
So, you're heading off to uni - new freedom, new friends, and maybe your first time cooking for yourself properly. Starting uni is exciting enough without a bout of food poisoning, so learn a few simple food hygiene basics to help keep yourself safe and well.
Making your money go further, safely
While you're at uni you might not have a lot of cash to spare, but the good news is, you can make your money go further with a few tips and tricks, while keeping food safety top of the agenda.
Use-by and best before dates
Most food has a date on the packaging: use-by dates and best before dates. Our research tells us that if people don’t understand what use-by dates mean, they are twice as likely to not check the use-by date before eating food. Read on to find out what these dates actually mean.
- Use-by dates are about safety and are on foods like meat and dairy. You can eat food up to and on the use-by date, but not after. Even if it looks and smells fine, don't chance it - it's not worth the risk. If you notice food coming up to its use-by date and you think you won’t eat it in time, you can chuck it in the freezer, so it doesn’t go to waste.
- Best before dates are about quality and are on cupboard staples like dried pasta, chocolate and tinned food. Food is still safe to eat after the best before date, but it might not taste as good.
Now you know what use-by and best before dates mean, make sure to keep an eye on them.
Meal prep mode
Batch cooking is a great way to save time and money at uni. Just keep these things in mind:
- Don't leave cooked food sitting in pots and pans - get leftovers into a container, cool them down, and into the fridge within one to two hours.
- Eat refrigerated leftovers within 2 days, or pop them in the freezer for another time.
- Be careful with cooked rice - it should only be kept in the fridge for one day max, and only reheated once. You can freeze it too.
Reheating leftovers
Whether you're using the microwave, hob, or oven, only ever reheat food once. When reheating:
- Stir or turn your food halfway through cooking to make sure it heats evenly all the way through.
- Some dishes like lasagne are better reheated in smaller portions for an even result.
- Make sure your food is steaming hot throughout before eating it.
Make meals with confidence
Learning how to properly cook, freeze and defrost food correctly is key to helping you stop becoming unwell with food poisoning. There are lots of simple things you can do to keep safe.
Cooking safely
- Always check the packaging for cooking instructions and make sure your food is steaming hot all the way through before eating.
- Wash your hands regularly, especially after handling raw meat.
- Chicken, pork, and minced meat products like burgers and sausages should never be pink inside and should be cooked through thoroughly. Steak is fine to have pink or rare though.
- Don't wash raw meat or fish - it splashes bacteria around your kitchen without you realising.
Freezing and defrosting
- Label everything you freeze with what it is and when you froze it - you'll thank yourself later.
- Defrost food in the fridge in a sealed or leak-proof container. If you can’t do this, use the defrost setting on your microwave just before cooking.
- Make sure food is fully defrosted all the way through before cooking.
- Once defrosted, cook and eat within 24 hours.
- Only take out of the freezer what you're actually going to use. You can’t refreeze food once it’s been defrosted, so there’s no point defrosting a whole batch if you're only hungry for one portion. Plus, it’s good to avoid wasting food and money by putting it in the bin.
Keeping your kitchen fun and fresh
Sharing a kitchen with other people can be a great way to socialise, but no-one wants to be chatting and cooking somewhere that's dirty and grimy. Keeping your kitchen clean and making sure it's safe to cook in will help keep you and your housemates safe and well.
Navigating shared fridge life
Fridge politics in shared houses can get messy. And if you live in shared accommodation, the risks are likely to be higher.
Here's how to keep things safe (and drama-free):
- Keep your fridge at 5°C or below.
- Don't store raw meat or fish on the same shelf as ready-to-eat food (such as deli meats and fruit), unless it’s in a sealed container. When we surveyed students in 2023, we found that people living with 5 to 6 people were over 5 times more likely to not separate food in the refrigerator.
- Avoid leaving open tin cans in the fridge as the food inside may grow bacteria and develop a metallic taste - decant the contents into a sealable container instead.
- If something in your fridge is close to its use-by date and you're not going to eat it in time, freeze it. You can freeze food even on the use-by date.
