Skip to main content

https://food.blog.gov.uk/2021/03/24/reflections-on-the-fsa-allergy-symposium-2021/

Reflections on the FSA Allergy Symposium 2021

Posted by: , Posted on: - Categories: Allergy

Allergy symposium 2021 panel

Cymraeg

 

Over the past two days I have had the pleasure of attending the FSA’s Food Hypersensitivity Symposium. The event brings together consumers, industry and experts to discuss how we can make the UK a better place for the food hypersensitive consumer.

In its second year, the symposium has brought together more than 120 delegates from across industry, consumer groups, enforcement agencies and clinical settings – all joined by a passion for supporting consumers with food hypersensitivity.

Food hypersensitivity as a strategic priority

Food hypersensitivity, which affects an estimated 2.6 million people in the UK, remains a strategic priority for the FSA.

The symposium is an event where we can come together with a sense of common purpose. It allows us to share knowledge and best practice amongst businesses and enforcement agencies, improve understanding of food hypersensitivity, and increase empathy for the challenges that food hypersensitive consumers face.

Perspectives from across the food sector

We have heard from a fantastic panel of speakers covering food hypersensitivity from several different perspectives – that of producers, manufacturers and restaurants, right through to what it’s like to be a parent or a young person with food allergies.

Daniel Kelly, allergy campaigner and Founder of May Contain, and The Allergy Team’s Sarah Knight, who is a parent of children with allergies, both gave illuminating insight to the huge impact that food hypersensitivity can have on people’s lives.

Daniel spoke frankly about his allergy anxiety and the work being done to give young people confidence when speaking about their food allergy. You can read more in Daniel’s blog on managing your allergy anxiety when eating out as part of the #SpeakUpForAllergies campaign.

We really appreciate their honesty and frankness, because only by understanding the issues of hypersensitivity from all angles can we come together to make things better for consumers. This is a significant part of our commitment to creating a culture of inclusion and improving empathy for the challenges food hypersensitive consumers face.

Both Sarah and Daniel shared their thoughts on how this can be achieved – often simply by starting the dialogue about allergies and by showing that, as a business, you take allergies seriously – it should be part of the day job, and something staff are invested in to improve the experience of their customers – not an inconvenience.

Iain Mortimer, Group Technical Manager, Apetito Ltd provided the manufacturer’s point of view on Precautionarily Allergy Labelling (PAL) and why ‘it’s not everyone’s friend… yet’. He provided food for thought around the delicate balance between getting the reference dose right and ensuring the highest level of trust and compliance. Ensuring safety for food hypersensitive consumers while not reducing consumer choice or unnecessarily increasing pressure on business (more on PAL later).

Other talks, including Dr Helen Arrowsmith Principal Food Law Adviser in the Regulatory Affairs Department, Campden BRI shared detailed insights on business support and what the restaurant sector needs to consider to keep consumers safe.

Talks advocated for a cultural shift by which everybody throughout the food chain understands food allergies and knows what role they play in ensuring safety and choice.

Helen Arrowsmith, Allergy symposium

Shaping a way forward through stakeholder workshops

During the symposium we also invited attendees to contribute to the development of two projects within our programme of work. Delegates’ input is essential to ensure that FSA policies are robust and fit for purpose. As part of this we held two workshops on Precautionary Allergy Labelling and the Food Allergy Safety Scheme.

The workshops collected the diverse experiences of delegates from different backgrounds and perspectives, unpacking the impact that both discussion points have and the challenges that will need to be addressed. We will assess the learnings from these workshops and publish outcomes at a later date.

Precautionary Allergen Labelling (PAL)

One topic of discussion was Precautionary Allergen Labelling. PAL is meant to indicate where there is a risk of contamination from the unintentional presence of an allergen. This is communicated using several different phrases, the most common being ‘may contain’.

While it is relatively straightforward to determine the ingredients and the allergens in a product, it is much more difficult to say where this type of unintentional contamination might have occurred.

Some thoughts were voiced at the symposium about the lack of consistency in the application of PAL and the difficulty this presents for food hypersensitive consumers who can often feel excluded from enjoying particular foods through over cautious labelling.

We used the day to hear from delegates to better understand how food businesses carry out risk assessments and learn more about consumer perceptions of precautionary statements.

This will feed into a formal stakeholder consultation, planned for the end of 2021 or early 2022, to improve our thinking and inform FSA policy interventions.

Food allergy safety scheme

Delegates also explored opportunities for the potential development of a food allergy safety scheme. We considered what kind of allergen information would help consumers with food hypersensitivities make decisions on where to eat out. This is a key area of interest for our Board.

We believe that the future is in collaboration, sharing evidence and expertise to make things better for the food hypersensitive consumer. We are grateful for every delegate who has given up their time to join us over these couple of days.

We cannot eliminate the risks of food hypersensitivity, but together, we can help make it easier to manage them.

