Skip to main content

https://food.blog.gov.uk/2021/05/26/comparing-international-meat-production-methods/

Comparing international meat production methods

 

A selection of meat

Cymraeg

Rick Mumford, Head of Science, Evidence and Research Directorate, reflects on our recently published report into meat production processes in the UK and other countries. He considers what the report tells us about international meat production methods and food standards.

This week, we published the second in a series of scientific reports which attempt to compare different international food production processes and levels of contamination, in an effort to improve our own data, and to help provide the very best scientific basis for our independent advice to Government and other partners.

The Assessment Comparing Meat Production Processes In Selected Countries study summarises the different food production processes carried out worldwide and includes data on the prevalence of different micro-organisms (noting that this prevalence data is indicative only and cannot easily be compared, due to many differences in how countries collect data).

It was carried out to help us better understand the international context of imports and the associated food safety control processes in place for products coming into the UK.

The report is a literature review and covers:

16 countries: Australia, Botswana, Brazil, Canada, Chile, Denmark, India, Ireland, Namibia, Netherlands, New Zealand, Poland, Ukraine, United Kingdom, United States, and Uruguay.

A variety of meat products:

  • Beef
  • Lamb
  • Pork
  • Poultry

Though not all were considered for every country listed above.

And microorganisms including:

  • Campylobacter
  • Salmonella
  • Shiga toxin-producing Escherichia coli (STEC)

These were chosen based on a number of factors, including countries’ total export market and current exports to the UK.

For each country, the following were considered:

  • Market overview
  • Production processes, intervention steps and legislative controls
  • Microbiological testing, prevalence, and contamination rates
  • Antimicrobial resistance

While the study had identified useful data on international production systems, the report notes difficulties in attempting direct comparisons between countries (again due to significant variance in data collection techniques, such as sampling and testing methods).

What did we find?

From the differing types and styles of data available to testing methodologies and sampling methods, this literature review shows how challenging data collection can be.

Yet we now have a much greater understanding of the different approaches taken across the globe.

In fact, in relation to poultry and meat processing, the basic procedures are largely the same in all countries studied. These steps include, but are not limited to, on-farm practices, animal catching and transport, ante-mortem inspection, slaughter, evisceration, post-mortem inspection, chilling, dressing and packing.

For example, the USA and Canada, both had largely the same inspection protocols as the EU, which in turn are similar set of procedures to the UK. Yet the key differences were in chilling times and temperatures, as well as permitted chemicals during carcass washing. Canada has similar chilling requirements to the UK, whereas the USA does not prescribe any specific times or temperatures. Both the USA and Canada permit chemicals in washing water for carcass and cuts. Growth promoters are also permitted in the USA.

Looking at Australia and New Zealand we saw slight differences to UK/EU in terms of chilling, where they have developed a scoring system based on the data collected from chilling processes. Their inspection protocols appear to be similar, and the use of growth promoters is permitted in Australia.

For more findings and insights for the countries covered in this report, head over to the website and download the research report, Assessment Comparing Meat Production Processes In Selected Countries.

It's also important to state here that if meat is intended for export to the UK, then it must meet our import requirements – regardless of production methods.

What next?

As part of an ongoing commitment to assessing food risk and contaminants, we are planning a third Infectious Intestinal Disease (IID) study. This will further strengthen our understanding of foodborne disease and build on our knowledge of other studies from across the world.

Finally, we will, as always, continue to publish the advice we provide to others, and the analysis and evidence on which that advice is based.

Cymharu dulliau cynhyrchu cig rhyngwladol

Dyma Rick Mumford , Pennaeth y Gyfarwyddiaeth Gwyddoniaeth, Tystiolaeth ac Ymchwil, yn trafod ein hadroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar brosesau cynhyrchu cig yn y Deyrnas Unedig (DU) a gwledydd eraill. Mae'n ystyried yr hyn y mae'r adroddiad yn ei ddweud wrthym am ddulliau cynhyrchu cig rhyngwladol a safonau bwyd.

 

Yr wythnos hon, gwnaethom gyhoeddi'r ail mewn cyfres o adroddiadau gwyddonol sy'n ceisio cymharu gwahanol brosesau cynhyrchu bwyd rhyngwladol a lefelau halogi, mewn ymdrech i wella ein data ein hunain, ac i helpu i ddarparu'r sylfaen wyddonol orau un i'r cyngor annibynnol a ddarparwn i’r Llywodraeth a phartneriaid eraill.

Mae'r astudiaeth Asesu sy’n Cymharu Prosesau Cynhyrchu Cig Mewn Gwledydd Dethol yn crynhoi'r gwahanol brosesau cynhyrchu bwyd a gynhelir ledled y byd ac yn cynnwys data ar ba mor gyffredin yw gwahanol ficro-organebau (gan nodi bod y data cyffredinedd (prevalence) hwn yn ddangosol yn unig, ac na ellir ei gymharu'n hawdd gan fod llawer o wahaniaethau o ran sut mae gwledydd yn casglu data).

Fe'i cynhaliwyd i'n helpu i ddeall cyd-destun rhyngwladol mewnforion a'r prosesau rheoli diogelwch bwyd cysylltiedig sydd ar waith yn well ar gyfer cynhyrchion sy'n dod i'r DU.

