Skip to main content

https://food.blog.gov.uk/2021/10/22/the-global-food-safety-incidents-and-emergency-response-conference-2021/

The Global Food Safety Incidents and Emergency Response Conference 2021

Posted by: , Posted on: - Categories: Foodborne disease, Our mission

Global Food Safety Incidents Response conference

Cymraeg

Philip Randles, Head of Incidents and Resilience, reflects on the Global Food Safety Incidents and Emergency Response (GFSIER) Conference 2021, hosted by the Food Standards Agency (FSA) and Food Standards Scotland (FSS) from 13-15 October.

 

Last week, after six months of planning, the Food Standards Agency and Food Standards Scotland jointly hosted the entirely virtual GFSIER Conference 2021.

I would like to say a huge thank you to everyone who attended over the three days. As a team, the Incidents and Resilience Unit are delighted to have had 650 registered delegates representing over 80 countries.

It proved really productive and was such a positive experience to meet worldwide counterparts and establish new contacts within the regulatory and food systems.

Aims of the conference

The conference aimed to address how to enhance food safety and food security in a changing world.

It enabled us to come together to explore how we can improve global food security through sharing of best practice, working collaboratively and learning from each other.

The event also focused on keeping food safety incident and crisis response high on the agenda.

Reflecting on the three days and working with my team to plan for the future, I really do think we achieved what we set out to do.

Day one - Food safety regulators around the world

Professor Susan Jebb, FSA Chair, opened the conference discussing the current challenges in the world of food safety.

Co-operation, co-ordination, communication, data sharing and new technologies were all high on the agenda.

Dr Francesco Branca, Head of Nutrition and Food Safety at the World Health Organization, started the response to these challenges by talking about the role of INFOSAN in food safety incidents and the broader food system.

A key conclusion was that, due to the improved technologies and methods to detect and monitor food safety events, there is, and will continue to be, a higher number of food safety incidents statistically.

This does not necessarily mean that there are more food safety events, but rather that more existing events are being detected. This improved detection can only benefit us and our counterparts around the world in improving prevention.

Of course, with the continued rise of global food trade we can expect an increase in complex, international food safety incidents. This alone highlights the importance for nations and stakeholders being actively involved in international food safety networks, allowing us all to open and maintain vital communication channels.

Discussions on the first day covered surveillance and data, new technology in incident management and food authenticity and food crime.

There is a lot of work around surveillance and data happening across the globe and the importance of the use of artificial intelligence (AI) and predicative modelling is key.

We must focus on how we are working and collaborating in the development of ever more sophisticated tools for the sharing of data. We must ensure we keep up with greater demands in the future for analysing and interpretating evidence.

AI will be important in assisting with the resource implications of increased detection of incidents.

Other new technologies highlighted by the conference included new analytical techniques being used to assess food authenticity and identify food fraud, remote surveillance made possible using mobile phone and camera recordings, and whole genome sequencing to identify food outbreaks which in previous years we would never have identified.

Social science is also playing a part in food safety in helping us to understand not just what consumers are eating, but allowing us to listen to consumers and understand their concerns. Overall, I think we are in a good place as regulators to set high standards as we embrace new technology.

Day two - International collaboration and food safety

The conference benefited from input from all four UK devolved nations over the three days. it was useful to hear from the Northern Ireland and Welsh Food Advisory Committees to open day two.

How we work and co-ordinate across the four nations is invaluable and sets an example for how other countries can collaborate both internally and internationally.

The food industry was inevitably at the heart of most discussions covered by the conference.

It was great to hear from Steve Purser from Tesco PLC, to learn about industry priorities and food safety challenges from a different perspective. It was clear that collaboration and information sharing are high on the food industry’s agenda too.

Representatives from industry, regulators and public health authorities then joined me to reflect on best practice and share their top tips from an incident or emergency that they had been involved in. Learning from our own and others’ experience is invaluable, and I hope such lessons have proved useful for all the delegates.

The outbreaks, risk communication and crisis management breakout sessions added further insight as to where we should focus our attention.

We are always aiming for more open data sharing as well as good integration of all available sources including epidemiological, environmental, food chain and microbiological information.

Various platforms exist for sharing genomic data and I see potential for expanding the scope and use of other platforms, including INFOSAN. Communication of risks requires partnership working and we need to consider other nations’ access to systems and capacity to deal with food incidents, while supporting each other to improve where we can.

