Last year the Food Standards Agency (FSA) launched a new strategy which set out a vision and the guiding principles that will enable us to continue to operate effectively in a fast-changing environment.
The strategy recommitted us to our core mission – Food You Can Trust – and set out three key objectives: to ensure food is safe; food is what it says it is; and an explicit new objective - to play our part in transforming the food system to ensure food is healthier and more sustainable.
Today we have set out how we will turn the ambitions of our strategy into concrete actions. In a new 3-year corporate plan, which we have just published, our stakeholders can see how we intend to deliver on each part of the strategy and how we will monitor progress.
The plan explains how we will continue to deliver our core role, acting as an evidence generator, policy maker and regulator. It also sets out change and transformation objectives: to build new evidence, and create proportionate, risk-based assurance and regulatory services. The plan covers the work we will do to speak out publicly as a watchdog and how we will work in partnership, as a convenor and collaborator, providing the people, resources and processes needed to deliver on our strategy.
I am really interested to know your thoughts on particular aspects of this plan:
- Where can the FSA have the most impact, whether that’s in our role as watchdog for consumers, or as a convener and collaborator for food system?
- If resources allow, where could we expand our role to solve the key issues facing consumers, particularly for ensuring a more healthy and sustainable supply of food?
If you have thoughts on these aspects of our corporate plan, please share them with us at threeyearplan@food.gov.uk.
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cyhoeddi Cynllun Corfforaethol 3 Blynedd
Y llynedd, lansiodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) strategaeth newydd a nododd weledigaeth yn ogystal â’r egwyddorion arweiniol a fydd yn ein galluogi ni i barhau i weithredu’n effeithiol mewn amgylchedd sy’n newid yn gyflym.
Gwnaeth y strategaeth atgyfnerthu ein hymrwymiad i’n cenhadaeth graidd – Bwyd y gallwch ymddiried ynddo. Nododd hefyd dri amcan allweddol, sef: sicrhau bod bwyd yn ddiogel; sicrhau bod bwyd yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label; ac amcan newydd penodol, sef sicrhau ein bod ni’n chwarae ein rhan wrth drawsnewid y system fwyd i wneud yn siŵr bod bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy.
Heddiw, mae’r ASB wedi nodi sut y byddwn ni’n troi uchelgeisiau ein strategaeth yn gamau gweithredu pendant. Rydym newydd gyhoeddi cynllun corfforaethol 3 blynedd newydd, sy’n dangos sut rydym ni’n bwriadu cyflawni pob rhan o’r strategaeth a sut y byddwn ni’n monitro cynnydd.
Mae’r cynllun yn egluro sut y byddwn ni’n parhau i gyflawni ein rôl graidd, gan weithredu fel cynhyrchydd tystiolaeth, lluniwr polisi a rheoleiddiwr. Mae hefyd yn nodi amcanion newid a thrawsnewid, er mwyn adeiladu tystiolaeth newydd a chreu gwasanaethau rheoleiddio a sicrwydd cymesur, sy’n seiliedig ar risg. Mae’r cynllun yn cwmpasu’r gwaith y byddwn ni’n ei wneud i godi llais yn gyhoeddus fel corff gwarchod a sut y byddwn ni’n gweithio mewn partneriaeth, fel cynullydd a chydweithredwr, gan ddarparu’r bobl, yr adnoddau a’r prosesau sydd eu hangen i gyflawni ein strategaeth.
Byddwn i wrth fy modd yn clywed eich barn ar agweddau penodol ar y cynllun hwn:
- Ble gall yr ASB gael yr effaith fwyaf, boed hynny yn ein rôl fel corff gwarchod ar gyfer defnyddwyr, neu fel cynullydd a chydweithredwr ar gyfer systemau bwyd?
- Pe bai adnoddau’n caniatáu, sut gallem ni ehangu ein rôl i ddatrys y problemau allweddol sy’n wynebu defnyddwyr, yn enwedig ar gyfer sicrhau cyflenwad bwyd iachach a mwy cynaliadwy?
Os oes gennych chi unrhyw farn am yr agweddau hyn ar ein cynllun corfforaethol, gofynnwn yn garedig i chi ei rhannu gyda ni yn threeyearplan@food.gov.uk.
Leave a comment