Skip to main content

https://food.blog.gov.uk/2021/03/23/food-and-you-2-wave-1-what-weve-learnt/

Food and You 2: Wave 1 - What we've learnt

Posted by: , Posted on: - Categories: Science

Food and You 2

Cymraeg

Following the recent publication of the first wave of our new flagship social research survey, Food and You 2, Principal Research Officer Lucy King explains how we gather the data and what it tells us about consumers’ knowledge, attitudes and behaviours on food safety and other food issues.

 

Summer 2020 saw the successful (and timely) launch of our Food and You 2 survey. This survey has moved away from traditional face-to-face interviewing to a new method of data collection, known as ‘push-to-web’, where respondents are encouraged to take part online.

One might assume that this shift in approach was simply a response to the COVID-19 pandemic which caused face-to-face research to be put on hold. However, the decision to move online was made back in 2019 as a way of ‘future proofing’ our flagship survey. Little did we know what was on the horizon…

Consumer surveys during COVID-19

The decision was informed by a review conducted by our independent Advisory Committee for Social Science. It was suggested that this new online approach would be more cost-effective compared to traditional face-to-face methods, allowing us to conduct fieldwork more quickly, more frequently and with a much larger sample size.

Another benefit of moving the survey online, rather than having an interviewer ask the questions, is that this helps to reduce the tendency for people to over-report socially acceptable or desirable behaviour, often referred to as ‘social desirability bias’. This is particularly important when asking about food hygiene behaviours, or when asking sensitive questions, such as those about food insecurity.

By moving the survey online, we have been able to continue to collect robust and representative data from consumers during the pandemic, contributing to our wider evidence base on the experiences of consumers during COVID-19.

Between July and October 2020 over 9,000 adults from over 6,000 households in England, Wales and Northern Ireland took part in the survey. This was a much higher level of response than we anticipated, providing us with a really rich baseline dataset.

What the data from Wave 1 of Food and You 2 tells us

COVID-19 has undoubtedly had a significant impact on the day-to-day lives of consumers, and this is reflected in our findings. You can read the full report in the research section of our website.

Unsurprisingly, most respondents said that they had changed their eating habits in the last year, either due to COVID-19 or for health or financial reasons. The most common changes related to where and what people were eating, with 56% of respondents eating out less, 55% eating at home more and 43% eating fewer takeaways.

Despite these changes, most respondents didn’t report having any concerns about the food they eat. However, when prompted with a list of food-related issues, respondents were most concerned about the amount of sugar in food (59%), food waste (58%) and animal welfare (57%).

Confidence in food safety, however, tended to be high with over 9 in 10 respondents saying that they were confident that the food they buy is safe to eat. When asked about specific actors involved in the food supply chain, confidence appeared to vary. Respondents were most confident in farmers (90%) and shops and supermarkets (86%), but less confident in takeaways (51%) and food delivery services (such as Just Eat, Deliveroo and Uber Eats) (39%).

Finally, we found that while 84% of respondents were classified as being ‘food secure’, 16% were classified as ‘food insecure’. Those who reported being food insecure tended to be younger, in a household with children (under 16), not working or single. This is something we will continue to monitor over the next few waves.

The full findings from Wave 1 can be found in the Wave 1 report.

Waves 2 and 3

Waves 2 and 3 are already underway and we plan to publish findings from Wave 2 in Summer 2021. This will include new topics on food hypersensitivities and eating out. Watch this space!

Food and you welsh cover

Cyflwyno Bwyd a Chi 2

Rydym ni wedi cyhoeddi cylch cyntaf ein prif arolwg ymchwil cymdeithasol newydd. Dyma ein Prif Swyddog Ymchwil, Lucy King, yn esbonio sut rydym ni'n casglu'r data a beth mae’n ei ddweud wrthym ni am wybodaeth, agweddau ac ymddygiadau defnyddwyr mewn perthynas â diogelwch bwyd a materion bwyd eraill.

 

Yn ystod haf 2020, lansiwyd ein harolwg 'Bwyd a Chi 2' yn llwyddiannus (ac ar amser!). Mae'r arolwg hwn wedi symud oddi wrth gyfweliadau wyneb yn wyneb traddodiadol i ddull newydd o gasglu data, a elwir yn ‘gwthio i'r we’, lle anogir ymatebwyr i gymryd rhan ar-lein.

Bydd llawer yn tybio mai oherwydd pandemig COVID-19, a achosodd i ymchwil wyneb yn wyneb ddod i ben, oedd y newid hwn mewn dull gweithredu. Ond gwnaed y penderfyniad i symud ar-lein yn ôl yn 2019 fel ffordd o ddatblygu ein prif arolwg ar gyfer y dyfodol. Pwy fyddai wedi meddwl beth oedd ar y gorwel ...

