Skip to main content

https://food.blog.gov.uk/2021/09/22/emily-miles-stakeholder-update-a-new-report-on-food-standards/

Emily Miles' stakeholder update - a new report on food standards

Posted by: , Posted on: - Categories: Our mission

Emily Miles, Chief Executive of the Food Standards Agency, in front of Food We Can Trust sign

Cymraeg

FSA Chief Executive Emily Miles discusses plans for a new report on UK food standards.

 

The debate about the impact of EU Exit on the UK is rarely away from the headlines. Following EU Exit, the FSA, and Food Standards Scotland (FSS), have a responsibility to tell the legislatures in the four nations of the UK whether food standards are being maintained. At last Wednesday’s open FSA Board meeting we gave an update to the Board on one of the ways we will do this.

The FSA will publish, jointly with FSS, a new annual report on food standards. We will be assessing the state of the nation’s plate and addressing whether food standards are being maintained in England, Wales, Scotland and Northern Ireland, what improvements we have seen, and what, if any, problems there might be.

As with all of our work, the report will be evidence-based. Our latest analysis will look at people’s eating and food shopping behaviour, in addition to new evidence on consumers’ concerns, interests and priorities when it comes to food; and it will also look at the standards of domestically-produced and imported food. We will be engaging soon with our partners in government, industry and consumer organisations to ensure that you understand why we are doing this and what the scope of the report will be. In the meantime, you can read more detail on the scope of the report online.

You can also catch up with the recording of our Board meeting and hear more about our plans. The discussion of our plans for annual report starts at 41:39. You can also hear the Board debate gene editing at 1:22:27 and our plans for operational transformation at 56:30.

 

I hope you’ve found this message about the FSA’s current priorities useful. If you’d like to get future editions direct to your inbox, sign up for the updates. You can also sign up to be notified of future blog posts from the FSA.

Prif Weithredwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Emily Miles, yn trafod cynlluniau ar gyfer adroddiad newydd ar safonau bwyd y Deyrnas Unedig.

 

Mae’r ddadl am effaith ymadawiad y Deyrnas Unedig (DU) â’r Undeb Ewropeaidd (UE) yn aml yn cael sylw yn y penawdau. Yn dilyn ymadael â’r UE, mae gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), a Safonau Bwyd yr Alban (FSS), gyfrifoldeb dros ddweud wrth y deddfwrfeydd ym mhedair gwlad y DU a yw safonau bwyd yn cael eu cynnal. Yng nghyfarfod agored Bwrdd yr ASB ddydd Mercher diwethaf, fe wnaethom roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am un o'r ffyrdd y byddwn ni’n gwneud hyn.

Bydd yr ASB, ar y cyd â FSS, yn cyhoeddi adroddiad blynyddol newydd ar safonau bwyd. Byddwn ni’n asesu cyflwr bwyd y genedl ac yn trafod a yw safonau bwyd yn cael eu cynnal yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, pa welliannau a gafwyd, a pha broblemau, os o gwbl, a allai godi.

Yn yr un modd â'n holl waith, bydd yr adroddiad yn seiliedig ar dystiolaeth. Bydd ein dadansoddiad diweddaraf yn edrych ar ymddygiad bwyta a siopa bwyd pobl, yn ogystal â thystiolaeth newydd ar bryderon, diddordebau a blaenoriaethau defnyddwyr o ran bwyd; a bydd yr adroddiad hefyd yn rhoi golwg ar safonau bwyd a gynhyrchir yn fewnol yn y DU a bwyd wedi’i fewnforio. Cyn hir, byddwn ni’n ymgysylltu â’n partneriaid yn y llywodraeth, y diwydiant a sefydliadau defnyddwyr i sicrhau eich bod yn deall pam yr ydym ni’n gwneud hyn a beth bydd cwmpas yr adroddiad. Yn y cyfamser, gallwch chi ddarllen rhagor o fanylion am gwmpas yr adroddiad yma.

Gallwch hefyd wylio recordiad o gyfarfod ein Bwrdd yma a chlywed rhagor am ein cynlluniau. Mae'r drafodaeth ar ein cynlluniau ar gyfer yr adroddiad blynyddol yn dechrau am 41:39. Gallwch chi hefyd glywed y Bwrdd yn trafod addasu genynnau am 1:22:27 a'n cynlluniau ar gyfer trawsnewid gweithredol am 56:30.

 

Rwy’n gobeithio i chi gael y neges ddiweddaraf hon yn ddefnyddiol. Os hoffech gael rhifynnau’r dyfodol yn uniongyrchol i’ch mewnflwch, cofrestrwch am y diweddariadau. Gallwch chi hefyd gofrestru i gael eich hysbysu am bob blog gan yr ASB.

Sharing and comments

Share this page

Leave a comment

We only ask for your email address so we know you're a real person

By submitting a comment you understand it may be published on this public website. Please read our privacy notice to see how the GOV.UK blogging platform handles your information.