Keeping your kitchen clean
Bacteria build up fast in a busy shared kitchen. Here's how to stay on top of it:
- Set up a cleaning rota with your housemates - it makes life fairer and keeps things hygienic.
- Stock up on cleaning products that kill bacteria and viruses.
- Before you cook, make sure surfaces, chopping boards, and utensils are clean.
- Change your washing up water regularly - dirty water is a breeding ground for bacteria. When we surveyed students, only 60% said they use hot water, and 72% use washing-up liquid when washing up.
- Many students may not be replacing kitchen cleaning items as often as they could. Around 6 in 10 (62%) replace dish sponges or cloths, and almost 3 in 10 (29%) replace tea towels, just 2-3 times a month or less. Make sure you swap out and clean these items regularly.
- Don't forget to clean the spots you touch constantly, like fridge door handles.
- If you're using your phone while cooking (following a recipe or just having a scroll), wipe it down with an antibacterial wipe now and then.
- Take the bins out regularly - flies, pests, and bad smells are nobody's idea of a good time.
Enjoy uni and stay safe in the kitchen! For more detailed advice, check out our guidance on the Food Standard Agency's pages on GOV.UK.
Dechrau yn y brifysgol ym mis Medi? Dyma beth mae angen i ti ei wybod am ddiogelwch bwyd

Felly, dyma ti’n mynd i’r brifysgol – rhyddid newydd, ffrindiau newydd, ac efallai’r tro cyntaf i ti goginio’n iawn i ti dy hun. Mae dechrau yn y brifysgol yn ddigon cyffrous heb iti gael gwenwyn bwyd hefyd, felly beth am ddysgu ychydig o reolau syml am hylendid bwyd i dy helpu di i gadw dy hun yn saff ac yn iach?
Ymestyn pob ceiniog, yn ddiogel
Yn ystod dy amser yn y brifysgol, efallai fydd gen ti ddim llawer o arian sbâr, ond newyddion da! Gelli di wneud y mwyaf o dy arian drwy ddilyn ambell awgrym a thric bach, heb orfod anwybyddu diogelwch bwyd.
Dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ ac ‘ar ei orau cyn’
Mae’r rhan fwyaf o fwyd â dyddiad ar y pecyn: dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ (‘use-by’) neu ddyddiadau ‘ar ei orau cyn’ (‘best before’). Yn ôl ein hymchwil, os nad yw pobl yn deall beth yw ystyr dyddiadau ‘defnyddio erbyn’, maen nhw ddwywaith yn fwy tebygol o beidio â gwirio’r dyddiad ‘defnyddio erbyn’ cyn bwyta bwyd. Darllena ’mlaen i ddysgu beth yn union mae’r dyddiadau hyn yn ei olygu.
- Mae dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ yn canolbwyntio ar ddiogelwch ac maen nhw ar fwydydd fel cig a chynnyrch llaeth. Gelli di fwyta bwyd hyd at y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ ac ar y dyddiad hwnnw hefyd, ond nid ar ôl hynny. Hyd yn oed os yw’n edrych ac yn arogli’n iawn, paid â mentro dy lwc – dyw hi ddim yn werth y risg. Os byddi di’n sylwi bod bwyd yn dod yn agos at ei ddyddiad ‘defnyddio erbyn’ a dwyt ti ddim yn meddwl byddi di’n ei fwyta mewn pryd, gelli di ei roi yn y rhewgell, fel nad yw’n mynd yn wastraff.
- Mae dyddiadau ‘ar ei orau cyn’ yn canolbwyntio ar ansawdd ac maen nhw ar eitemau cyffredin yn y cwpwrdd fel pasta sych, siocled a bwyd tun. Mae bwyd yn dal i fod yn ddiogel i’w fwyta ar ôl y dyddiad ‘ar ei orau cyn’, ond efallai fydd e ddim mor flasus.
Nawr dy fod di’n gwybod beth yw ystyr dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ ac ‘ar ei orau cyn’, gwna’n siŵr dy fod di’n cadw llygad arnyn nhw.
