In the first in a new series of regular updates to stakeholders, FSA Chief Executive Emily Miles shares recent action on inspections, support for shellfish businesses and a post-COVID-19 recovery plan for local authorities. Sign up to receive regular updates.
I am very pleased to be sending you the first of a series of regular messages from the Food Standards Agency (FSA) to our valued partners, updating you on our work to ensure we all have food we can trust.
As you know, the FSA is the non-ministerial government department that works to keep food safe and protect consumers in England, Wales and Northern Ireland. We’ve always worked with stakeholders to deliver that mission, but five months into life outside the EU’s regulatory regime it’s more important than ever that we have regular dialogue with you.
The FSA, with guidance from our scientific committees, now provides the advice to Government on risks in the food chain and decides what steps are needed to safeguard consumers across England, Wales and Northern Ireland. We have taken on these roles from the European Food Safety Authority and from the European Commission. Your views and insight will be a critical part of forming our future risk management and regulatory approach.
At the FSA we have been pushing forward on a range of priorities over the Winter and Spring.
I am proud that our operational staff maintained a 100% inspection service to the meat, wine and dairy industries. Like thousands of others in the food industry, they are working in challenging conditions, 24/7, 365 days a year, making sure neither food supply nor food safety are affected by the pandemic.
We’ve recently been working with Defra and Welsh Government to help shellfish businesses adjust to the new relationship with the EU. We have made use of options within the current legal framework to extend the use of seasonal classifications to a number of shellfish beds. By applying sampling evidence in this way we have been able to review those classifications and allow exports from a number of areas to continue. We have applied the scientific evidence rigorously, and will continue to protect public health.
We have just published the papers for the next FSA Board meeting on 26 May. At this meeting we will be discussing a post-COVID-19 recovery plan for local authorities, and the next steps for our key programmes of regulatory reform, Achieving Business Compliance (ABC) and Operations Transformation.
The FSA is committed to openness and transparency, which is why our board meetings are live-streamed, the public can ask questions, and all discussion papers are published two weeks in advance. If you would like to join us for the meeting, please register via the FSA Board Meetings website.
Finally, I am delighted that Professor Susan Jebb has been named as the Government’s preferred candidate for the post of FSA Chair. The Health and Social Care Committee is expected to hold a public pre-appointment scrutiny hearing for Susan in early June.
I hope you’ve found this message about the FSA’s current priorities useful. I plan to make this a regular habit so if you’d like to get future editions direct to your inbox sign up for the updates. You can also sign up to be notified of all FSA blog posts, not just this message.
Diweddariad Emily Miles i randdeiliaid – pysgod cregyn, cyfarfod nesaf y Bwrdd, a'r ymgeisydd a ffefrir ar gyfer rôl y Cadeirydd
Rydw i’n falch iawn o fod yn anfon y cyntaf mewn cyfres o negeseuon rheolaidd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) at ein partneriaid gwerthfawr, yn rhannu’r diweddaraf â chi ar ein gwaith i sicrhau bod gan bob un ohonom fwyd y gallwn ymddiried ynddo.
Fel y gwyddoch, yr ASB yw adran anweinidogol y llywodraeth sy'n gweithio i gadw bwyd yn ddiogel ac i ddiogelu defnyddwyr yng Nghymru, yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon. Rydym ni bob amser wedi gweithio gyda rhanddeiliaid i gyflawni'r genhadaeth hon, ond bum mis i mewn i fywyd y tu allan i drefn reoleiddio'r Undeb Ewropeaidd (UE), mae'n bwysicach nag erioed ein bod ni'n cynnal sgwrs reolaidd gyda chi. Mae'r ASB, dan arweiniad ein pwyllgorau gwyddonol, bellach yn cynghori’r Llywodraeth ar risgiau yn y gadwyn fwyd ac yn penderfynu pa gamau sydd eu hangen i ddiogelu defnyddwyr ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Yn yr ASB, rydym ni wedi bod yn bwrw ymlaen ar ystod o flaenoriaethau dros y gaeaf a'r gwanwyn.
Rydw i’n falch bod ein staff gweithredol wedi cynnal gwasanaeth arolygu 100% i'r diwydiannau cig, gwin a llaeth. Fel miloedd o bobl eraill yn y diwydiant bwyd, maen nhw’n gweithio dan amodau heriol, a hynny drwy’r dydd a phob dydd yn ystod y flwyddyn, gan sicrhau nad yw'r pandemig yn effeithio ar gyflenwad bwyd na diogelwch bwyd.
Yn ddiweddar, rydym ni wedi bod yn gweithio gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) a Llywodraeth Cymru i helpu busnesau pysgod cregyn i addasu i'r berthynas newydd gyda'r UE. Rydym ni wedi defnyddio dewisiadau o fewn y fframwaith cyfreithiol cyfredol i ehangu'r defnydd o ddosbarthiadau tymhorol i nifer o welyau pysgod cregyn. Trwy ddefnyddio tystiolaeth samplu fel hyn, rydym ni wedi gallu adolygu'r dosbarthiadau hynny a chaniatáu i allforion o nifer o ardaloedd barhau. Rydym ni wedi defnyddio'r dystiolaeth wyddonol yn drylwyr, a byddwn yn parhau i ddiogelu iechyd y cyhoedd.
Rydym ni newydd gyhoeddi'r papurau ar gyfer cyfarfod nesaf Bwrdd yr ASB ar 26 Mai. Yn y cyfarfod hwn, byddwn ni’n trafod cynllun adfer ar gyfer y cyfnod ôl COVID-19 ar gyfer awdurdodau lleol, a'r camau nesaf ar gyfer ein rhaglenni allweddol o ddiwygio rheoliadol, Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnes (ABC) a Thrawsnewid Gweithrediadau.
Mae'r ASB wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw, a dyna pam mae ein cyfarfodydd bwrdd yn cael eu ffrydio'n fyw. Gall y cyhoedd ofyn cwestiynau ac mae’r holl bapurau trafod yn cael eu cyhoeddi bythefnos ymlaen llaw. Os hoffech chi ymuno â ni yn y cyfarfod, ewch ati i gofrestru yma.
Rydw i ar ben fy nigon bod yr Athro Susan Jebb wedi cael ei henwi fel ymgeisydd dewisol y Llywodraeth ar gyfer swydd Cadeirydd yr ASB. Mae disgwyl i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol gynnal gwrandawiad craffu cyhoeddus cyn penodi ar gyfer Susan ddechrau mis Mehefin.
Gobeithio bod y neges hon am flaenoriaethau cyfredol yr ASB wedi bod yn ddefnyddiol i chi. Rydw i’n bwriadu gwneud hwn yn arfer rheolaidd, felly os hoffech chi gael y negeseuon yn y dyfodol yn uniongyrchol i'ch blwch e-bost, gallwch chi danysgrifio yma. Neu i gofrestru i gael pob un o flogiau’r ASB, ac nid y neges hon yn unig, gallwch chi danysgrifio yma.
Leave a comment