The Food Standards Agency’s (FSA) fundamental mission is food you can trust. For some people living with a food allergy, intolerance, or coeliac disease, we know that food not being what it says it is can be fatal.
In October 2021, following the tragic death of Natasha Ednan-Laperouse, we introduced a new allergen labelling law, also known as Natasha’s Law. The new law requires businesses selling pre-packed for direct sale (PPDS) food to attach a label containing the name of the product and a full ingredients list to each individual PPDS product, with allergens emphasised within the list.
Evaluation of Natasha’s Law
Today, we have published a report evaluating the impact of the law. I am pleased to say that our evaluation finds that 91% of businesses are aware of the law, and 68% indicated they have all the information they need to follow it. We will continue to proactively promote our tools and guidance on the law to businesses to ensure the safe and successful running of their operations.
40% of people surveyed, living with a food hypersensitivity, say their lives have been improved – and the impact has been greater among younger people aged between 18 and 34 years than older adults aged 65+years.
The evaluation found few unintended consequences following the introduction of the law. One such unintended consequence has been an increase in the application of Precautionary Allergen Labelling (PAL). We are already working to address this with updated technical guidance on best practice for applying PAL, encouraging food businesses to be more consistent in their approach to give greater confidence to those living with a food hypersensitivity.
Half of food business operators (FBOs) surveyed reported that the new requirements had increased their costs. Interviews with businesses found that there were ongoing costs, but these were less significant than the set-up costs and did not pose an issue to the survival of the business.
We will continue to monitor the impact of the allergen labelling law and local authorities will continue to make sure businesses are complying with it to keep people with food allergies safe.
We will also be looking to take some of the lessons learned from introducing Natasha’s Law into the next phase of our Food Hypersensitivity work.
Over the last year we have been gathering evidence to inform our proposals on how allergen information should be provided for non-prepacked food in the out-of-home sector. An example of this is how allergen information is provided in restaurants.
Evidence-gathering workshop on allergen information
We recently held a workshop to find out how some of our stakeholders think allergen information should be provided in the out-of-home sector. I was delighted to welcome representatives from the Natasha Allergy Research Foundation (NARF), the Owen’s Law Campaign, Allergy UK and food hypersensitivity charities, as well as senior FSA colleagues.
The workshop produced several interesting discussions, and we were grateful for the different perspectives and viewpoints heard, which will help inform our next steps.
The agenda for the day brought together our work done to date, including evidence we have gathered, and insights from people with food allergies, intolerances, and coeliac disease, as well as industry and other stakeholders.
We discussed the potential impact of written allergen information as well as the possible positive and negative effects of changes to legislation.
We also agreed on the importance of standardisation within allergen training and that training should be carried out regularly with consumer-facing staff. Critically, we agreed that allergen labelling needs to be considered in the context of the wider food system.
Publication of further Food Hypersensitivity research
We were also pleased to be able to share with our attendees the summaries of two more pieces of research, full versions of which have been published today.
The first of the reports covers the way that small and medium-sized enterprises provide allergen information in the non-prepacked sector, and the other looks at how allergen information in this sector is provided in other countries. I’d really encourage anyone with an interest in our work in this area to read the reports, which show just some of details we need to think about when considering options that will lead to improvements in the way allergen information is provided.
We must make sure that our proposals do not give rise to any unintended consequences, and we need to see what barriers we may need to overcome before we finalise our way forward.
Moving forward on labelling
The picture that has emerged from our research so far on how best to improve the way in which information is provided to people with a food hypersensitivity is complex and does not indicate one ‘right approach’ that will work for all. There is still more information to be gathered, but we are at a point where we can begin to pull together the evidence we have and develop options for our Board to consider.
The assessment of the evidence will take time, but we will work as fast as we can. And I can assure all of you who are reading this message that we will keep the needs of those with food allergies, intolerances, and coeliac disease at the forefront of our thinking as has been the case through our programme of work.