Statws: Paratoi
Mae coginio swmp o fwyd ymlaen llaw (‘batch cooking’) yn ffordd wych o arbed amser ac arian yn y brifysgol. Ond cofia hyn:
- Paid â gadael i fwyd sydd wedi’i goginio eistedd mewn sosban neu badell ffrïo – rho fwyd dros ben mewn cynhwysydd, gad iddo oeri, a rho fe yn yr oergell o fewn awr neu ddwy.
- Bwyta fwyd dros ben o’r oergell o fewn 2 ddiwrnod, neu rho’r bwyd yn y rhewgell i’w fwyta rywbryd arall.
- Bydd yn ofalus gyda reis sydd wedi’i goginio – ddylet ti ddim ei gadw yn yr oergell am fwy na diwrnod, a dim ond unwaith y dylet ti ailgynhesu’r reis. Gelli di ei rewi hefyd.
Ailgynhesu bwyd dros ben
Dim ots a wyt ti’n defnyddio’r microdon, yr hob, neu’r popty/ffwrn, dim ond unwaith y dylet ti ailgynhesu bwyd. Wrth ailgynhesu bwyd:
- dylet ti droi neu gymysgu’r bwyd hanner ffordd drwy’r amser coginio i wneud yn siŵr ei fod yn cynhesu’r holl ffordd drwodd.
- mae’n well ailgynhesu rhai prydau fel lasagne mewn darnau llai i gael canlyniad cyson.
- gwna’n siŵr bod dy fwyd yn stemio’n boeth drwyddo cyn ei fwyta.
Paratoi prydau bwyd yn hyderus
Mae dysgu sut i goginio, rhewi, a dadmer bwyd yn gywir yn hollbwysig i dy helpu i osgoi bod yn sâl â gwenwyn bwyd. Mae ’na lawer o bethau syml gelli di eu gwneud i gadw’n saff.
Coginio’n ddiogel
- Gwiria’r pecyn bob tro am gyfarwyddiadau coginio a gwna’n siŵr bod dy fwyd yn stemio’n boeth drwyddo cyn ei fwyta.
- Golcha dy ddwylo’n rheolaidd, yn enwedig ar ôl delio â chig amrwd (‘raw’).
- Ddylai cynhyrchion cyw iâr, porc a briwgig (‘minced meat’) fel byrgyrs a selsig byth fod yn binc y tu mewn, a dylen nhw fod wedi’u coginio’n drylwyr. Ar y llaw arall, mae’n iawn i ti gael stêc yn binc neu’n waedlyd (‘rare’).
- Paid â golchi cig na physgod amrwd – mae’n sblasio bacteria o gwmpas y gegin heb i ti sylweddoli.
Rhewi a dadmer
- Rho label ar bopeth rwyt tii’n ei rewi, gan nodi beth yw e a phryd gwnest ti ei rewi – byddi di’n diolch i ti dy hun yn nes ymlaen.
- Er mwyn ddadmer bwyd, rho fe yn yr oergell mewn cynhwysydd â chaead arno fe neu un sy’n atal unrhyw hylif rhag gollwng ohono. Os na elli di wneud hyn, defnyddia’r opsiwn ‘dadmer’ ar dy ficrodon cyn coginio.
- Gwna’n siŵr bod bwyd wedi dadmer yn llwyr cyn ei goginio.
- Unwaith y bydd y bwyd wedi dadmer, bydd angen ei goginio a’i fwyta o fewn 24 awr.
- Paid â thynnu o’r rhewgell fwy na beth rwyt ti’n mynd i’w ddefnyddio. Chei di ddim ailrewi bwyd ar ôl iddo ddadmer, felly does dim pwynt dadmer y cyfan os mai dim ond un plataid sydd ei eisiau arnat ti. Hefyd, mae’n syniad da osgoi gwastraffu bwyd ac arian drwy orfod rhoi’r bwyd yn y bin.