A phrase used regularly during the conference was ‘honest uncertainty’ and I believe being open and transparent, even when pressed for a quick answer is important.

With the food safety challenges we face, increasing crisis management and incident response is a global challenge, not bound by borders.

We are building new partnerships all the time and I look forward to seeing these relationships develop as we tackle more issues together.

Day three - Global priorities for food safety

The final day of the conference was opened by Ross Finnie, FSS Chair. He provided insight into priorities and challenges for the UK and fellow regulators. This set us up for a day of debate and discussion, allowing us to pull together learnings and objectives to take forward.

Having Dr Peter Ben Embarek, Head of WHO One Health Initiative (OHI) and Steve Wearne, Director, Global Affairs, Food Standards Agency and Vice Chair of Codex Alimentarius Commission present, really brought home how food is a global commodity and how food safety is a global challenge.

You can read Steve Wearne’s post-event article about Codex on LinkedIn.

To finish we welcomed colleagues from around the globe to give their views on harmonisation and best practice across differing international regulatory systems and future challenges for industry and regulators.

FSA Chief Executive Emily Miles and FSS Chief Executive Geoff Ogle brought the conference to a close as they summed up the debate and shared key learnings and challenges with delegates.

As I reflect on the conference, the things my team and I will take away are:

  • the importance of data sharing and the benefits of getting it right;
  • the part we play in improving public trust in us as regulators;
  • how we can utilise information sources available to us and;
  • how we can support countries with less capacity to deal with food incidents.

All in all, a really interesting three days – thank you to everyone involved.

Cynhadledd Digwyddiadau ac Ymateb Brys Diogelwch Bwyd Byd-eang y Deyrnas Unedig 2021

Mae Philip Randles yn myfyrio ar Gynhadledd Digwyddiadau ac Ymateb Brys Diogelwch Bwyd Byd-eang (GFSIER) 2021, a gynhaliwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) rhwng 13-15 Hydref.

 

Yr wythnos diwethaf, ar ôl chwe mis o gynllunio, cynhaliodd yr ASB a FSS Gynhadledd GFSIER 2021 rithwir ar y cyd.

Hoffwn ddweud diolch enfawr i bawb a gymerodd ran dros y tridiau. Fel tîm, roedd yr Uned Digwyddiadau a Gwytnwch yn falch iawn o gael 650 o gynrychiolwyr cofrestredig yn cynrychioli dros 80 o wledydd.

Roedd y gynhadledd yn gynhyrchiol iawn ac roedd hi’n brofiad hynod gadarnhaol cwrdd â chymheiriaid ledled y byd a sefydlu cysylltiadau newydd o fewn y systemau rheoleiddio a bwyd.

Nodau'r gynhadledd

Nod y gynhadledd oedd mynd i'r afael â sut i wella diogelwch bwyd a mynediad at y cyflenwad bwyd (food security) mewn byd sy'n newid.

Fe wnaeth ein galluogi i ddod ynghyd i archwilio sut y gallwn ni wella diogelwch bwyd byd-eang trwy rannu arferion gorau, gweithio ar y cyd a dysgu oddi wrth ein gilydd.

Roedd y digwyddiad hefyd yn canolbwyntio ar gadw digwyddiadau bwyd ac ymateb i argyfyngau ar frig yr agenda.

Gan fyfyrio ar y tridiau, a gweithio gyda fy nhîm i gynllunio ar gyfer y dyfodol, rydw i wir yn meddwl ein bod ni wedi cyflawni'r hyn roedden ni'n bwriadu ei wneud.

Diwrnod un – Rheoleiddwyr diogelwch bwyd ar draws y byd

Agorodd yr Athro Susan Jebb, Cadeirydd yr ASB, y gynhadledd yn trafod yr heriau cyfredol ym myd diogelwch bwyd.

Roedd cydweithredu, cydlynu, cyfathrebu, rhannu data a thechnolegau newydd i gyd ar frig yr agenda.

Dechreuodd Dr Francesco Branca, Pennaeth Maeth a Diogelwch Bwyd yn Sefydliad Iechyd y Byd, drafodaeth ar yr ymateb i'r heriau hyn trwy siarad am rôl INFOSAN mewn digwyddiadau diogelwch bwyd a'r system fwyd ehangach.

Un o’r prif gasgliadau oedd, oherwydd y technolegau a'r dulliau gwell i ganfod a monitro digwyddiadau diogelwch bwyd, yn ystadegol mae nifer uwch o ddigwyddiadau diogelwch bwyd, a bydd hyn yn parhau.

Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu bod mwy o ddigwyddiadau diogelwch bwyd, ond yn hytrach bod mwy o ddigwyddiadau cyfredol yn cael eu canfod. Bydd y gwelliant hwn o ran canfod o fudd i ni a'n cymheiriaid ledled y byd o ran gwella atal.

Wrth gwrs, gyda chynnydd parhaus mewn masnach fwyd fyd-eang, gallwn ddisgwyl cynnydd mewn digwyddiadau diogelwch bwyd rhyngwladol cymhleth. Mae hyn ar ei ben ei hun yn tynnu sylw at pa mor bwysig yw hi bod cenhedloedd a rhanddeiliaid yn cymryd rhan weithredol mewn rhwydweithiau diogelwch bwyd rhyngwladol, gan ein galluogi ni oll agor a chynnal sianeli cyfathrebu hanfodol.

Roedd y trafodaethau ar y diwrnod cyntaf yn ymwneud â gwyliadwriaeth a data, technoleg newydd yn y meysydd rheoli digwyddiadau a dilysrwydd bwyd a throseddau bwyd.

Mae llawer o waith yn ymwneud â gwyliadwriaeth a data yn digwydd ledled y byd ac mae pwysigrwydd defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) a modelu rhagfynegol yn allweddol.

Rhaid i ni ganolbwyntio ar sut rydym ni’n gweithio ac yn cydweithredu wrth ddatblygu offer mwy soffistigedig ar gyfer rhannu data.

Rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n cadw golwg gyfredol ar fwy o alwadau yn y dyfodol am ddadansoddi a dehongli tystiolaeth.

Bydd AI yn bwysig wrth gynorthwyo gyda goblygiadau adnoddau sy’n codi yn sgil rhagor o ddigwyddiadau.

Roedd y gynhadledd hefyd yn tynnu sylw at dechnolegau newydd eraill fel technegau dadansoddol newydd a oedd yn cael eu defnyddio i asesu dilysrwydd bwyd a nodi twyll bwyd, gwyliadwriaeth o bell a oedd yn bosibl gan ddefnyddio recordiadau ffôn symudol a chamera, a dilyniant genom cyfan i nodi achosion (outbreaks) bwyd na fyddem erioed wedi'u nodi yn y blynyddoedd blaenorol.

Mae gwyddoniaeth gymdeithasol hefyd yn chwarae rhan mewn diogelwch bwyd wrth ein helpu i ddeall nid yn unig yr hyn y mae defnyddwyr yn ei fwyta, ond ein galluogi i wrando ar ddefnyddwyr a deall eu pryderon. Ar y cyfan, rwy'n credu ein bod mewn lle da fel rheoleiddwyr i osod safonau uchel wrth i ni fanteisio ar dechnoleg newydd.

Diwrnod dau - Cydweithio rhyngwladol a diogelwch bwyd

Elwodd y gynhadledd ar fewnbwn gan bedair gwlad ddatganoledig y Deyrnas Unedig (DU) dros y tridiau. Roedd yn ddefnyddiol clywed gan Bwyllgorau Cynghori ar Fwyd Cymru a Gogledd Iwerddon ar ddechrau diwrnod dau.

Mae'r ffordd yr ydym yn gweithio ac yn cydlynu ar draws y pedair gwlad yn amhrisiadwy ac yn gosod esiampl ar gyfer sut y gall gwledydd eraill gydweithredu'n fewnol ac yn rhyngwladol.

Yn anochel, roedd y diwydiant bwyd wrth wraidd mwyafrif trafodaethau’r gynhadledd.

Roedd yn wych clywed gan Steve Purser o Tesco PLC, i ddysgu am flaenoriaethau'r diwydiant a heriau diogelwch bwyd o safbwynt gwahanol. Roedd yn amlwg bod cydweithredu a rhannu gwybodaeth yn uchel ar agenda'r diwydiant bwyd hefyd.

Yna ymunodd cynrychiolwyr o’r diwydiant, rheoleiddwyr ac awdurdodau iechyd y cyhoedd â mi i fyfyrio ar arfer gorau a rhannu eu cynghorion gorau o ddigwyddiad neu argyfwng yr oeddent wedi bod yn rhan ohono. Mae dysgu o'n profiad ni ein hunain ac eraill yn amhrisiadwy, a gobeithio bod gwersi o'r fath wedi bod yn ddefnyddiol i'r holl gynrychiolwyr.

