Catriona Stewart, Head of Compliance & Standards Unit at the FSA, reflects on the launch of the Food Hygiene Rating Scheme.
I can’t quite believe it’s been ten years since we launched the Food Hygiene Rating Scheme (FHRS). That’s the scheme that tells you about the hygiene of where you eat and buy your food by using its instantly recognisable green and black stickers with a scale of 0-5.
Launch day
I didn’t actually get to the formal launch event in Bluewater Shopping Centre in Kent, but I do remember the series of interviews with local BBC radio stations. I was worried about sleeping in and about the trains running on time as bad weather was forecast. I was worried too about whether my colleague from the press team would make it in to go through our key messages with me before going live to help calm my nerves!
Everything went well and I got through the interviews. I even managed to get a cafe latte during a break between broadcasts. Anyone that knows me well will appreciate just how welcome that was! As it turned out, the weather forecast was correct, and my colleagues only just got out of Bluewater before it closed for the day due to heavy snow.
The launch day was certainly a memorable event at the end of a remarkable journey from a wide range of very different ‘scores on the doors’ schemes to a single national food hygiene rating scheme in England, Wales and Northern Ireland.
A few other days also stand out for me.
'Scores on the doors'
The first is the day I was assigned the ‘scores on the doors’ project, just before we consulted in 2008 on plans for a national scheme. I didn’t know too much about this area. Yet everyone that did told me it was a poisoned chalice and that I would have a battle on my hands as all our stakeholders wanted different things. I’m pretty sure that this day correlates almost exactly with the time my hair started to go white!
There were certainly a lot of challenges along the way but, by working with local authorities and the food industry, together we created a scheme that has made a real difference for consumers, which is a great reward.
The childish excitement I felt when I saw one of our green and black stickers on display for the first time was another key event for me. I was visiting friends in Cranleigh, Surrey and we went out for a walk and a bit of lunch when I saw that the café was proudly showing its rating in the window.
I still love seeing those stickers now.
Just looking back at some of the examples we tested with consumers, I wonder if things might have been different?
A call-out on Corrie
I also recall the day when I think we could say that the scheme became part of popular culture.
I was watching Coronation Street when Tracy Barlow’s latest man, the chef at the Bistro, remarked: "if you come in the kitchen any more often, I’ll have to get you food hygiene rated." I thought that was wonderful.
I was also amused to see our concept given a different twist with this t-shirt which you can buy on eBay.
Finally, persuading Rutland County Council to join the scheme in 2016, almost four years after all the others, nearly had the team dancing in the street.
The FHRS Family
I feel privileged to have led the work to develop the FHRS and to roll the scheme out in England, but I was just one part of a much larger cross-FSA ‘FHRS family’ that made it all happen. I’m sure everyone that has been involved over the last ten years, and in everything that went before, will be as proud as me of what we have achieved together.
I’m sure too that they were as thrilled as I was that our scheme was identified in January this year by the Royal Society for Public Health as one of the top 20 public health achievements of the 21st century.
I look forward to seeing what will happen in the next ten years.
Fy uchafbwyntiau yn ystod 10 mlynedd o'r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd
Mae Catriona Stewart, Pennaeth Uned Cydymffurfiaeth a Safonau yr Asiantaeth Safonau Bwyd, yn myfyrio ar lansiad y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd.
Dydw i wir ddim yn gallu credu bod deng mlynedd wedi mynd heibio ers i ni lansio'r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (y Cynllun Sgorio). Dyna'r cynllun sy'n dweud wrthych chi am hylendid y llefydd rydych chi'n bwyta ac yn prynu'ch bwyd gan ddefnyddio sticeri gwyrdd a du y gellir eu hadnabod ar unwaith gyda sgoriau rhwng 0 a 5.
Diwrnod lansio
Doeddwn i ddim yn bresennol yn y digwyddiad lansio ffurfiol yng Nghanolfan Siopa Bluewater yn Nghaint, ond rydw i’n cofio'r gyfres o gyfweliadau â gorsafoedd radio lleol y BBC. Roeddwn i’n poeni am gysgu’n hwyr ac am y trenau’n rhedeg ar amser wrth iddi addo tywydd gwael. Roeddwn i hefyd yn poeni a fyddai fy nghydweithiwr o dîm y wasg yn cyrraedd er mwyn ymarfer ein negeseuon allweddol gyda mi cyn mynd yn fyw i helpu i dawelu fy nerfau!