Please see the Food Hypersensitivity section of our website for more information on our work in this area.
Gwerthusiad o Gyfraith Natasha a chamau nesaf yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar orsensitifrwydd i fwyd
Cenhadaeth sylfaenol yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yw bwyd y gallwch ymddiried ynddo. Os nad yw bwyd yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, gall hynny fod yn beryg bywyd i bobl sy’n byw ag alergedd bwyd, anoddefiad bwyd neu glefyd seliag.
Ym mis Hydref 2021, yn dilyn marwolaeth drasig Natasha Ednan-Laperouse, gwnaethom gyflwyno cyfraith labelu alergenau newydd, a elwir hefyd yn Gyfraith Natasha. Mae’r gyfraith newydd yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau sy’n gwerthu bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS) roi label sy’n cynnwys enw’r cynnyrch a rhestr gynhwysion lawn ar bob cynnyrch PPDS unigol, gyda phwyslais ar yr alergenau yn y rhestr.
Gwerthusiad o Gyfraith Natasha
Heddiw, rydym wedi cyhoeddi adroddiad yn gwerthuso effaith y gyfraith. Rwy’n falch o ddweud bod ein gwerthusiad wedi canfod bod 91% o fusnesau yn ymwybodol o’r gyfraith, a bod 68% wedi nodi bod ganddynt yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i gydymffurfio â hi. Byddwn yn dal ati i hyrwyddo ein hadnoddau a’n canllawiau ar y gyfraith i fusnesau er mwyn sicrhau eu bod yn gweithredu’n ddiogel ac yn llwyddiannus.
Dywedodd 40% o’r bobl a holwyd, sy’n byw gyda gorsensitifrwydd i fwyd, fod eu bywydau wedi gwella – ac mae’r effaith yn fwy amlwg ymhlith pobl iau rhwng 18 a 34 oed nag oedolion hŷn 65+ oed (47% o gymharu â 36%).
Canfu’r gwerthusiad ambell ganlyniad anfwriadol yn sgil cyflwyno’r gyfraith. Un canlyniad anfwriadol o’r fath oedd cynnydd yn y defnydd o Labelu Alergenau Rhagofalus. Rydym eisoes yn gweithio i fynd i’r afael â hyn gyda chanllawiau technegol wedi’u diweddaru ar arferion gorau ar gyfer cymhwyso labelu alergenau rhagofalus, gan annog busnesau bwyd i fod yn fwy cyson yn y ffordd maent yn gweithredu, er mwyn rhoi mwy o hyder i’r rhai sy’n byw gyda gorsensitifrwydd i fwyd.
Dywedodd hanner y gweithredwyr busnesau bwyd a holwyd fod y gofynion newydd wedi cynyddu eu costau. Mewn cyfweliadau, dywedodd busnesau fod yna gostau parhaus, ond fod y rhain yn llai sylweddol na’r costau sefydlu ac nad oeddent yn peryglu dyfodol y busnes.
Byddwn yn parhau i fonitro effaith y gyfraith labelu alergenau a bydd awdurdodau lleol yn parhau i wneud yn siŵr bod busnesau’n cydymffurfio â hi er mwyn cadw pobl ag alergeddau bwyd yn ddiogel.
Rydym hefyd yn bwriadu defnyddio rhai o’r gwersi a ddysgwyd wrth gyflwyno Cyfraith Natasha i lywio cam nesaf ein gwaith ar orsensitifrwydd i fwyd.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi bod yn casglu tystiolaeth i lywio ein cynigion ar sut y dylid darparu gwybodaeth am alergenau ar gyfer bwyd nad yw wedi’i becynnu ymlaen llaw yn y sector y tu allan i’r cartref. Enghraifft o hyn yw sut y darperir gwybodaeth am alergenau mewn bwytai.
