Skip to main content

https://food.blog.gov.uk/2020/12/04/10-years-of-the-food-hygiene-rating-scheme-and-me/

10 years of the Food Hygiene Rating Scheme and me

A newspaper cutting of Hardeep Kang in the Fenlander Weekly "Making it safer for you to eat out"

Cymraeg

As the Food Hygiene Rating Scheme marks its ten year anniversary, Hardeep Kang reflects on her role with the scheme as both an Environmental Health Officer and working at the FSA.

 

Hi, my name is Hardeep Kang. I work in the Food Standards Agency (FSA) as the Food Hygiene Rating Scheme Delivery Officer.

Before joining the FSA, I spent 16 years working as an Environmental Health Officer (EHO) in various local authorities in England. Most of my time was spent doing food inspections, interacting with food business owners and driving up compliance in whichever local authority I was working in at the time. For the last two years, I've been working in the FSA's Food Hygiene Ratings Team.

FHRS and me

My passion has always been protecting public health. This is why I became an Environmental Health Officer. As an EHO you have many tools in your arsenal to drive up standards, but I found the one that had the most effect on food businesses was the Food Hygiene Rating Scheme (FHRS). The introduction of FHRS in 2010 meant that I was able to drive up standards, one food business at a time.

Sometimes it was as simple as saying to Food Business Operators (FBOs) "did you know the pub down the road has a rating of five? No? Would you like a five? Yes, well all you need to do is...". I know it may sound a bit unconventional but trust me when I tell you, it worked! FBOs quickly worked out that high ratings mean more customers, and for a small family-run restaurant on the high street, your reputation is all you have.

I have seen, over the past 10 years, the popularity of FHRS increase. I have seen the effect of the scheme not only on food businesses but on consumers too.

I saw food business operators compete with each other on the high street to get a better score than the business down the road. I saw my friends and family refer to FHRS as the deciding factor in where to eat, rather than relying on me (they quickly realised if I wouldn’t eat or shop at a business then neither should they!). I have seen multisite businesses and big chains use FHRS to benchmark performance against their estates and event planners use it as a baseline for mobile food businesses attending an event.

As an EHO, I used FHRS to showcase the work of food teams to raise the profile of the team with elected members in whichever local authority I worked in.

So how does an EHO end up in the FSA?

I never would've thought that when launching FHRS at a local authority in November 2011, that nine years down the line I would be working at the FSA. So, what led me here?

While working as an EHO I saw the impact of my work to the local area, yet I always felt there was more I could do. I saw an opportunity to work for the FSA and I took it. Shortly after joining I quickly realised how hard staff at the FSA work to keep food safe and the FHRS team are no different. I was, and still am amazed, how a team of six work tirelessly to keep a lot of plates spinning, all to keep a valuable scheme like FHRS going.

From ensuring the FHRS website is able to withstand high volumes of traffic (normally following some media attention), to providing support to local authorities and working with colleagues in Wales and Northern Ireland to ensure there is some level of consistency between the schemes being operated between each country. All against the backdrop of working towards a statutory scheme.

I look forward to the day FHRS becomes a statutory scheme in England like it is in Northern Ireland and Wales, and to be able to say I played a small part in that.

Here’s to the next 10 years!

10 mlynedd o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd a fi

A newspaper cutting of Hardeep Kang in the Fenlander Weekly "Making it safer for you to eat out"

Helo, fy enw i yw Hardeep Kang. Rydw i'n gweithio yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fel Swyddog Cyflenwi'r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd.

Cyn ymuno â'r ASB, fe dreuliais i 16 mlynedd yn gweithio fel Swyddog Iechyd yr Amgylchedd (EHO) mewn amryw awdurdodau lleol yn Lloegr. Treuliais y rhan fwyaf o fy amser yn cynnal arolygiadau bwyd, yn rhyngweithio â pherchnogion busnesau bwyd ac yn cynyddu cydymffurfiaeth ym mha bynnag awdurdod lleol yr oeddwn yn gweithio ynddo ar y pryd. Am y ddwy flynedd ddiwethaf, rydw i wedi bod yn gweithio yn Nhîm Sgoriau Hylendid Bwyd yr ASB.

