimate businesses to identify potential weaknesses in the food chain and pursue those who are trying to exploit them. We want all businesses to be confident in knowing the appropriate process for reporting a food crime and how intelligence can be shared discreetly with the NFCU. The more knowledge that we have about food crime methods, the better we will be able to combat them.

We work closely with local authorities, the police and other crime agencies to pursue those who seek to profit from food crime. In the last year, we have conducted many joint operations with key partners. This included an investigation into animal by-products being used in kebab meat in the West Midlands, and the recovery of stolen meat acquired through fraud in the North West.

We are also continuing to disrupt the supply to the harmful chemical DNP, which is sometimes dangerously advertised as a weight-loss aid. In recent years DNP has been linked to over 30 deaths in the UK.

As we establish closer links across the food sector, consumers and businesses should be confident that the NFCU and its partners are working to ensure that the food we eat is safe and what it says it is.

Deall risg troseddau bwyd

Mae pandemig COVID-19 wedi cyflwyno cyfres unigryw o heriau i bawb sy'n gweithio yn y system fwyd. Yn yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (yr Uned), mae diogelu gonestrwydd y gadwyn cyflenwi bwyd yn ystod cyfnod mor ansicr wedi bod yn un o'n prif flaenoriaethau.

Fodd bynnag, mae eleni wedi profi bod yn rhaid i ni ddisgwyl yr annisgwyl. Gyda hyn mewn golwg, mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn parhau i fod yn wyliadwrus ac yn effro i heriau presennol a rhai’r dyfodol yn y gadwyn cyflenwi bwyd.

Ymddiriedaeth yn y system fwyd

Mae mynediad at fwyd wedi bod yn bryder sylweddol i'r cyhoedd yn ystod y pandemig. Mae arferion defnyddwyr wedi newid, fel sydd i’w weld yn ein hymchwil defnyddwyr COVID-19 .

Mae hyn wedi golygu bod busnesau bwyd a'r system fwyd wedi gorfod addasu eu gweithrediadau a setlo i batrymau gweithio ystwyth. Er gwaethaf y newidiadau, rydym ni wedi bod yn glir na ddylai diffyg ymddiriedaeth mewn bwyd ychwanegu at bryderon defnyddwyr neu fusnesau. Er mwyn cefnogi busnesau yn ystod y cyfnod hwn, rydym ni wedi darparu canllawiau ar sut i osgoi troseddau bwyd a gorelwa yn ystod y pandemig.

Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd

Ffurfiwyd yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd yn 2015. Yn fuan ar ôl sefydlu’r Uned, buom yn gweithio gydag Uned Troseddau Bwyd a Digwyddiadau Bwyd yr Alban i gynhyrchu'r asesiad strategol cyntaf o droseddau bwyd yn y Deyrnas Unedig (DU). Bu llawer o newid yn y dirwedd fwyd ers hynny, fel ymadael â’r Undeb Ewropeaidd a chynnydd yng ngwerthiant bwyd ar-lein.

Mae angen i ni aros yn wyliadwrus yn erbyn lleiafrif bach o droseddwyr a busnesau diegwyddor y mae eu gweithgarwch mewn perygl o danseilio ein hymddiriedaeth mewn bwyd.

Asesiad Strategol o Droseddau Bwyd

I'r perwyl hwn rydym ni wedi cyhoeddi ein Hasesiad Strategol Troseddau Bwyd 2020, gan weithio ar y cyd unwaith eto â Safonau Bwyd yr Alban. Mae hyn wedi nodi nifer o rannau o'r diwydiant, neu fathau o gynhyrchion bwyd, a allai fod yn agored i droseddau bwyd.

O bysgod cregyn sy’n cael eu cynaeafu yn anghyfreithlon, i dwyllwyr sy'n dynwared busnes cyfreithlon ac yn caffael cynnyrch bwyd heb dalu amdano, mae'r asesiad yn tynnu sylw at nifer o gyfleoedd ar gyfer troseddau bwyd sy'n cael effaith ariannol sylweddol ar fusnesau bwyd, yn ogystal â risgiau a allai fod yn ddifrifol i ddefnyddwyr.

