Skip to main content

https://food.blog.gov.uk/2020/11/19/how-social-science-can-help-us-understand-food-in-a-digital-world/

How social science can help us understand food in a digital world

Posted by: , Posted on: - Categories: Science

Sweetcorn with binary numbers

Cymraeg

Michelle Patel, Head of Social Science, reflects on findings shared at our Understanding Food in a Digital World event and discusses emerging food trends on the horizon.

It’s safe to say that the COVID-19 pandemic has moved the world online like never before. What we’re seeing across the piece is that many of the broad food trends which were happening before have been accelerated by the current situation. My prediction is that most have changed for good.

However, there’s no change to our commitment to openness, sharing our work and learning from the best, here and overseas. We wanted this year’s Economic and Social Research Council (ESRC) Festival event to look at how digital technology has changed not just how we buy and access food, but also how we social scientists understand it.

The event was opened by our Chief Scientific Adviser, Robin May and our Director for Openness, Data, Digital, Science and Wales, Julie Pierce who both emphasised that social science was more needed than ever – and that the sources of data with which to understand the world were huge and growing.

The event, in partnership with the University of Sheffield, looked at ‘Understanding Food in a Digital World’. For our part, we covered how we’ve made the FSA flagship survey, Food and You, digital first and heard from how our colleagues in the US are doing the same.

We talked about our new app-based self-report methods on handwashing behaviour and key findings from our recent social media analysis. Our social science colleagues from the European Food Safety Authority (EFSA) talked about how they’ve moved their grassroots engagement with small food producers online. There’s a great presentation from Dr Christian Reynolds on the rapid developments in how we can use citizens and communities to research and educate about food, which I commend to you!

Finally, we were lucky to have some observations on the way that the National Food Strategy has moved its ambitious public engagement work online during this strange old year from Professor Peter Jackson, a long-time friend of the FSA.

I’d like to take the opportunity to thank all the speakers, my own brilliant team and all those behind the scenes who made it happen - particularly Dr Becky Gillespie who put a huge amount of work in and then never appeared on screen! I think we pushed the limits of our own tech to the maximum and it worked. It was an eye-opener in terms of how many people will come along if you make it digital.

Of course, we also looked at the impact of COVID-19 on food, presenting some of the insights from our horizon scanning work, but looking to the future I was particularly interested to hear about the variety of online platforms that exist, how they are reshaping the food ecosystem and where the opportunities might lie.

There is currently no systematic way to understand or assess the risks of online businesses and, by extension, target interventions accordingly, but rest assured we’re working on it.

In the meantime, if you’re interested in food or food research, there are some real (gold, not chicken) nuggets in our webinar playlist.

If you’re interested in finding out more about our science work, why not sign up to New Scientist Live’s Future of Food and Agriculture event on Saturday 28 November.

Myself and our Chief Scientific Adviser Professor Robin May will be discussing future food trends and how we approach food regulation with a focus on consumer interest.


Sut y gall gwyddor gymdeithasol ein helpu i ddeall bwyd mewn byd digidol

Dyma Michelle Patel, Pennaeth Gwyddor Gymdeithasol yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), yn trafod canfyddiadau a rannwyd yn ein digwyddiad Deall Bwyd mewn Byd Digidol ac yn trafod pa dueddiadau bwyd sy'n dod i'r amlwg.

Mae'n deg dweud bod y pandemig COVID-19 wedi newid y byd ar-lein fel erioed o'r blaen. Rydym ni’n sylwi bod llawer o'r tueddiadau bwyd eang a oedd yn digwydd o'r blaen wedi cael eu cyflymu gan y sefyllfa bresennol. Dwi’n rhagweld bod y rhan fwyaf o’r rhain wedi newid er gwell.

Fodd bynnag, nid oes unrhyw newid i'n hymrwymiad i fod yn agored, gan rannu ein gwaith a dysgu o'r gorau, yma a thramor. Nod gŵyl y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) eleni oedd edrych ar sut mae technoleg ddigidol wedi newid nid yn unig sut rydym ni’n prynu ac yn cyrchu bwyd, ond hefyd sut rydym ni, y gwyddonwyr cymdeithasol, yn ei ddeall.

