Skip to main content

https://food.blog.gov.uk/2020/10/28/get-involved-with-iid3-infectious-intestinal-disease-in-the-community-study/

Get involved with IID3 - Infectious Intestinal Disease in the Community study

Infectious intestinal disease

Cymraeg

Are you interested in being part of a major study of Infectious Intestinal Disease in the UK?

We are looking for collaborators to take part in our landmark Infectious Intestinal Disease in the Community (IID3) study.

Food safety and infectious intestinal disease

One of the Food Standards Agency’s (FSA) key and ongoing commitments to food safety is surveillance. This has a particular focus on the surveillance of infectious intestinal disease (IID) in the UK.

Although we regularly review the number of confirmed IID cases, not all cases are reported to healthcare providers. That's why we also do research to estimate the total burden of foodborne disease and the cost of illness to society and why we are calling for further research in the form of IID3.

Project background

IID3 was recently launched online through a webinar covering all aspects of the previous IID studies. This includes IID1 which was carried out in England in the mid 1990’s, followed by IID2 in 2012. The launch explored our plans for IID3 and provided an introduction to the required procurement process. The full webinar can be viewed below.

Aims of IID3

The main focus of the IID3 study will be a prospective cohort study examining rates of IID in the UK. This involves the recruitment of a cohort of people in advance of the study, who will be asked to report symptoms of diarrhoea and vomiting if they occur in day to day life. If they do, stool samples will then be collected for microbiological examination to determine the specific cause of the illness.

Our previous blog explains cohort study research and comparisons of methodologies used to estimate foodborne disease.

IID3 is a major project that will run over several years. The aims and key questions that this study seeks to answer are:

  • What is the overall incidence of IID in the UK in terms of both cases and GP presentations?
  • Of the total cases of IID, what number is attributed to domestically acquired and non-domestically acquired (i.e. acquired outside the UK) sources?
  • What is the aetiology of IID in the UK?
  • What is the proportion of IID which is foodborne in the UK by both pathogen and total IID?
  • This is to include estimates for cases of unknown aetiology.
  • What are the ascertainment ratios to adjust for under-reporting related to each IID causing organism?
  • What is the prevalence of antimicrobial resistance (AMR) genes in the intestinal microbiome of the population?
  • How do the results of the IID3 study compare to previous studies?
  • What are the modelled number of cases in the community, GP reported cases, hospitalisations and deaths due to IID and foodborne disease in the UK?
  • What are the modelled number of cases in the community, GP reported cases and hospitalisations by food commodity by pathogen?

This study will also use technologies developed since the completion of IID2 in 2012. These will include metagenomics to allow us to look at the total human microbiome (the total collection of microorganisms found in the gut) and antimicrobial resistance burden. We will also use new web-based surveys to self-report IID symptoms and modernise our surveys.

IID3 outcomes

The IID studies allow us to reflect on figures of IID. They also mean we can examine whether our interventions are working, and how to target new areas of interest.

The study will also help the FSA to understand the key risks to consumers. Using the previous studies as a baseline, this will let us see changes in the likely risks to consumers.

Through the use of modern technologies, we can try to plug gaps in the data that were previously unachievable. By learning from previous projects, we can ensure we maximise the positive impact and value for money that our work delivers in protecting consumers.

How to apply for IID3

The research specification for IID3 is now live and can be found on Bravo. This document gives further information on the requirements of IID3.

You can register as a supplier, view current research opportunities, ask any questions and submit your application.

The closing date for applications is 29 January 2021 at midday.

We look forward to receiving your application.

Cymryd rhan yn astudiaeth IID3 – Clefyd Perfeddol Heintus yn y Gymuned

Oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn rhan o astudiaeth fawr o Glefyd Perfeddol Heintus yn y Deyrnas Unedig (DU)?

Rydym ni’n chwilio am gydweithredwyr i gymryd rhan yn ein hastudiaeth nodedig o Glefyd Perfeddol Heintus yn y Gymuned (IID3).

Diogelwch bwyd a chlefyd perfeddol heintus

Un o ymrwymiadau allweddol a pharhaus yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) i sicrhau diogelwch bwyd yw gwyliadwriaeth. Mae’r astudiaeth hon yn canolbwyntio’n benodol ar wyliadwriaeth o lefelau clefyd perfeddol heintus (IID) yn y DU.

Er ein bod yn adolygu nifer yr achosion IID a gadarnhawyd yn rheolaidd, nid yw darparwyr gofal iechyd yn rhoi gwybod am bob achos. Dyna pam rydym ni hefyd yn gwneud ymchwil i amcangyfrif cyfanswm baich clefyd a gludir gan fwyd a chost salwch i gymdeithas, a’r rheswm pam rydym ni'n galw am ymchwil bellach ar ffurf IID3.

Cefndir y prosiect

Lansiwyd IID3 ar-lein yn ddiweddar trwy gynnal gweminar yn ymdrin â phob agwedd ar yr astudiaethau IID blaenorol. Mae hyn yn cynnwys IID1 a gynhaliwyd yn Lloegr yng nghanol y 1990au, ac yna IID2 yn 2012. Archwiliodd y lansiad ein cynlluniau ar gyfer IID3 a rhoi cyflwyniad i'r broses gaffael ofynnol. Gallwch chi weld y gweminar lawn isod.