Allergy symposium 2021 panel

Myfyrio ar Symposiwm Alergedd yr Asiantaeth Safonau Bwyd 2021

Dros y ddau ddiwrnod diwethaf, cefais y pleser o gymryd rhan yn Symposiwm Gorsensitifrwydd i Fwyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB). Mae'r digwyddiad yn dod â defnyddwyr, diwydiant ac arbenigwyr ynghyd i drafod sut y gallwn ni wneud y Deyrnas Unedig (DU) yn lle gwell i ddefnyddwyr sydd â gorsensitifrwydd i fwyd.

Bellach yn ei ail flwyddyn, mae'r symposiwm wedi dwyn ynghyd fwy na 120 o gynrychiolwyr o bob rhan o’r diwydiant, grwpiau defnyddwyr, asiantaethau gorfodi a lleoliadau clinigol – a phawb wedi’u huno gan angerdd dros gefnogi defnyddwyr sydd â gorsensitifrwydd i fwyd.

Gorsensitifrwydd i fwyd fel blaenoriaeth strategol

Mae gorsensitifrwydd i fwyd, sy'n effeithio ar oddeutu 2.6 miliwn o bobl yn y DU, yn parhau i fod yn flaenoriaeth strategol i'r ASB.
Mae'r symposiwm yn ddigwyddiad lle gallwn ni ddod ynghyd ag ymdeimlad o bwrpas cyffredin. Mae'n caniatáu i ni rannu gwybodaeth ac arfer gorau ymhlith busnesau ac asiantaethau gorfodi, gwella dealltwriaeth o orsensitifrwydd i fwyd, a chynyddu empathi tuag at yr heriau y mae defnyddwyr sydd â gorsensitifrwydd i fwyd yn eu hwynebu.

Safbwyntiau o bob rhan o'r sector bwyd

Rydym ni wedi clywed gan banel gwych o siaradwyr yn trafod gorsensitifrwydd i fwyd o sawl gwahanol safbwynt – safbwynt cynhyrchwyr, gweithgynhyrchwyr a bwytai, hyd at sut brofiad yw bod yn rhiant neu'n berson ifanc sydd ag alergeddau bwyd.

Fe wnaeth Daniel Kelly, ymgyrchydd alergedd a Sylfaenydd ‘May Contain’, a Sarah Knight o'r Allergy Team, sy'n rhiant i blant ag alergeddau, roi cipolwg goleuedig ar yr effaith enfawr y gall gorsensitifrwydd i fwyd ei chael ar fywydau pobl.

Siaradodd Daniel yn blwmp ac yn blaen am ei bryder alergedd a'r gwaith sy'n cael ei wneud i roi hyder i bobl ifanc wrth siarad am eu halergedd bwyd. Gallwch chi ddarllen rhagor am hyn ym mlog Daniel ar reoli eich pryder alergedd wrth fwyta allan fel rhan o'r ymgyrch #CodiLlaisDrosAlergeddau.

Rydym ni wir yn gwerthfawrogi eu gonestrwydd, oherwydd dim ond trwy ddeall materion gorsensitifrwydd o bob ongl y gallwn ni ddod at ein gilydd i wella pethau i ddefnyddwyr. Mae hyn yn rhan sylweddol o'n hymrwymiad i greu diwylliant cynhwysol a gwella empathi tuag at yr heriau y mae defnyddwyr sydd gorsensitifrwydd i fwyd yn eu hwynebu.

Rhannodd Sarah a Daniel eu safbwyntiau ar sut y gellir cyflawni hyn – yn aml dim ond trwy ddechrau'r sgwrs am alergeddau a thrwy ddangos eich bod, fel busnes, yn cymryd alergeddau o ddifrif – dylai fod yn rhan o'r swydd bob dydd, ac yn rhywbeth y mae staff yn rhoi o’u hamser iddo i wella profiad eu cwsmeriaid – ac nid yn anghyfleustra.

Cynigiodd Iain Mortimer, Rheolwr Technegol Grŵp, Apetito Ltd safbwynt y gweithgynhyrchwr ar Labelu Alergenau Rhagofalus (Precautionarily Allergy Labelling) a pham ‘nad yw’n gyfaill i bawb...eto’. Fe gynigiodd rhywbeth i gnoi cil drosto o ran y cydbwysedd bregus rhwng cael y dos cyfeirio yn iawn a sicrhau'r lefel uchaf o ymddiriedaeth a chydymffurfiaeth. Diogelu defnyddwyr sydd â gorsensitifrwydd i fwyd heb leihau dewis i’r defnyddiwr neu gynyddu'r pwysau ar fusnes yn ddiangen (rhagor am Labelu Alergedd Rhagofalus yn hwyrach).

Roedd sgyrsiau eraill, gan gynnwys Dr Helen Arrowsmith, Prif Gynghorydd Cyfraith Bwyd yn Adran Materion Rheoleiddio Campden BRI yn rhoi cipolwg manwl ar gymorth busnes a'r hyn y mae angen i'r sector bwytai ei ystyried i ddiogelu defnyddwyr.