Arolygon defnyddwyr yn ystod COVID-19

Cafodd y penderfyniad hwn ei lywio gan adolygiad a gynhaliwyd gan ein Pwyllgor Cynghori annibynnol ar gyfer Gwyddor Gymdeithasol. Awgrymwyd y byddai'r dull ar-lein newydd hwn yn fwy cost-effeithiol o'i gymharu â dulliau traddodiadol wyneb yn wyneb, gan ganiatáu i ni gynnal gwaith maes yn gyflymach, yn amlach a chyda maint sampl llawer mwy.

Budd arall o symud yr arolwg ar-lein, yn hytrach na chael cyfwelydd yn gofyn y cwestiynau, yw bod hyn yn helpu i leihau’r duedd i bobl or-adrodd ymddygiadau cymdeithasol derbyniol neu ddymunol, y cyfeirir ato’n aml fel ‘rhagfarn dymunoldeb cymdeithasol’ (social desirability bias). Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth ofyn am ymddygiadau hylendid bwyd, neu wrth ofyn cwestiynau sensitif, fel y rhai am ansicrwydd bwyd.

Trwy symud yr arolwg ar-lein, rydym ni wedi gallu parhau i gasglu data cadarn a chynrychioliadol gan ddefnyddwyr yn ystod y pandemig, gan gyfrannu at ein sylfaen dystiolaeth ehangach ar brofiadau defnyddwyr yn ystod Covid-19.

Rhwng mis Gorffennaf a mis Hydref 2020 cymerodd dros 9,000 o oedolion o dros 6,000 o aelwydydd yng Nghymru, yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon ran yn yr arolwg. Roedd hon yn lefel ymateb llawer uwch nag yr oeddem wedi’i rhagweld, gan ddarparu set ddata waelodlin gyfoethog iawn i ni.

Yr hyn mae’r data o Gylch 1 Bwyd a Chi yn eu ddweud wrthym

Mae'r adroddiad llawn ar gael yn adran ymchwil ein gwefan.

Heb os, mae COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar fywydau defnyddwyr o ddydd i ddydd, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn ein canfyddiadau.

Nid yw'n syndod bod y mwyafrif o ymatebwyr wedi dweud eu bod wedi newid eu harferion bwyta yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, naill ai oherwydd COVID-19 neu am resymau iechyd neu ariannol. Roedd y newidiadau mwyaf cyffredin yn ymwneud â ble a beth roedd pobl yn ei fwyta, gyda 56% o ymatebwyr yn bwyta allan yn llai aml, 55% yn bwyta gartref yn fwy aml a 43% yn bwyta llai o fwyd tecawê.

Er gwaethaf y newidiadau hyn, ni nododd y mwyafrif o ymatebwyr fod ganddynt unrhyw bryderon am y bwyd y maent yn ei fwyta. Ond pan rannwyd rhestr o faterion yn ymwneud â bwyd â nhw, roedd ymatebwyr yn pryderu fwyaf am faint o siwgr sydd mewn bwyd (59%), gwastraff bwyd (58%) a lles anifeiliaid (57%).

Fodd bynnag, roedd hyder mewn diogelwch bwyd yn tueddu i fod yn uchel gyda dros 9 o bob 10 ymatebydd yn dweud eu bod yn hyderus bod y bwyd maen nhw'n ei brynu yn ddiogel i'w fwyta. Pan ofynnwyd iddynt am wahanol weithredwyr sy'n ymwneud â'r gadwyn cyflenwi bwyd, roedd yn ymddangos bod hyder yn amrywio. Roedd yr ymatebwyr yn fwyaf hyderus mewn ffermwyr (90%) a siopau ac archfarchnadoedd (86%), ond yn llai hyderus mewn siopau tecawê (51%) a gwasanaethau dosbarthu bwyd (fel Just Eat, Deliveroo ac Uber Eats) (39%).

Yn olaf, canfuom, er bod 84% o'r ymatebwyr wedi'u dosbarthu fel rhai â ‘chyflenwad bwyd sicr’ (food secure), roedd 16% wedi'u dosbarthu fel rhai â ‘chyflenwad bwyd ansicr’. Roedd y rhai a nododd eu bod yn ansicr o ran bwyd yn tueddu i fod yn iau, ar aelwyd gyda phlant (dan 16 oed), ddim yn gweithio neu yn sengl. Mae hyn yn rhywbeth y byddwn ni’n parhau i'w fonitro dros yr ychydig gylchoedd nesaf.

Gellir gweld y canfyddiadau llawn o Gylch 1 yn adroddiad Cylch 1.

Cylchoedd 2 a 3

Mae Cylchoedd 2 a 3 eisoes ar y gweill ac rydym ni’n bwriadu cyhoeddi canfyddiadau Cylch 2 yn Haf 2021. Bydd hyn yn cynnwys pynciau newydd ar orsensitifrwydd i fwyd a bwyta allan. Felly cofiwch gadw llygad barcud!

Sharing and comments

Share this page

1 comment

  1. Comment by rosalind harris posted on

    very interesting

    Reply

Leave a reply to rosalind harris

Cancel reply

We only ask for your email address so we know you're a real person

By submitting a comment you understand it may be published on this public website. Please read our privacy notice to see how the GOV.UK blogging platform handles your information.