Roedd y sesiynau unigol (breakout) ar achosion, cyfathrebu risg a rheoli argyfwng yn cynnig mewnwelediad pellach o ran ble y dylem ganolbwyntio ein sylw.

Rydym ni bob amser yn anelu at rannu data yn fwy agored yn ogystal ag integreiddio'r holl ffynonellau sydd ar gael gan gynnwys gwybodaeth epidemiolegol, gwybodaeth amgylcheddol, gwybodaeth am y gadwyn fwyd a gwybodaeth ficrobiolegol.

Mae llwyfannau amrywiol yn bodoli ar gyfer rhannu data genomig ac rwy’n gweld potensial ar gyfer ehangu cwmpas a defnydd llwyfannau eraill, gan gynnwys INFOSAN. Mae cyfathrebu risgiau yn gofyn am weithio mewn partneriaeth ac mae angen i ni ystyried mynediad cenhedloedd eraill i systemau a'u gallu i ddelio â digwyddiadau bwyd, wrth gefnogi ein gilydd i wella lle y gallwn.

Roedd yr ymadrodd 'ansicrwydd gonest' yn cael ei ddefnyddio’n aml yn ystod y gynhadledd, a chredaf fod bod yn agored ac yn dryloyw’n bwysig, hyd yn oed os oes pwysau i ateb yn gyflym.

Gyda'r heriau diogelwch bwyd sy'n ein hwynebu, mae cynyddu mesurau rheoli argyfwng ac ymateb i ddigwyddiadau yn her fyd-eang, heb ei gyfyngu gan ffiniau.

Rydym ni’n meithrin partneriaethau newydd trwy'r amser ac rwy’n edrych ymlaen at weld y perthnasoedd hyn yn datblygu wrth i ni fynd i'r afael â mwy o faterion gyda'n gilydd.

Diwrnod tri - Blaenoriaethau byd-eang ar gyfer diogelwch bwyd

Agorwyd diwrnod olaf y gynhadledd gan Ross Finnie, Cadeirydd FSS. Rhoddodd gipolwg ar flaenoriaethau a heriau i'r DU a chyd-reoleiddwyr. Roedd hyn yn sylfaen ar gyfer diwrnod o ddadlau a thrafod, gan ganiatáu i ni ddod â’r hyn rydym ni wedi’i ddysgu ac amcanion ynghyd i fwrw ymlaen.

Roedd Dr Peter Ben Embarek, Pennaeth Menter Iechyd i Bawb WHO (OHI) a Steve Wearne, Cyfarwyddwr, Materion Byd-eang, Asiantaeth Safonau Bwyd ac Is-gadeirydd Comisiwn Codex Alimentarius yn bresennol, a wnaeth ein helpu ni i ddeall sut mae bwyd yn nwydd byd-eang a sut mae diogelwch bwyd yn her fyd-eang.

Gallwch chi ddarllen erthygl Steve Wearne am Codex ar LinkedIn.

I orffen, gwnaethom groesawu cydweithwyr o bob cwr o'r byd i roi eu barn ar gysondeb ac arfer gorau ar draws gwahanol systemau rheoleiddio rhyngwladol a heriau’r dyfodol i ddiwydiant a rheoleiddwyr.

Daeth Prif Weithredwr yr ASB Emily Miles a Phrif Weithredwr yr FSS, Geoff Ogle, â'r gynhadledd i ben wrth iddynt grynhoi'r ddadl a rhannu’r dysg a’r heriau allweddol gyda chynrychiolwyr.

Wrth i mi fyfyrio ar y gynhadledd, dyma’r pethau y byddaf i a fy nhîm yn ystyried:

  • pwysigrwydd rhannu data a manteision ei gael yn iawn;
  • ein rôl wrth wella ymddiriedaeth y cyhoedd ynom fel rheoleiddiwyr;
  • sut y gallwn ni ddefnyddio ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael i ni a;
  • sut y gallwn ni gefnogi gwledydd sydd â llai o allu i ddelio â digwyddiadau bwyd.

Ar y cyfan, tridiau diddorol iawn – diolch i bawb a gymerodd ran.

Sharing and comments

Share this page

Leave a comment

We only ask for your email address so we know you're a real person

By submitting a comment you understand it may be published on this public website. Please read our privacy notice to see how the GOV.UK blogging platform handles your information.