Aeth popeth yn dda ac fe wnes i oroesi’r cyfweliadau. Llwyddais hyd yn oed i gael latte yn ystod egwyl rhwng darllediadau. Bydd unrhyw un sy'n fy adnabod yn dda yn gwerthfawrogi pa mor falch oeddwn o hynny! Fel mae’n digwydd, roedd rhagolygon y tywydd yn gywir, a dim ond newydd adael Bluewater oedd fy nghydweithwyr cyn iddi gau am y dydd oherwydd eira trwm!
Roedd y diwrnod lansio yn sicr yn ddigwyddiad cofiadwy ar ddiwedd taith ryfeddol o ystod eang o gynlluniau 'scores on the doors' gwahanol iawn i’r un cynllun sgorio hylendid bwyd cenedlaethol yng Nghymru, yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon.
Mae ychydig ddyddiau eraill hefyd yn sefyll allan i mi.
'Scores on the doors'
Y cyntaf yw'r diwrnod y cafodd y prosiect 'scores on the doors' ei neilltuo i mi ychydig cyn i ni ymgynghori yn 2008 ar gynlluniau ar gyfer cynllun cenedlaethol. Doeddwn i ddim yn gwybod gormod am y maes hwn. Ac eto, fe ddywedodd pawb â oedd yn gyfarwydd â’r maes ei fod yn destun methiant ac y byddai’n rhaid i mi frwydro’n galed gan fod ein holl randdeiliaid eisiau pethau gwahanol. Dwi’n eithaf sicr mai dyma’r union ddiwrnod y dechreuodd fy ngwallt dyfu’n wyn!
Yn sicr roedd yna lawer o heriau ar hyd y ffordd ond, trwy weithio gydag awdurdodau lleol a'r diwydiant bwyd, fe wnaethon ni greu cynllun sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddefnyddwyr sy'n werth chweil.
Roedd y cyffro plentynnaidd a deimlais pan welais un o'n sticeri gwyrdd a du yn cael ei arddangos am y tro cyntaf yn ddigwyddiad cofiadwy arall i mi. Roeddwn i’n ymweld â ffrindiau yn Cranleigh, Surrey ac aethom allan am dro a thamaid o ginio pan welais, gyda balchder, fod y caffi yn dangos ei sgôr yn y ffenestr.
Rydw i'n dal i fod wrth fy modd yn gweld y sticeri hynny nawr.
Wrth edrych yn ôl ar rai o'r enghreifftiau y gwnaethon ni eu profi gyda defnyddwyr, tybed a fyddai pethau wedi gallu bod yn wahanol?
Ein cynnwys ar Corrie
Rydw i hefyd yn cofio’r diwrnod pan oedd yn amlwg bod y cynllun wedi dod yn rhan o ddiwylliant poblogaidd.
Roeddwn i’n gwylio Coronation Street pan nododd cariad diweddaraf Tracey Barlow, y cogydd yn y Bistro: "if you come in the kitchen any more often, I’ll have to get you food hygiene rated." Roeddwn i'n meddwl bod hynny'n fendigedig!
Roeddwn i hefyd yn falch o weld ein cysyniad yn cael ei droi’n grys-t y gallwch ei brynu ar eBay.
Yn olaf, ar ôl perswadio Cyngor Sir Rutland i ymuno â'r cynllun yn 2016, rhyw bedair blynedd ar ôl y lleill i gyd, bu bron i'r tîm ddawnsio mewn llawenydd!
Teulu’r Cynllun Sgorio
Rydw i'n teimlo'n freintiedig fy mod wedi arwain y gwaith i ddatblygu'r Cynllun Sgorio ac i gyflwyno'r cynllun yn Lloegr, ond dim ond un rhan o deulu ehangach y Cynllun Sgorio ar draws yr Asiantaeth oeddwn i a arweiniodd at gyflwyno’r cynllun. Rydw i'n siŵr y bydd pawb sydd wedi cymryd rhan dros y deng mlynedd diwethaf a chyn hynny mor falch â minnau o'r hyn yr ydym wedi'i gyflawni gyda'n gilydd.
Rydw i’n siŵr hefyd eu bod nhwythau yr un mor falch ag yr oeddwn i fod ein cynllun wedi’i nodi ym mis Ionawr eleni gan Gymdeithas Frenhinol Iechyd y Cyhoedd fel un o 20 cyflawniad iechyd y cyhoedd gorau’r 21ain ganrif.
Rydw i’n edrych ymlaen at weld beth fydd yn digwydd yn ystod y deng mlynedd nesaf!
Leave a comment