Fodd bynnag, mae ein hasesiad sylfaenol yn parhau yr un fath â 2016: mae bwyd y DU ymhlith y mwyaf diogel a mwyaf dibynadwy yn y byd ac mae mwyafrif y busnesau bwyd yn y wlad hon yn gweithredu'n gyfreithlon ac yn onest.

Effaith twyll bwyd

Nid yw twyll bwyd yn drosedd heb ddioddefwyr. Nod ein gwaith yw rhoi sicrwydd i ddefnyddwyr bod cynnyrch bwyd yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label a sicrhau nad yw busnesau bwyd cyfreithlon yn cael eu tanbrisio gan fentrau troseddol.

Gall troseddau bwyd hefyd arwain at ganlyniadau sylweddol pan fydd corneli yn cael eu torri. Er enghraifft, os yw powdr almon yn cael ei ddisodli â phowdr cnau daear rhatach ac nad yw'n cael ei ddatgan ar y label, gallai arwain at adwaith alergaidd difrifol a hyd yn oed farwolaeth. Nod ein gwaith yw diogelu pob defnyddiwr rhag masnachwyr diegwyddor.

Mynd i'r afael â throseddau bwyd

Mae angen i ni ymgysylltu a gweithio ar y cyd â busnesau cyfreithlon i nodi gwendidau posibl yn y gadwyn fwyd a mynd ar drywydd y rhai sy'n ceisio eu hecsbloetio. Rydym ni am i bob busnes fod yn hyderus wrth wybod y broses briodol ar gyfer rhoi gwybod am drosedd bwyd a sut y gellir rhannu gwybodaeth yn gyfrinachol gyda’r Uned. Po fwyaf o wybodaeth sydd gennym ni am ddulliau troseddau bwyd, y gorau y byddwn ni’n gallu brwydro yn eu herbyn.

Rydym ni’n gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol, yr heddlu ac asiantaethau troseddau eraill i fynd ar drywydd y rhai sy'n ceisio elwa ar droseddau bwyd. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym ni wedi cynnal llawer o weithrediadau ar y cyd â phartneriaid allweddol. Roedd hyn yn cynnwys ymchwiliad i sgil-gynhyrchion anifeiliaid sy'n cael eu defnyddio mewn cig cebab yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, ac adfer cig wedi'i ddwyn a gafwyd trwy dwyll yng Ngogledd Orllewin Cymru.

Rydym ni hefyd yn parhau i darfu ar gyflenwi’r cemegyn niweidiol DNP, sydd weithiau'n cael ei hysbysebu'n beryglus fel cymhorthydd colli pwysau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae DNP wedi cael ei gysylltu â dros 30 o farwolaethau yn y DU.

Wrth i ni sefydlu cysylltiadau agosach ar draws y sector bwyd, dylai defnyddwyr a busnesau fod yn hyderus bod yr Uned a'i phartneriaid yn gweithio i sicrhau bod y bwyd rydym ni'n ei fwyta yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label.

Sharing and comments

Share this page

3 comments

  1. Comment by Paul Hiscoe posted on

    Great work on disrupting the supply of DNP. It's a really horrible substance and if found, needs to be handled very carefully. An instant screening capability is now available, which can help the safety of both investigators and potentially anyone who might come into contact with this substance.

    Reply
  2. Comment by Bryan Hanley posted on

    Who polices the National Food Crime Unit and, for that matter, the FSA. There is no Departmental responsibility.

    Reply

Leave a reply to Bryan Hanley

Cancel reply

We only ask for your email address so we know you're a real person

By submitting a comment you understand it may be published on this public website. Please read our privacy notice to see how the GOV.UK blogging platform handles your information.