Nodau IID3

Prif ffocws astudiaeth IID3 fydd astudiaeth carfan arfaethedig sy'n archwilio cyfraddau IID yn y DU. Mae hyn yn cynnwys recriwtio carfan o bobl cyn yr astudiaeth a gofyn iddynt adrodd symptomau dolur rhydd a chwydu os ydynt yn digwydd ym mywyd bob dydd. Os ydynt yn dioddef, bydd samplau carthion yn cael eu casglu ar gyfer archwiliad microbiolegol i ddarganfod achos penodol y salwch.

Mae ein blog blaenorol yn egluro ymchwil astudiaeth carfan ac yn cymharu methodolegau a ddefnyddir i amcangyfrif clefyd a gludir gan fwyd.

Mae IID3 yn brosiect mawr a fydd yn rhedeg dros sawl blwyddyn. Y nodau a'r cwestiynau allweddol y mae'r astudiaeth hon yn ceisio eu hateb yw:

  • Beth yw cyfanswm nifer yr achosion o IID yn y DU o ran achosion a chofnodion Meddygon Teulu?
  • O blith y cyfanswm o achosion IID, pa nifer sy'n cael ei briodoli i ffynonellau domestig a ffynonellau annomestig (hynny yw, o du allan i'r DU)?
  • Beth yw aetioleg IID yn y DU?
  • Beth yw cyfran yr achosion IID a gludir gan fwyd yn y DU drwy bathogen a chyfanswm IID? Mae hyn i gynnwys amcangyfrifon ar gyfer achosion o aetioleg anhysbys.
  • Beth yw'r cymarebau canfod (ascertainment) er mwyn addasu ar gyfer tan-adrodd sy'n gysylltiedig â phob organeb sy’n achosi IID?
  • Pa mor gyffredin yw genynnau ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) ym microbiome perfeddol y boblogaeth?
  • Sut mae canlyniadau astudiaeth IID3 yn cymharu ag astudiaethau blaenorol?
  • Beth yw'r nifer wedi'i fodelu o achosion yn y gymuned, achosion wedi’u hadrodd gan feddygon teulu, achosion yn yr ysbyty a marwolaethau oherwydd IID a chlefyd a gludir gan fwyd yn y DU?
  • Beth yw'r nifer wedi'i fodelu o achosion yn y gymuned, achosion wedi’u hadrodd gan feddygon teulu ac achosion yn yr ysbyty yn ôl nwyddau bwyd yn ôl pathogen?

Bydd yr astudiaeth hon hefyd yn defnyddio technolegau a ddatblygwyd ers cwblhau IID2 yn 2012. Bydd y rhain yn cynnwys metagenomeg i'n galluogi ni i edrych ar y microbiome dynol yn ei gyfanrwydd (cyfanswm y casgliad o ficro-organebau a geir yn y perfedd) a baich ymwrthedd gwrthficrobaidd. Byddwn ni hefyd yn defnyddio arolygon newydd ar y we i alluogi pobl i adrodd symptomau IID eu hunain a moderneiddio ein harolygon.

Canlyniadau IID3

Mae'r astudiaethau IID yn caniatáu i ni fyfyrio ar ffigurau IID. Maen nhw hefyd yn ein galluogi ni i archwilio a yw ein hymyriadau yn gweithio, a sut i dargedu meysydd newydd o ddiddordeb.

Bydd yr astudiaeth hefyd yn helpu'r ASB i ddeall y risgiau allweddol i ddefnyddwyr. Gan ddefnyddio'r astudiaethau blaenorol fel llinell sylfaen, bydd hyn yn caniatáu i ni weld newidiadau yn y risgiau tebygol i ddefnyddwyr.

Trwy ddefnyddio technolegau modern, gallwn geisio llenwi bylchau yn y data nad oedd modd ei wneud cyn hyn. Trwy ddysgu o brosiectau blaenorol, gallwn wneud yn siŵr bod ein gwaith yn sicrhau’r effaith gadarnhaol a'r gwerth am arian gorau posibl wrth ddiogelu defnyddwyr.

Sut i wneud cais i gymryd rhan yn IID3

Mae'r fanyleb ymchwil ar gyfer IID3 bellach yn fyw a gallwch dod o hyd iddi ar Bravo. Mae'r ddogfen hon yn rhoi rhagor o wybodaeth am ofynion IID3. G allwch chi gofrestru fel cyflenwr, gweld cyfleoedd ymchwil cyfredol, gofyn unrhyw gwestiynau a chyflwyno'ch cais.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 29 Ionawr 2021 am hanner dydd.

Edrychwn ymlaen at weld eich cais.

Sharing and comments

Share this page

Leave a comment

We only ask for your email address so we know you're a real person

By submitting a comment you understand it may be published on this public website. Please read our privacy notice to see how the GOV.UK blogging platform handles your information.