
We're working closely with the UK Health Security Agency (UKHSA) and other partners to investigate an outbreak of Salmonella Enteritidis. Investigations so far have identified potential links to eggs imported from outside of the UK, mainly used by food service and catering businesses such as restaurants and cafes. There's no evidence that UK-produced eggs are affected.
Protecting public health is our top priority and we want to give you clear, practical advice on eggs, and reassurance about the steps we're taking to keep food safe. ‘Food Fact Check’ is the Food Standards Agency’s (FSA) service to give clear in-depth answers to the questions you’ve been asking, to help you check the facts behind claims you’ve seen online.
What's the source of the outbreak?
A definitive source has not yet been identified. Investigations are ongoing, but epidemiological evidence and food chain analysis have identified potential links to eggs imported from outside the UK.
Where are these eggs sold? Are they available to consumers?
Investigations so far have identified eggs used outside the home, including by food businesses and caterers, as a potential source. Imported food must meet the food safety standards set out under UK law and, where products don't, action will be taken to protect the public.
Is it safe to eat supermarket eggs?
Yes. Our advice around eating eggs hasn't changed. UK-produced eggs with the British Lion mark or produced under the Laid in Britain scheme are safe to eat. Also, eggs which are thoroughly cooked and handled hygienically should not present a food safety risk.
Are raw eggs safe to eat?
Thanks to improved food safety controls in the UK hen egg industry, vulnerable groups such as young children, older people, and those who are pregnant or have underlying health conditions, for example, cancer, diabetes, liver or kidney disease, can safely eat raw or lightly cooked hen eggs, or foods containing them, if they have a British Lion mark or are produced under the Laid in Britain egg assurance scheme.
This advice does not apply to people who are severely immunocompromised and require medically supervised diets.
People who are not vulnerable to infection, are unlikely to experience food poisoning by eating raw or lightly cooked UK hen eggs which are produced from Salmonella-vaccinated flocks.
How can I protect myself if the likely source is from caterers or food businesses?
Businesses must sell food that's safe. To support them, we have published guidance for caterers and food businesses on how to serve eggs safely, including good food hygiene, storage and sourcing eggs from reputable suppliers. You can read our advice on safe storage, handling and use of eggs for catering.
How can I tell if eggs are safe when eating out?
If you are uncertain whether the eggs carry the British Lion mark or are Laid in Britain assured - like when you are eating out, young children, older people, and those who are pregnant or have an underlying health condition should ensure any eggs they eat are thoroughly cooked.
Why haven't there been any recalls or withdrawals?
The source of contamination has not yet been identified. We're working to identify the source and will not hesitate to take action to ensure products on the market are safe for consumers.
What are the symptoms of salmonella infection?
Symptoms usually include fever, diarrhoea and abdominal cramps. Most people will experience symptoms for several days and can be treated at home.
Anyone who is concerned about their symptoms should contact their GP or out-of-hours service.
Who is most at risk of severe illness?
People most likely to suffer severe symptoms are young children, older people, and those who are pregnant or have an underlying health conditions, such as cancer, diabetes, or liver and kidney disease.
Anyone with severe symptoms should seek advice from a medical professional.
How can I protect myself and others?
There are some simple steps you can take to prevent the spread of Salmonella:
- wash your hands thoroughly after using the bathroom and before preparing and handling food
- cook food thoroughly
- if you have symptoms, avoid handling food for others where possible
- always wash your hands thoroughly with warm water and soap, then dry them, before and after handling eggs, eggshells or egg packaging
More tips are available on our salmonella page.
What's your general advice on storing and handling eggs?
Store eggs in a cool, dry place, ideally in the fridge, and clean the storage area regularly. Try to avoid storing eggs where they'll be exposed to extreme temperature changes, as this can cause condensation on the shell, which increases the risk of bacteria such as salmonella getting from the outside of the shell into the egg.
A few more tips:
- don't wash eggs. Shells are porous, washing eggs allows bacteria on the outside of the shell to enter the egg.
- don't rely on the egg float test to check if an egg is safe. It only shows how old an egg is, not whether it contains harmful bacteria
- don't use eggs with damaged shells, as dirt or bacteria may have got inside
- keep eggs away from other foods, both in the shell and after cracking, and be careful not to splash egg onto other foods, worktops or dishes
- wash your hands after handling eggs and egg packaging
- clean all work surfaces, dishes and utensils thoroughly with warm soapy water after handling eggs, eggshells or egg packaging
- cook eggs thoroughly if you're at all concerned about food poisoning
What if an egg looks dirty or has been in contact with a broken egg?
Eggs should be clean wherever they are sold. During laying, hens develop a natural protective coating on their eggs, which is why we don't recommend washing them. This is called the ‘cuticle’ and stops bacteria entering the egg.
If an egg has been contaminated by contact with a broken egg, for example while carrying your shopping, it's best to throw it away, as bacteria may have penetrated the shell and gone into the egg.