Mae'r adroddiad yn adolygiad llenyddiaeth ac mae'n cynnwys:

16 gwlad: Awstralia, Botswana, Brasil, Canada, Chile, Denmarc, y Deyrnas Unedig, Gwlad Pwyl, India, yr Iseldiroedd, Iwerddon, Namibia, Seland Newydd, yr Unol Daleithiau, Uruguay a’r Wcrain.

Amrywiaeth o gynhyrchion cig:

  • Cig eidion
  • Cig oen
  • Porc
  • Dofednod (poultry)

Er na ystyriwyd pob amrywiaeth ar gyfer pob gwlad a restrir uchod.

A micro-organebau gan gynnwys:

  • Campylobacter
  • Salmonela
  • Escherichia coli sy’n cynhyrchu shigatocsin (STEC)

Dewiswyd y rhain ar sail nifer o ffactorau, gan gynnwys cyfanswm marchnad allforio gwledydd ac allforion cyfredol i'r DU.

Ar gyfer pob gwlad, ystyriwyd y canlynol:

  • Trosolwg o'r farchnad
  • Prosesau cynhyrchu, camau ymyrraeth a rheolaethau deddfwriaethol
  • Profion microbiolegol, cyffredinolrwydd, a chyfraddau halogi
  • Ymwrthedd gwrthficrobaidd

Er bod yr astudiaeth wedi nodi data defnyddiol ar systemau cynhyrchu rhyngwladol, mae'r adroddiad yn nodi anawsterau wrth geisio cymariaethau uniongyrchol rhwng gwledydd (eto oherwydd amrywiaeth sylweddol mewn technegau casglu data, fel dulliau samplu a phrofi).

Beth ganfuom ni?

O'r gwahanol fathau ac arddulliau o ddata sydd ar gael i fethodolegau profi a dulliau samplu, mae'r adolygiad llenyddiaeth hwn yn dangos pa mor heriol y gall casglu data fod.

Ac eto, mae gennym ni ddealltwriaeth llawer gwell o'r gwahanol ddulliau a ddefnyddir ledled y byd.

Mewn gwirionedd, o ran prosesu dofednod a chig, mae'r gweithdrefnau sylfaenol yr un fath i raddau helaeth ym mhob gwlad a astudiwyd. Mae'r camau hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, arferion ar y fferm, dal a chludo anifeiliaid, archwiliad ante-mortem, lladd, diberfeddu, archwiliad post-mortem, oeri, tynnu croen a phacio.

Er enghraifft, roedd gan Unol Daleithiau America (UDA) a Chanada yr un protocolau arolygu â'r Undeb Ewropeaidd (UE) i raddau helaeth, sydd yn eu tro yn set debyg o weithdrefnau i'r DU. Ac eto, roedd gwahaniaethau allweddol o ran amseroedd a thymheredd oeri, ynghyd â chemegau a ganiateir wrth olchi carcasau. Mae gan Ganada ofynion oeri tebyg i'r DU, ond nid yw UDA yn rhagnodi unrhyw amseroedd na thymheredd penodol. Mae UDA a Chanada yn caniatáu cemegion mewn dŵr golchi ar gyfer carcasau a thoriadau. Caniateir hyrwyddwyr twf yn UDA hefyd.

Wrth edrych ar Awstralia a Seland Newydd gwelsom wahaniaethau bach i'r DU/UE o ran oeri, lle maent wedi datblygu system sgorio yn seiliedig ar y data a gasglwyd o brosesau oeri. Mae'n ymddangos bod eu protocolau arolygu yn debyg, a chaniateir defnyddio hyrwyddwyr twf yn Awstralia.

I gael rhagor o ganfyddiadau a mewnwelediadau ar gyfer y gwledydd sy'n cael sylw yn yr adroddiad hwn, ewch draw i'r wefan a lawrlwytho’r adroddiad ymchwil, Asesiad Cymharu Prosesau Cynhyrchu Cig Mewn Gwledydd Dethol.

Mae'n bwysig nodi yma hefyd, os yw cig wedi'i fwriadu i'w allforio i'r DU, mae'n rhaid iddo fodloni ein gofynion mewnforio, waeth beth fo'r dulliau cynhyrchu.

Beth nesaf?

Fel rhan o ymrwymiad parhaus i asesu risg bwyd a halogion, rydym ni’n cynllunio trydydd astudiaeth o Glefyd Perfeddol Heintus (IID) . Bydd hyn yn cryfhau ymhellach ein dealltwriaeth o glefydau a gludir gan fwyd ac yn adeiladu ar ein gwybodaeth am astudiaethau eraill o bob cwr o'r byd.

Yn olaf, byddwn ni'n parhau i gyhoeddi'r cyngor a ddarparwn i eraill a'r dadansoddiad a'r dystiolaeth y mae'r cyngor hwnnw yn seiliedig arnynt.

Sharing and comments

Share this page

Leave a comment

We only ask for your email address so we know you're a real person

By submitting a comment you understand it may be published on this public website. Please read our privacy notice to see how the GOV.UK blogging platform handles your information.