Gweithdy casglu tystiolaeth ar wybodaeth am alergenau
Yn ddiweddar, gwnaethom gynnal gweithdy i glywed barn rhai o’n rhanddeiliaid ynghylch sut y dylid darparu gwybodaeth am alergenau yn y sector y tu allan i’r cartref. Roedd yn bleser croesawu cynrychiolwyr o sefydliad Natasha Allergy Research Foundation (NARF), Owen’s Law Campaign, Allergy UK ac elusennau gorsensitifrwydd i fwyd, yn ogystal ag uwch aelodau o staff yr ASB.
Cafwyd nifer o drafodaethau diddorol yn y gweithdy, ac roeddem yn ddiolchgar am y gwahanol safbwyntiau a glywyd, a fydd yn helpu i lywio ein camau nesaf.
Roedd agenda’r diwrnod yn tynnu ynghyd y gwaith a wnaed gennym hyd yma, gan gynnwys tystiolaeth rydym wedi’i chasglu, a mewnwelediadau gan bobl ag alergeddau bwyd, anoddefiadau, a chlefyd seliag, yn ogystal â’r diwydiant a rhanddeiliaid eraill.
Gwnaethom drafod effaith bosib gwybodaeth ysgrifenedig am alergenau, yn ogystal ag effeithiau cadarnhaol a negyddol posib newidiadau i ddeddfwriaeth.
Cytunwyd hefyd ar bwysigrwydd safoni hyfforddiant ar alergenau, ac y dylid cynnal hyfforddiant yn rheolaidd gyda staff sy’n gwasanaethu defnyddwyr. Yn anad dim, gwnaethom gytuno bod angen ystyried labelu alergenau yng nghyd-destun y system fwyd ehangach.
Cyhoeddi ymchwil bellach ar orsensitifrwydd i fwyd
Roeddem hefyd yn falch o allu rhannu crynodebau o ddau ddarn arall o ymchwil, y mae fersiynau llawn ohonynt wedi’u cyhoeddi heddiw.
Mae’r adroddiad cyntaf yn ymdrin â’r ffordd y mae busnesau bach a chanolig yn darparu gwybodaeth am alergenau yn y sector heb ei becynnu ymlaen llaw, ac mae’r llall yn ystyried sut mae gwybodaeth am alergenau yn y sector hwn yn cael ei darparu mewn gwledydd eraill. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn ein gwaith yn y maes hwn i ddarllen yr adroddiadau, sy’n dangos rhai o’r manylion y mae angen i ni eu hystyried wrth feddwl am opsiynau a fydd yn arwain at wella’r ffordd y darperir gwybodaeth am alergenau.
Rhaid i ni wneud yn siŵr nad yw ein cynigion yn arwain at unrhyw ganlyniadau anfwriadol, ac mae angen i ni weld pa rwystrau y gallai fod angen eu goresgyn cyn penderfynu’n derfynol ar ein ffordd ymlaen.
Symud ymlaen o ran labelu
Hyd yma, mae darlun cymhleth wedi dod i’r amlwg o’n hymchwil ar y dull gorau o wella’r ffordd y caiff gwybodaeth ei darparu i bobl sydd â gorsensitifrwydd i fwyd. Nid yw’n dangos un dull gweithredu ‘cywir’ a fydd yn gweithio i bawb. Mae angen casglu mwy o wybodaeth o hyd, ond rydym wedi cyrraedd pwynt lle gallwn ddechrau tynnu’r dystiolaeth sydd gennym ynghyd a datblygu opsiynau i’n Bwrdd eu hystyried.
Bydd yn cymryd amser i asesu’r dystiolaeth, ond byddwn yn gweithio mor gyflym ag y gallwn. Gallaf sicrhau pob un ohonoch chi sy’n darllen y neges hon y byddwn yn blaenoriaethu anghenion y rhai ag alergeddau bwyd, anoddefiadau a chlefyd seliag, fel y gwnaethom drwy gydol ein rhaglen waith.
Gweler yr adran Gorsensitifrwydd i Bwyd ar ein gwefan i gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith yn y maes hwn.
Leave a comment