Agorwyd y digwyddiad gan ein Prif Gynghorydd Gwyddonol, Robin May a'n Cyfarwyddwr Bod yn Agored, Data, Digidol, Gwyddoniaeth a Chymru, Julie Pierce. Pwysleisiodd y ddau fod angen mwy o wyddoniaeth gymdeithasol nag erioed – a bod y ffynonellau data i ddeall y byd yn enfawr ac yn tyfu.

Edrychodd y digwyddiad, mewn partneriaeth â Phrifysgol Sheffield ar 'Deall Bwyd mewn Byd Digidol'. O'n rhan ni, fe wnaethon ni drafod sut rydym ni wedi gwneud arolwg blaenllaw'r ASB, Bwyd a Chi, yn ddigidol ac wedi clywed sut mae ein cydweithwyr yn yr Unol Daleithiau yn gwneud yr un peth.

Buom yn siarad am ein dulliau hunan-adrodd newydd yn seiliedig ar apiau ar ymddygiad golchi dwylo a chanfyddiadau allweddol o'n gwaith diweddar yn dadansoddi cyfryngau cymdeithasu. Siaradodd ein cydweithwyr gwyddorau cymdeithasol o Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) am sut maen nhw wedi symud i gysylltu â chynhyrchwyr bwyd bach ar-lein. Mae cyflwyniad gwych gan Dr Christian Reynolds ar y datblygiadau cyflym o ran sut y gallwn ni ddefnyddio dinasyddion a chymunedau i ymchwilio ac addysgu am fwyd, rwyf wir yn argymell!

Yn olaf, roeddem yn ffodus i gael rhai sylwadau ar y ffordd y mae'r Strategaeth Fwyd Genedlaethol wedi symud ei gwaith uchelgeisiol o gysylltu â'r cyhoedd ar-lein yn ystod y flwyddyn ryfedd hon gan yr Athro Peter Jackson, ffrind ffyddlon i'r ASB.

Hoffwn achub ar y cyfle i ddiolch i'r holl siaradwyr, fy nhîm gwych a phawb y tu ôl i'r llenni a wnaeth drefnu’r digwyddiad – yn enwedig Dr Becky Gillespie a weithiodd yn galed iawn, ond heb arddangos ar y sgrin unwaith! Rwy'n credu ein bod ni wedi gwthio terfynau ein technoleg ein hunain i'r eithaf, ac yn llwyddiannus. Roedd yn agoriad llygad o ran faint o bobl sydd yn gallu dod wrth gynnal digwyddiad digidol.

Wrth gwrs, gwnaethom hefyd edrych ar effaith COVID-19 ar fwyd, gan gyflwyno rhai o'r mewnwelediadau o'n gwaith sganio’r gorwel. Wrth edrych i'r dyfodol roedd gen i ddiddordeb arbennig mewn clywed am yr amrywiaeth o lwyfannau ar-lein sy'n bodoli, sut maen nhw ail-lunio'r ecosystem fwyd a lle gallai'r cyfleoedd fod.

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ffordd systematig i ddeall nac asesu risgiau busnesau ar-lein, na chwaith targedu ymyriadau yn unol â hynny, ond rydym ni’n gweithio ar hwn.
Yn y cyfamser, os oes gennych ddiddordeb mewn bwyd neu ymchwil bwyd, cymerwch gip ar y fideo hwn.

Os hoffech chi ddysgu rhagor am ein gwaith ar wyddoniaeth, beth am ymuno â digwyddiad ‘New Scientist Live’ ar Ddyfodol Bwyd ac Amaeth ddydd Sadwrn 28 Tachwedd.

Byddaf i a'r Prif Gynghorydd Gwyddonol yr Athro Robin May yn trafod tueddiadau bwyd yn y dyfodol a sut rydym ni’n mynd ati i reoleiddio bwyd gan ganolbwyntio ar fuddiannau defnyddwyr.

Sharing and comments

Share this page

Leave a comment

We only ask for your email address so we know you're a real person

By submitting a comment you understand it may be published on this public website. Please read our privacy notice to see how the GOV.UK blogging platform handles your information.