Y Gwir am Fwyd: Allwch chi gael salmonela o wyau? Yr hyn y mae angen i chi ei wybod

Rydym yn gweithio’n agos ag Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) a phartneriaid eraill i ymchwilio i frigiad o achosion o Salmonela Enteritidis. Hyd yn hyn, mae ymchwiliadau wedi canfod bod cysylltiadau posib ag wyau sydd wedi’u mewnforio o’r tu allan i’r DU, a bod y rheiny’n cael eu defnyddio’n bennaf gan fusnesau sy’n cynnig gwasanaethau bwyd ac arlwyo, fel bwytai a chaffis. Nid oes unrhyw dystiolaeth bod effaith wedi bod ar wyau a gynhyrchwyd yn y DU.
Diogelu iechyd y cyhoedd yw ein prif flaenoriaeth a hoffem roi cyngor clir ac ymarferol i chi ar wyau, a rhoi sicrwydd i chi am y camau rydym yn eu cymryd i gadw bwyd yn ddiogel. ‘Y Gwir am Fwyd’ yw gwasanaeth yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) sy’n rhoi atebion clir a manwl i’r cwestiynau rydych chi wedi bod yn eu gofyn, i’ch helpu i wirio’r ffeithiau y tu ôl i honiadau rydych chi wedi’u gweld ar-lein.
Beth yw ffynhonnell y brigiad?
Nid oes ffynhonnell bendant wedi’i chanfod hyd yn hyn. Mae ymchwiliadau’n parhau, ond mae tystiolaeth epidemiolegol a dadansoddiad o’r gadwyn fwyd wedi canfod cysylltiadau posib ag wyau sydd wedi’u mewnforio o’r tu allan i’r DU.
Ble mae’r wyau hyn yn cael eu gwerthu? Ydyn nhw ar gael i ddefnyddwyr?
Hyd yn hyn, mae ymchwiliadau wedi canfod bod wyau sy’n cael eu defnyddio y tu allan i’r cartref, gan gynnwys gan fusnesau bwyd ac arlwywyr, yn ffynhonnell bosib. Mae’n rhaid i fwyd sy’n cael ei fewnforio fodloni’r safonau diogelwch bwyd a nodir o dan gyfraith y DU, ac os nad yw cynhyrchion yn gwneud hynny, cymerir camau i ddiogelu’r cyhoedd.
Ydy hi’n ddiogel bwyta wyau o’r archfarchnad?
Ydy. Nid yw ein cyngor ynghylch bwyta wyau wedi newid. Mae wyau a gynhyrchwyd yn y DU gyda marc y Llew Prydeinig neu a gynhyrchwyd o dan y cynllun ‘Laid in Britain’ yn ddiogel i’w bwyta. Hefyd, ni ddylai wyau sy’n cael eu trin yn hylan a’u coginio’n drylwyr beri risg i ddiogelwch bwyd.
Ydy wyau amrwd yn ddiogel i’w bwyta?
Diolch i reolaethau diogelwch bwyd gwell yn niwydiant wyau ieir y DU, gall grwpiau sy’n agored i niwed – fel plant ifanc, pobl hŷn, menywod beichiog a’r rhai sydd â chyflwr iechyd isorweddol (er enghraifft, canser, diabetes, neu glefyd yr afu/iau neu’r arennau) – fwyta wyau ieir amrwd neu wyau ieir wedi’u coginio’n ysgafn, neu fwydydd sy’n eu cynnwys, yn ddiogel os oes ganddyn nhw farc y Llew Prydeinig neu os ydyn nhw wedi’u cynhyrchu o dan gynllun sicrwydd wyau ‘Laid in Britain’.
Nid yw’r cyngor hwn yn berthnasol i bobl sydd â system imiwnedd wan iawn ac sydd angen deietau dan oruchwyliaeth feddygol.
Mae pobl sydd ddim yn agored i niwed wrth ddal heintiau yn annhebygol o brofi gwenwyn bwyd wrth fwyta wyau ieir y DU yn amrwd neu wedi’u coginio’n ysgafn, pan ddaw’r wyau hynny o heidiau sydd wedi’u brechu yn erbyn salmonela.
Sut ydw i’n gallu diogelu fy hun os mai arlwywyr neu fusnesau bwyd yw’r ffynhonnell debygol?
Mae’n rhaid i fusnesau werthu bwyd sy’n ddiogel. I’w helpu, rydym wedi cyhoeddi canllawiau i arlwywyr a busnesau bwyd ar sut i weini wyau’n ddiogel, gan gynnwys arferion hylendid bwyd da, sut i storio wyau a chael wyau gan gyflenwyr ag enw da. Gallwch ddarllen ein cyngor i fusnesau arlwyo ar storio, trin a defnyddio wyau’n ddiogel.
Sut ydw i’n gwybod bod wyau’n ddiogel wrth fwyta allan?
