https://food.blog.gov.uk/2026/11/20/what-the-new-uk-eu-sps-agreement-means-for-food-and-feed-safety-and-food-businesses/

What the new UK-EU SPS agreement means for food and feed safety and food businesses

Posted by: , Posted on: - Categories: Our mission

Cymraeg

The UK and EU reached a UK-EU Sanitary and Phytosanitary (SPS) Agreement on 20 November 2026. This means that rules may change for your business.

Food Standards Agency (FSA) pages will be updated in due course with more information. Find out what this means for your business and how to prepare for the change. 

Today, it was announced that the UK and EU have agreed a new deal for trading food, agricultural goods, animals and plants between the UK and EU, at a joint Summit in Brussels. 

It’s called the UK-EU Sanitary and Phytosanitary Agreement, or SPS Agreement, and was negotiated by the UK Government, led by the Cabinet Office and Department for Environment, Food and Rural Affairs (Defra). You can read the government's full announcement on GOV.UK. 

As the SPS agreement is implemented, the FSA’s priority remains the same as it has always been: protecting public health and protecting consumers, by upholding the high food and feed safety standards in the UK.  

The agreement will make trade with the EU simpler and smoother, and open up new opportunities to access EU markets for businesses in the future. It will also make it quicker to get fresh produce on the shelves for shoppers.  

All sectors in scope of the agreement will need to ensure their products meet EU rules, so food and feed businesses may need to make some changes, even if they don’t currently trade with the EU. 

I want to take this opportunity to explain what this agreement means and what businesses should do now. 

What is changing? 

Right now, food, agricultural goods, animals and plants are subject to controls such as checks or inspections when they cross the border between Great Britain (GB) and the EU. The new agreement will remove most of these controls, making it easier and cheaper for businesses to trade between GB and the EU. Changes to the Windsor Framework will also make it easier for goods to move between GB and Northern Ireland.   

The application date for the SPS agreement will be 1 March 2028. From this date, most food and animal feed in GB will need to comply with EU rules. Businesses operating in these sectors may need to make changes, even if they don’t currently trade with the EU.  

Food and feed already on the GB market (including stock in storage awaiting sale) before 1 March 2028 can still be sold and used in GB until stocks run out, even if they don’t meet EU rules. This stock must not enter the EU – we will provide further guidance to help businesses and local authorities keep this stock in the GB market.  

What does it mean for novel foods and precision-bred plants? 

As part of the deal, the UK and EU have agreed: 

  • An exception in England for precision-bred plants, and food and feed produced from them. The FSA will continue to accept applications until 16 July 2028, after which no new applications will be accepted as the EU authorisation framework will be in place. Products authorised in England before that date can be placed on the GB market until 16 July 2029, with a further 3 months to sell remaining stock. 
  • Transitional arrangements for 3 classes of novel food: cell-cultivated products, precision fermentation products, and cannabidiol (CBD) foods. Those that have been authorised in GB by 1 March 2028 can continue to be produced and placed on the GB market until 31 October 2029. 

Further information on these arrangements can be found in the business guidance published on GOV.UK. 

Will food be as safe as before? 

The FSA's role is, and continues to be, to protect public health and protect the interests of consumers. We will continue to make decisions based on evidence, and support safe, new and innovative technologies so that the high food and feed safety standards in the UK are maintained.  

The UK has one of the safest food systems in the world, and the agreement will maintain our ability to protect it by giving us access to information, expertise and cooperation.  

From a food safety perspective, one of the biggest benefits is closer cooperation with European scientific and regulatory networks. This includes access to relevant EU agencies, systems and databases for food and feed safety. UK experts will be able to participate in agencies such as the European Food Safety Authority (EFSA), contributing in the same way as Member State scientists. UK evidence will inform EU risk assessments. 

Access to EU systems and databases, such as the interactive Rapid Alert System for Food and Feed (iRASFF), will give us the latest information on emerging risks and help us trace and resolve problems faster, across the UK and the EU.   

What should businesses do now? 

Many businesses will see real benefits, but the impact will differ between sectors.  

Even businesses that do not trade with the EU may need to make changes, because rules on food, agricultural goods, animal and plant health will need to align with EU rules. This may mean changing ingredients, recipes or labels, for example, and will affect businesses of all sizes, from bakeries and butchers to large retailers such as supermarkets. 

These are the things businesses can do now: 

  • read the guidance that is available now on GOV.UK
  • check which changes apply to your products and your sector
  • look out for further updates, including industry briefings, newsletters, stakeholder forums and sector-specific guidance, which will be published ahead of 1 March 2028

The FSA will continue to work closely with Defra, other government departments, devolved governments, Food Standards Scotland, and the EU as these changes are put in place. Our work will continue to be evidence-led and will reflect the needs of the UK public, businesses and stakeholders. 

