
In my role as Chief Scientific Adviser at the Food Standards Agency (FSA), I would like to invite you to help shape the future of food safety by joining one of the FSA's Scientific Advisory Committees.
At the FSA we are committed to ensuring that food is safe, authentic, healthier and more sustainable. Science sits at the heart of everything we do, helping us make evidence-based decisions that protect consumers and support a trusted food system.
This is why I am delighted to encourage you to apply for membership of one of our Scientific Advisory Committees, including the Science Council.
What is the role of the FSA’s Scientific Advisory Committees?
Our committees provide independent scientific advice on a wide range of issues, from food and feed safety to microbiological risks, toxicity of chemicals, novel foods, and emerging technologies.
Their expertise helps ensure that FSA policies and decisions are informed by the best available evidence and reflect the latest scientific developments.
Who are we looking for?
We are seeking individuals with a broad range of scientific knowledge, skills, and experience including pathology, neurotoxicity, microbiology, proteomic and metabolomic analysis, animal feed safety, chemical contaminants in food, social science and more.
Whether you are at the beginning of your career, an established expert in your field, or have specialist expertise that can bring a fresh perspective to our discussions, we encourage you to consider applying.
We are particularly keen to attract applicants from diverse professional backgrounds, sectors, and communities to ensure our committees benefit from a wide range of viewpoints and experiences.
Why should you consider applying?
Serving on an FSA Scientific Advisory Committee is a unique opportunity to contribute to issues of national importance, work alongside leading experts, and help shape the future of UK food policies.
It is also a rewarding way to apply your expertise in the public interest and make a tangible difference to consumers.
Additionally, if you’re a university employee, this role can contribute to your next Research Excellence Framework (REF) return.
When/how can you apply?
We are actively recruiting throughout September and until 12 October 2026.
Details of the vacancies and more information on how you can apply can be found on GOV.UK.
Please also help us spread the word by sharing these vacancies with colleagues and professional networks. Together, we can continue to ensure that the UK's food system is underpinned by world-class scientific advice.
Helpwch i lunio dyfodol diogelwch bwyd: Ymunwch ag un o Bwyllgorau Cynghori Gwyddonol yr ASB

Yn rhinwedd fy swydd fel Prif Gynghorydd Gwyddonol yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), hoffwn eich gwahodd i helpu i lunio dyfodol diogelwch bwyd drwy ymuno ag un o Bwyllgorau Cynghori Gwyddonol yr ASB.
Yn yr ASB rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod bwyd yn ddiogel, yn ddilys, yn iachach ac yn fwy cynaliadwy. Mae gwyddoniaeth wrth wraidd popeth a wnawn, gan ein helpu i wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth er mwyn diogelu defnyddwyr a chefnogi system fwyd y gellir ymddiried ynddi.
Dyna pam rwy’n falch iawn o’ch annog i wneud cais i fod yn aelod o un o’n Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol, gan gynnwys y Cyngor Gwyddoniaeth.
Beth yw rôl Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol yr ASB?
Mae ein pwyllgorau yn darparu cyngor gwyddonol annibynnol ar ystod eang o faterion, o ddiogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid i risgiau microbiolegol, gwenwyndra cemegion, bwydydd newydd, a thechnolegau sy’n dod i’r amlwg.
Mae eu harbenigedd yn helpu i sicrhau bod polisïau a phenderfyniadau’r ASB yn cael eu llywio gan y dystiolaeth orau sydd ar gael ac yn adlewyrchu’r datblygiadau gwyddonol diweddaraf.
Am bwy rydyn ni’n chwilio?
Rydyn ni’n chwilio am unigolion sydd ag ystod eang o wybodaeth, sgiliau a phrofiad gwyddonol, gan gynnwys ym meysydd patholeg, niwrowenwyndra, microbioleg, dadansoddi proteomig a metabolomig, diogelwch bwyd anifeiliaid, halogion cemegol mewn bwyd, gwyddor gymdeithasol a mwy.
P’un a ydych chi ar ddechrau’ch gyrfa, yn arbenigwr sefydledig yn eich maes, neu fod gennych chi arbenigedd a all ddod â safbwynt newydd i’n trafodaethau, rydyn ni’n eich annog i ystyried gwneud cais.
Rydyn ni’n arbennig o awyddus i ddenu ymgeiswyr o gymunedau, sectorau a chefndiroedd proffesiynol amrywiol, er mwyn sicrhau bod ein pwyllgorau’n elwa o ystod eang o safbwyntiau a phrofiadau.
Pam dylech chi ystyried gwneud cais?
Mae gwasanaethu ar un o Bwyllgorau Cynghori Gwyddonol yr ASB yn gyfle unigryw i gyfrannu at faterion sydd o bwys cenedlaethol, i weithio ochr yn ochr ag arbenigwyr blaenllaw, ac i helpu i lunio dyfodol polisïau bwyd y DU.
Mae hefyd yn ffordd werth chweil o roi’ch arbenigedd ar waith er budd y cyhoedd ac o wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddefnyddwyr.
Yn ogystal, os ydych chi’n gweithio mewn prifysgol, gall y rôl hon gyfrannu at eich ffurflen nesaf ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF).
Pryd/Sut gallwch chi wneud cais?
Byddwn ni wrthi’n recriwtio drwy gydol mis Medi hyd nes 12 Hydref 2026.
Mae manylion y swyddi gwag a mwy o wybodaeth am sut gallwch chi wneud cais ar gael ar GOV.UK.
Hefyd, a fyddech cystal â’n helpu ni i ledaenu’r gair drwy rannu’r swyddi gwag hyn gyda chydweithwyr a rhwydweithiau proffesiynol? Gyda’n gilydd, gallwn ni barhau i sicrhau bod system fwyd y DU yn cael ei hategu gan gyngor gwyddonol o’r radd flaenaf.
Leave a comment