Os nad ydych chi’n siŵr a yw marc y Llew Prydeinig ar yr wyau neu a yw ansawdd yr wyau wedi’i sicrhau dan y cynllun ‘Laid in Britain’ – er enghraifft, wrth i chi fwyta allan – dylai plant ifanc, pobl hŷn, menywod beichiog, a’r rhai sydd â chyflwr iechyd isorweddol sicrhau bod unrhyw wyau maen nhw’n eu bwyta wedi’u coginio’n drylwyr.
Pam nad oes neb wedi galw cynhyrchion yn ôl nac wedi tynnu cynhyrchion oddi ar y farchnad?
Nid yw ffynhonnell yr halogiad wedi’i chanfod hyd yn hyn. Rydym yn gweithio i ganfod y ffynhonnell ac ni fyddwn yn oedi cyn cymryd camau i sicrhau bod cynhyrchion ar y farchnad yn ddiogel i ddefnyddwyr.
Beth yw symptomau haint yn sgil salmonela?
Mae symptomau fel arfer yn cynnwys twymyn, dolur rhydd a chrampiau yn y bol. Bydd y rhan fwyaf o bobl yn profi symptomau am sawl diwrnod a gallwch eu trin gartref.
Dylai unrhyw un sy’n poeni am eu symptomau gysylltu â’u meddyg teulu neu’r gwasanaeth y tu allan i oriau arferol.
Pwy sy’n wynebu’r perygl mwyaf o salwch difrifol?
Y bobl sydd fwyaf tebygol o ddioddef symptomau difrifol yw plant ifanc, pobl hŷn, menywod beichiog, a’r rhai sydd â chyflwr iechyd isorweddol (fel canser, diabetes, neu glefyd yr afu/iau neu’r arennau).
Dylai unrhyw un sydd â symptomau difrifol geisio cyngor gan weithiwr meddygol proffesiynol.
Sut ydw i’n gallu diogelu fy hun ac eraill?
Mae rhai camau syml y gallwch eu dilyn i atal Salmonela rhag lledaenu:
- golchwch eich dwylo’n drylwyr ar ôl defnyddio’r toiled a chyn paratoi a thrin bwyd
- coginiwch fwyd yn drylwyr
- os oes gennych symptomau, dylech osgoi trin bwyd i eraill lle bo modd
- golchwch eich dwylo’n drylwyr bob amser â sebon a dŵr cynnes, yna eu sychu nhw, cyn ac ar ôl trin wyau, plisg wyau neu ddeunydd pecynnu wyau
Mae rhagor o awgrymiadau ar gael ar ein tudalen Salmonela.
Beth yw eich cyngor cyffredinol ar storio a thrin wyau?
Storiwch wyau mewn man oer a sych, yn yr oergell yn ddelfrydol, a golchwch yr ardal storio’n rheolaidd. Ceisiwch osgoi storio wyau lle byddant yn agored i newidiadau eithafol i’r tymheredd, gan fod hyn yn gallu achosi i anwedd ymgasglu ar y plisgyn, sy’n cynyddu’r risg y bydd bacteria, fel salmonela, yn mynd i mewn i’r wy o’r plisgyn.
Ambell awgrym arall:
- peidiwch â golchi wyau. Mae plisg yn fandyllog (‘porous’), a gallai golchi wyau ganiatáu i facteria ar y tu allan fynd i mewn i’r wy
- peidiwch â dibynnu ar y prawf arnofio i wirio a yw wy’n ddiogel. Dim ond dangos pa mor hen yw’r wy y bydd hyn yn ei wneud, nid dangos a yw’n cynnwys bacteria niweidiol neu beidio
- peidiwch â defnyddio wyau â phlisg sydd wedi’u difrodi oherwydd efallai y bydd baw neu facteria wedi mynd i mewn iddynt
- cadwch wyau i ffwrdd o fwydydd eraill, pan fo’r wyau’n dal i fod yn eu plisgyn ac ar ôl eu cracio, a byddwch yn ofalus i beidio â gollwng wy ar fwydydd eraill, arwynebau neu lestri
- golchwch eich dwylo ar ôl trin wyau a deunydd pecynnu wyau
- glanhewch yr holl arwynebau, llestri ac offer yn drylwyr â sebon a dŵr cynnes ar ôl trin wyau, plisg wyau neu ddeunydd pecynnu wyau
- dylech goginio wyau’n drylwyr os ydych chi’n poeni am wenwyn bwyd
Beth os yw wy’n edrych yn fudr neu wedi bod mewn cysylltiad ag wy sydd wedi torri?
Dylai wyau fod yn lân lle bynnag maen nhw’n cael eu gwerthu. Wrth ddodwy, mae ieir yn datblygu haen amddiffynnol naturiol ar eu hwyau, a dyna pam nad ydym yn argymell eu golchi. ‘Cwtigl’ (‘cuticle’) yw’r enw ar hyn ac mae’n atal bacteria rhag mynd i mewn i’r wy.
Mae’n well taflu wy sydd wedi’i halogi drwy gysylltiad ag wy sydd wedi torri, er enghraifft wrth gario’ch siopa, oherwydd efallai y bydd bacteria wedi treiddio drwy’r plisgyn a mynd i mewn i’r wy.
Leave a comment