Beth mae’r Cytundeb SPS newydd rhwng y DU a’r UE yn ei olygu i ddiogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid ac i fusnesau bwyd 

Gwnaeth y DU a’r UE ddod i Gytundeb Iechydol a Ffytoiechydol (SPS) rhwng y ddau endid ar 20 Tachwedd 2026. Mae hyn yn golygu y gallai’r rheolau newid ar gyfer eich busnes.

Caiff mwy o wybodaeth ei hychwanegu at dudalennau’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) maes o law. Dysgwch beth mae’r Cytundeb SPS yn ei olygu i’ch busnes chi a sut i baratoi ar gyfer y newid. 

Cyhoeddwyd heddiw fod y DU a’r UE, mewn Uwchgynhadledd ar y cyd ym Mrwsel, wedi dod i gytundeb newydd ar fasnachu bwyd, nwyddau amaethyddol, anifeiliaid a phlanhigion rhwng y DU a’r UE. 

‘Cytundeb Iechydol a Ffytoiechydol rhwng y DU a’r UE’, neu ‘Cytundeb SPS’, yw’r enw ar y cytundeb newydd hwn. Llywodraeth y DU oedd yn negodi’r cytundeb, dan arweiniad Swyddfa’r Cabinet ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra). Gallwch ddarllen cyhoeddiad llawn y llywodraeth ar GOV.UK. 

Wrth i’r Cytundeb SPS gael ei roi ar waith, bydd blaenoriaeth yr ASB yn aros yr un fath ag erioed: diogelu iechyd y cyhoedd a diogelu defnyddwyr, drwy gynnal safonau diogelwch uchel ar gyfer bwyd a bwyd anifeiliaid yn y DU. 

Bydd y cytundeb yn gwneud masnachu â’r UE yn symlach ac yn rhwyddach, a bydd yn cynnig cyfleoedd newydd i fusnesau gael mynediad i farchnadoedd yr UE yn y dyfodol. Bydd hefyd yn ei gwneud hi’n gyflymach cael cynnyrch ffres ar y silffoedd i siopwyr. 

Bydd angen i bob sector o fewn cwmpas y cytundeb sicrhau fod ei gynhyrchion yn bodloni rheolau’r UE, felly efallai y bydd angen i fusnesau bwyd a bwyd anifeiliaid wneud rhai newidiadau, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n masnachu â’r UE ar hyn o bryd. 

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i egluro beth mae’r cytundeb hwn yn ei olygu a beth y dylai busnesau ei wneud nawr. 

Beth sy’n newid? 

Ar hyn o bryd, mae bwyd, nwyddau amaethyddol, anifeiliaid a phlanhigion yn destun rheolaethau fel gwiriadau neu arolygiadau wrth iddyn nhw groesi’r ffin rhwng Prydain Fawr a’r UE. Bydd y cytundeb newydd yn cael gwared ar y rhan fwyaf o’r rheolaethau hyn, gan ei gwneud hi’n haws ac yn rhatach i fusnesau fasnachu rhwng Prydain Fawr a’r UE. Bydd newidiadau i Fframwaith Windsor hefyd yn ei gwneud hi’n haws i nwyddau symud rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon. 

Dyddiad rhoi’r Cytundeb SPS ar waith fydd 1 Mawrth 2028. O’r dyddiad hwnnw ymlaen, bydd angen i’r rhan fwyaf o fwyd a bwyd anifeiliaid ym Mhrydain Fawr gydymffurfio â Rheolau’r UE. Efallai y bydd angen i fusnesau sy’n gweithredu yn y sectorau hyn wneud newidiadau, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n masnachu â’r UE ar hyn o bryd. 

Bydd bwyd a bwyd anifeiliaid, sydd eisoes ar farchnad Prydain Fawr (gan gynnwys stoc mewn storfeydd sy’n aros i gael ei gwerthu) cyn 1 Mawrth 2028, yn dal i allu cael eu gwerthu a’u defnyddio ym Mhrydain Fawr, hyd nes bo’r stociau’n dod i ben, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n bodloni rheolau’r UE. Ni ddylai’r stoc hon fynd i mewn i’r UE – byddwn ni’n darparu canllawiau pellach i helpu busnesau ac awdurdodau lleol i gadw’r stoc hon ym marchnad Prydain Fawr. 

Beth mae’n ei olygu i fwydydd newydd a phlanhigion wedi’u bridio’n fanwl? 

