
Last week I had the privilege of speaking to fellow regulators from around the world at the International Heads of Food Agencies Forum in New Zealand. Speaking to an international audience responsible for food safety was a timely reminder that, while our regulatory systems differ, the challenges we face are strikingly similar.
I spoke to the forum about trust: why it matters, how fragile it can be, and why it sits at the heart of effective food regulation. We are operating in a world defined by volatility, uncertainty, and complexity. Complex global supply chains, climate disruption, emerging food technologies and the rapid spread of misinformation are all making it harder for people to trust the food system.
Meeting these challenges head on means coupling scientific rigour with transparency, openness and a clear commitment to acting in the public interest. Strong communication is essential to this — not just in moments of crisis, but consistently over time. In an uncertain world, trust is one of the most valuable things we can offer consumers.
This is why engagement with international partners matters so much to the FSA. Food systems are global, and so are the risks. Forums like IHFAF provide space to challenge thinking, share practical experience and learn how others are responding to emerging risks. Whether that’s managing innovation in food production, communicating uncertainty, or safeguarding consumer confidence across borders.
What I took away most strongly from this year’s forum was the importance of moving beyond shared discussion to shared action. It also reinforced the value of investing time in trusted international relationships before crises hit, so we are better prepared when they do. These conversations will directly inform our ongoing work at the FSA.
You can read a transcript of my speech here.
Katie Pettifer
Chief Executive of FSA
Pam mae cydweithio byd-eang yn bwysig ar gyfer ymddiriedaeth mewn bwyd

Yr wythnos diwethaf, ces i’r fraint o siarad â chyd-reoleiddwyr o bob cwr o’r byd yn Fforwm Penaethiaid Asiantaethau Bwyd Rhyngwladol (IHFAF) yn Seland Newydd. Roedd siarad â chynulleidfa ryngwladol sy’n gyfrifol am ddiogelwch bwyd yn atgof amserol bod yr heriau sy’n ein hwynebu yn hynod debyg, er bod ein systemau rheoleiddio’n wahanol.
Siaradais â’r fforwm am ymddiriedaeth: pam mae ymddiriedaeth yn bwysig, pa mor fregus y gall fod, a pham mae wrth wraidd prosesau rheoleiddio bwyd effeithiol. Rydym yn gweithredu mewn byd sydd wedi’i ddiffinio gan ansefydlogrwydd, ansicrwydd a chymhlethdod. Mae cadwyni cyflenwi byd-eang cymhleth, newid aflonyddol yn yr hinsawdd, technolegau bwyd newydd a lledaeniad cyflym camwybodaeth i gyd yn ei gwneud hi’n anoddach i bobl ymddiried yn y system fwyd.
Mae mynd i’r afael â’r heriau hyn yn uniongyrchol yn golygu cyfuno cywirdeb gwyddonol â thryloywder, didwylledd ac ymrwymiad clir i weithredu er budd y cyhoedd. Mae cyfathrebu cryf yn hanfodol yn hyn o beth – nid yn unig yn ystod cyfnodau o argyfwng, ond yn gyson dros amser. Mewn byd ansicr, ymddiriedaeth yw un o’r pethau mwyaf gwerthfawr y gallwn ei gynnig i ddefnyddwyr.
Dyma pam mae ymgysylltu â phartneriaid rhyngwladol mor bwysig i’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB). Mae systemau bwyd yn fyd-eang, ac felly hefyd y risgiau. Mae fforymau fel yr IHFAF yn cynnig lle i herio tybiaethau, rhannu profiadau ymarferol a dysgu sut mae eraill yn ymateb i risgiau sy’n dod i’r amlwg. Boed hynny’n rheoli arloesedd wrth gynhyrchu bwyd, cyfleu ansicrwydd, neu ddiogelu hyder defnyddwyr ar draws ffiniau.
Y wers fwyaf gwerthfawr a ddysgais yn ystod fforwm eleni oedd pwysigrwydd symud y tu hwnt i drafod materion ar y cyd a mynd ati i weithredu ar y cyd. Gwnaeth y fforwm hefyd atgyfnerthu gwerth buddsoddi amser mewn perthnasoedd rhyngwladol dibynadwy cyn i argyfyngau daro, fel ein bod yn barotach pan fyddant yn codi. Bydd y sgyrsiau hyn yn dylanwadu’n uniongyrchol ar ein gwaith parhaus yn yr ASB.
Gallwch ddarllen trawsgrifiad o’m haraith yma.
Katie Pettifer
Prif Weithredwr yr ASB
Leave a comment