Y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd a Fi

Rydw i wastad wedi bod yn angerddol dros ddiogelu iechyd y cyhoedd. Dyma pam y wnes i ddewis gyrfa fel Swyddog Iechyd yr Amgylchedd. Fel EHO mae gennych chi lawer o arfau er mwyn hybu safonau, ond yr un a gafodd yr effaith fwyaf ar fusnesau bwyd yn fy marn i oedd y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (y Cynllun). Roedd cyflwyno’r Cynllun yn golygu fy mod i’n gallu codi safonau, un busnes bwyd ar y tro.

Yn syml, trwy ddweud wrth fusnes bwyd "oeddech chi'n gwybod bod gan y dafarn i lawr y lôn sgôr o bump? Na? Hoffech chi gael pump? Wel y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw...". Dwi’n gwybod ei fod yn gallu swnio ychydig yn anghonfensiynol, ond wir i chi, mae’n gweithio! Buan iawn y sylweddolodd busnesau bwyd bod sgoriau uchel yn golygu mwy o gwsmeriaid, ac i fwyty teuluol bach ar y stryd fawr, enw da yw popeth.

Rydw i wedi gweld, dros y 10 mlynedd diwethaf, y Cynllun yn dod yn fwyfwy poblogaidd. Rydw i wedi gweld effaith y cynllun nid yn unig ar fusnesau bwyd, ond ar ddefnyddwyr hefyd.

Fe welais fusnesau bwyd yn cystadlu â’i gilydd ar y stryd fawr i gael sgôr well na’r busnes i lawr y lôn. Fe welais ffrindiau a theulu yn cyfeirio at y Cynllun wrth benderfynu ble i fwyta, yn hytrach na dibynnu arna i (fe wnaethon nhw sylweddoli yn gyflym os na fyddwn i’n bwyta nac yn siopa mewn busnes, na ddylen nhw chwaith!). Rydw i wedi gweld busnesau sydd â sawl safle a chadwyni mawr yn defnyddio’r Cynllun i feincnodi perfformiad yn erbyn eu hystadau ac mae cynllunwyr digwyddiadau yn ei ddefnyddio fel llinell sylfaen ar gyfer busnesau bwyd symudol sy'n cymryd rhan mewn digwyddiad.

Fel EHO, fe ddefnyddiais i’r Cynllun i arddangos gwaith timau bwyd i godi proffil y tîm gydag aelodau etholedig ym mha bynnag awdurdod lleol yr oeddwn i’n gweithio ynddo.

Felly sut mae EHO yn canfod ei hun yn yr ASB?

Fuaswn i erioed wedi meddwl, wrth lansio’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd mewn awdurdod lleol ym mis Tachwedd 2011, y byddwn i’n gweithio yn yr ASB naw mlynedd yn ddiweddarach. Felly, beth ddaeth â mi yma?

Wrth weithio fel EHO gwelais effaith fy ngwaith ar yr ardal leol, ac eto roeddwn i bob amser yn teimlo bod mwy y gallwn i ei wneud. Gwelais gyfle i weithio i'r ASB a’i fachu. Yn fuan ar ôl ymuno sylweddolais yn gyflym pa mor galed y mae staff yn yr ASB yn gweithio i gadw bwyd yn ddiogel, a dydy tîm y Cynllun ddim gwahanol. Roeddwn i’n synnu sut mae tîm o chwech yn gweithio'n ddiflino i gydbwyso llawer o elfennau er mwyn cadw cynllun gwerthfawr fel hwn i fynd, ac mae hynny yn dal i fy synnu hyd heddiw.

O sicrhau bod gwefan y Cynllun yn gallu gwrthsefyll llawer iawn o draffig (fel arfer yn dilyn sylw gan y cyfryngau), i gefnogi awdurdodau lleol a gweithio gyda chydweithwyr yng Nghymru ac yng Ngogledd Iwerddon i sicrhau bod rhywfaint o gysondeb rhwng y cynlluniau sy'n cael eu gweithredu gan bob gwlad. A’r cyfan yn erbyn cefndir o weithio tuag at gynllun statudol.

Rydw i’n edrych ymlaen at y diwrnod y daw’r Cynllun yn un statudol yn Lloegr fel y mae yng Nghymru ac yng Ngogledd Iwerddon, ac i allu dweud fy mod i wedi chwarae rhan fach yn hynny.

Ymlaen i'r 10 mlynedd nesaf!

Sharing and comments

Share this page

Leave a comment

We only ask for your email address so we know you're a real person

By submitting a comment you understand it may be published on this public website. Please read our privacy notice to see how the GOV.UK blogging platform handles your information.