Roedd y sgyrsiau o blaid newid diwylliannol lle mae pawb ym mhob rhan o’r gadwyn fwyd yn deall alergeddau bwyd ac yn gwybod pa rôl y maent yn ei chwarae wrth sicrhau diogelwch a dewis.

Llunio ffordd ymlaen trwy weithdai rhanddeiliaid

Yn ystod y symposiwm fe wnaethom ni hefyd wahodd y rheiny a oedd yn bresennol i gyfrannu at ddatblygu dau brosiect yn ein rhaglen waith. Mae eu mewnbwn yn hanfodol i sicrhau bod polisïau'r ASB yn gadarn ac yn addas at y diben. Fel rhan o hyn fe gynhaliom ni ddau weithdy ar Labelu Alergenau Rhagofalus a'r Cynllun Diogelwch Alergedd Bwyd.

Casglodd y gweithdai brofiadau amrywiol cynrychiolwyr o wahanol gefndiroedd a safbwyntiau, gan edrych yn fanwl ar yr effaith y mae pwyntiau trafod yn ei chael a'r heriau y bydd angen mynd i'r afael â nhw. Byddwn ni’n asesu'r hyn a ddysgwyd o'r gweithdai hyn ac yn cyhoeddi canlyniadau yn ddiweddarach.

Labelu Alergenau Rhagofalus

Un pwnc trafod oedd Labelu Alergenau Rhagofalus. Pwrpas y labelu hwn yw nodi lle mae risg o halogiad o bresenoldeb anfwriadol alergen. Mae hyn yn cael ei gyfleu gan ddefnyddio sawl ymadrodd gwahanol, a'r mwyaf cyffredin yw ‘may contain...’ (gall gynnwys).

Er ei bod yn gymharol syml pennu'r cynhwysion a'r alergenau mewn cynnyrch, mae'n llawer anoddach dweud lle y gallai'r math hwn o halogiad anfwriadol fod wedi digwydd.

Lleisiwyd rhai safbwyntiau yn y symposiwm am y diffyg cysondeb wrth ddefnyddio’r math hwn o labelu a'r anhawster y mae hyn yn ei achosi i ddefnyddwyr sydd â gorsensitifrwydd i fwyd sy’n aml yn gallu teimlo eu bod yn cael eu heithrio rhag mwynhau bwydydd penodol o ganlyniad i labelu gor-ofalus.
Fe ddefnyddion ni'r diwrnod i glywed gan gynrychiolwyr i ddeall yn well sut mae busnesau bwyd yn cynnal asesiadau risg a dysgu rhagor am ganfyddiadau defnyddwyr o ddatganiadau rhagofalus.

Bydd hyn yn bwydo i ymgynghoriad ffurfiol â rhanddeiliaid, sydd wedi’i gynllunio ar gyfer diwedd 2021 neu ddechrau 2022, i wella ein ffordd o feddwl a llywio ymyriadau polisi'r ASB.

Cynllun diogelwch alergedd bwyd

Aeth y cynrychiolwyr hefyd ati i archwilio cyfleoedd ar gyfer datblygiad posib cynllun diogelwch alergedd bwyd. Aethom ati i ystyried pa fath o wybodaeth am alergenau a fyddai’n helpu defnyddwyr sydd â gorsensitifrwydd i fwyd i wneud penderfyniadau ar ble i fwyta allan. Mae hwn yn faes diddordeb allweddol i'n Bwrdd.

Rydym ni’n credu bod y dyfodol yn dibynnu ar gydweithio, gan rannu tystiolaeth ac arbenigedd i wneud pethau'n well ar gyfer defnyddwyr sydd â gorsensitifrwydd i fwyd. Rydym ni’n ddiolchgar am bob cynrychiolydd sydd wedi rhoi o'u hamser i ymuno â ni dros yr ychydig ddyddiau hyn.
Nid yw’n bosibl cael gwared ar beryglon gorsensitifrwydd i fwyd yn gyfan gwbl, ond gyda'n gilydd, gallwn ni helpu i'w gwneud yn haws eu rheoli.

Sharing and comments

Share this page

1 comment

  1. Comment by Central BioHub GmbH posted on

    Allergy is one of the most common conditions we encounter in everyday life. It occurs when a person's immune system reacts abnormally to environmental substances that are harmless to others. We have seen people with different types of allergies. Common allergies include food allergy, dust allergy, drug allergy, tree allergy, pollen allergy, grass allergy, insect sting allergy, etc. When it comes to allergies, they are a nuisance that interferes with the routine of daily life.

    Reply

Leave a comment

We only ask for your email address so we know you're a real person

By submitting a comment you understand it may be published on this public website. Please read our privacy notice to see how the GOV.UK blogging platform handles your information.