Cadw dy gegin yn hapus ac yn lân
Gall rhannu cegin â phobl eraill fod yn ffordd wych o gymdeithasu, ond does neb eisiau sgwrsio a choginio rywle budr a seimllyd. Bydd cadw dy gegin yn lân a sicrhau ei bod hi’n lle diogel i goginio yn dy helpu di a phawb arall i gadw’n ddiogel ac yn iach.
Ffeindio dy ffordd yn y ffrij
Gall chwarae droi’n chwerw wrth rannu oergell â phawb arall yn y tŷ. Ac os wyt ti’n byw mewn llety gyda phobl eraill, mae’n debyg bydd y risgiau’n uwch.
Dyma sut i gadw pethau’n ddiogel (heb ffỳs na ffwdan):
- Cadwa dy oergell ar dymheredd o 5°C neu’n is.
- Paid â storio cig na physgod amrwd ar yr un silff â bwyd parod i’w fwyta (fel cig deli a ffrwythau), oni bai ei fod mewn cynhwysydd â chaead. Pan wnaethon ni holi myfyrwyr yn 2023, fe ddysgon ni fod pobl sy’n byw gyda 5 i 6 o bobl dros 5 gwaith yn fwy tebygol o beidio â gwahanu bwyd yn yr oergell.
- Dylet ti osgoi gadael caniau tun ar agor yn yr oergell. Gallai’r bwyd y tu mewn dyfu bacteria a datblygu blas metelaidd – arllwysa beth sy’n weddill i gynhwysydd â chaead yn lle hynny.
- Os oes rhywbeth yn dy oergell yn agos at ei ddyddiad ‘defnyddio erbyn’ a fyddi di ddim yn ei fwyta mewn pryd, rhewa fe. Cei di rewi bwyd hyd yn oed ar y dyddiad ‘defnyddio erbyn’.
Cadw’r gegin yn lân
Mae bacteria’n ymgasglu’n gyflym mewn cegin brysur sydd wedi’i rhannu. Dyma sut i aros ar ben y gwaith glanhau:
- Trefna rota glanhau gyda dy gyd-letywyr – mae’n gwneud bywyd yn decach ac yn cadw pethau’n hylan (‘hygienic’).
- Pryna gynhyrchion glanhau sy’n lladd bacteria a firysau.
- Cyn i ti goginio, gwna’n siŵr bod yr arwynebau, y byrddau torri a’r offer yn lân.
- Wrth olchi llestri, newidia’r dŵr yn rheolaidd – mae bacteria’n caru dŵr budr. Pan wnaethon ni holi myfyrwyr, dim ond 60% oedd yn defnyddio dŵr poeth, a dim ond 72% oedd yn defnyddio hylif golchi llestri wrth olchi eu llestri.
- Efallai fod llawer o fyfyrwyr ddim yn prynu eitemau glanhau newydd i’r gegin mor aml ag y gallen nhw fod. Mae tua 6 o bob 10 (62%) yn newid eu sbwng neu eu cadach llestri, ac mae bron i 3 o bob 10 (29%) yn newid eu llieiniau sychu llestri 2 i 3 gwaith y mis neu lai. Gwna’n siŵr dy fod di’n newid ac yn glanhau’r eitemau hyn yn rheolaidd.
- Paid ag anghofio glanhau’r mannau rwyt ti’n cyffwrdd â nhw’n aml, fel dolenni drysau’r oergell.
- Os wyt ti’n defnyddio dy ffôn wrth goginio (yn dilyn rysáit neu jest yn sgrolio), glanha fe â chadach gwrthfacteria nawr ac yn y man.
- Rho’r biniau allan yn rheolaidd – does neb eisiau cynnal parti gyda phryfed, plâu (‘pests’) ac arogleuon drwg.
Mwynha dy amser yn y brifysgol a chadwa’n saff yn y gegin! Am gyngor mwy manwl, edrycha ar ein canllawiau sydd i’w gweld ar dudalennau’r Asiantaeth Safonau Bwyd ar GOV.UK.
Leave a comment