Fel rhan o’r cytundeb, mae’r DU a’r UE wedi cytuno ar y canlynol: 

  • Bydd eithriad yn Lloegr ar gyfer planhigion wedi’u bridio’n fanwl, ac ar gyfer bwyd a bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ohonynt. Bydd yr ASB yn parhau i dderbyn ceisiadau tan 16 Gorffennaf 2028, ac ar ôl hynny ni fydd unrhyw geisiadau newydd yn cael eu derbyn gan y bydd fframwaith awdurdodi’r UE ar waith. Os caiff cynnyrch ei awdurdodi yn Lloegr cyn y dyddiad hwnnw, gellir ei roi ar farchnad Prydain Fawr tan 16 Gorffennaf 2029, gyda 3 mis ychwanegol i werthu unrhyw stoc sy’n weddill. 
  • Bydd trefniadau pontio ar gyfer 3 dosbarth o fwyd newydd: cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd, cynhyrchion eplesu manwl, a bwydydd canabidiol (CBD). Os caiff bwyd o’r fath ei awdurdodi ym Mhrydain Fawr erbyn 1 Mawrth 2028, bydd yn dal i allu cael ei gynhyrchu a’i roi ar farchnad Prydain Fawr tan 31 Hydref 2029. 

Mae mwy o wybodaeth ar gael am y trefniadau hyn yn y canllawiau busnes a gyhoeddwyd ar GOV.UK. 

A fydd bwyd yr un mor ddiogel ag o’r blaen? 

Diogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau defnyddwyr yw rôl yr ASB, ac mae hynny’n wir o hyd. Byddwn ni’n parhau i wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth, a chefnogi technolegau newydd ac arloesol sy’n ddiogel, fel bod safonau diogelwch uchel ar gyfer bwyd a bwyd anifeiliaid yn y DU yn cael eu cynnal. 

Mae gan y DU un o’r systemau bwyd mwyaf diogel yn y byd, a bydd y cytundeb yn cynnal ein gallu i ddiogelu ein system fwyd drwy roi mynediad i ni at wybodaeth, arbenigedd, a chyfleoedd cydweithio. 

O safbwynt diogelwch bwyd, un o’r manteision mwyaf yw’r gallu i gydweithio’n agosach â rhwydweithiau gwyddonol a rheoleiddiol Ewrop. Mae hyn yn cynnwys mynediad at asiantaethau, systemau a chronfeydd data perthnasol yr UE ar gyfer diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid. Bydd arbenigwyr y DU yn gallu bod yn rhan o asiantaethau fel Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA), gan gyfrannu yn yr un modd â gwyddonwyr aelod-wladwriaethau. Bydd tystiolaeth y DU yn llywio asesiadau risg yr UE. 

Bydd mynediad at systemau a chronfeydd data’r UE, fel y System Rhybuddio Cyflym ar gyfer Bwyd a Bwyd Anifeiliaid rhyngweithiol (iRASFF), yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am risgiau sy’n dod i’r amlwg ac yn ein helpu i olrhain a datrys problemau’n gyflymach, ar draws y DU a’r UE. 

Beth y dylai busnesau ei wneud nawr? 

Bydd llawer o fusnesau’n gweld manteision, ond bydd yr effaith yn amrywio rhwng sectorau.  

Efallai y bydd angen i fusnesau wneud newidiadau, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n masnachu â’r UE, oherwydd y bydd angen i reolau gyd-fynd â rheolau’r UE mewn perthynas â bwyd, nwyddau amaethyddol, ac iechyd anifeiliaid a phlanhigion. Gallai hyn olygu bod angen newid cynhwysion, ryseitiau neu labeli, er enghraifft, a bydd yn effeithio ar fusnesau o bob maint, o gigyddion a siopau bara i fanwerthwyr mawr fel archfarchnadoedd. 

Dyma’r pethau y gall busnesau eu gwneud nawr: 

  • darllen y canllawiau sydd ar gael nawr ar GOV.UK
  • gwirio pa newidiadau sy’n berthnasol i’ch cynhyrchion a’ch sector 
  • cadw llygad am ddiweddariadau pellach, gan gynnwys briffiau i’r diwydiant, cylchlythyrau, fforymau rhanddeiliaid, a chanllawiau penodol i’r sector, a gaiff eu cyhoeddi cyn 1 Mawrth 2028 

Bydd yr ASB yn parhau i weithio’n agos gyda Defra, adrannau eraill y llywodraeth, y llywodraethau datganoledig, Safonau Bwyd yr Alban, a’r UE, wrth i’r newidiadau hyn gael eu rhoi ar waith. Bydd ein gwaith yn parhau i gael ei arwain gan dystiolaeth a bydd yn adlewyrchu anghenion busnesau, rhanddeiliaid a chyhoedd y DU. 

Sharing and comments

Leave a comment

We only ask for your email address so we know you're a real person

By submitting a comment you understand it may be published on this public website. Please read our privacy notice to see how the GOV.UK blogging platform handles your information.