
Trust in the food system is something that the FSA has been thinking a lot about recently. I just spoke to the International Heads of Food Agencies Forum on the subject and we’ve also launched a new campaign to counter food‑related misinformation.
Trust is the foundation of a safe and effective food system. When people trust the food they buy, the advice they receive, and the institutions that protect them, they are better able to make informed choices and manage risk. When trust is undermined, the consequences can be serious.
False and misleading claims about food safety can spread rapidly online, amplified by social media, search algorithms, and increasingly by artificial intelligence. During moments of heightened public interest, like high profile food incidents, misinformation can quickly fill the information gaps.
This is a critical issue for the FSA. Our core mission after all is food you can trust. That means not only setting high standards and regulating effectively, but also ensuring that people can access clear, accurate, and evidence‑based information when they need it most.
Since we were founded in 2000, we’ve always been an open and transparent organisation. Our Board takes decisions in public at our open Board meetings; we publish a vast amount of evidence and data, so that people can see the basis for those decisions; and we communicate openly and transparently with the public about risk, including when there is uncertainty.
But the communications landscape has changed. Most people now start their search for food safety advice online, often through question‑based searches or AI‑generated summaries. Our response must meet people where they are, using modern, accessible formats while maintaining the highest standards of accuracy.
Our new campaign aims to make sure that reliable information about food can be found, understood, and trusted. We’re focusing on the topics where misinformation has the greatest potential to cause concern including food and feed additives, animal welfare, and novel foods. This isn’t about shutting down debates over those issues, but about making sure that the conversations we and others have are based on clear and accurate information.
Confidence in the food system depends on all of us. Regulators, businesses, scientists, and communicators share a common interest in making sure that evidence and expertise are heard. I encourage colleagues across these sectors to engage with this campaign, to share evidence‑based content, and to help ensure that good information travels further than bad.
In a world where uncertainty can spread quickly, protecting trust is one of the most important ways we can support people to make safe, informed choices about food.
Pam mae’r ASB yn cymryd camau i frwydro yn erbyn camwybodaeth a thwyllwybodaeth am fwyd
Katie Pettifer, Prif Weithredwr yr ASB

Yn ddiweddar, mae’r ASB wedi bod yn meddwl tipyn am ymddiriedaeth yn y system fwyd. Rwy newydd siarad â Fforwm Penaethiaid Asiantaethau Bwyd Rhyngwladol ar y pwnc, ac rydyn ni hefyd wedi lansio ymgyrch newydd i fynd i’r afael â chamwybodaeth sy’n gysylltiedig â bwyd.
Ymddiriedaeth yw sylfaen pob system fwyd ddiogel ac effeithiol. Pan fydd pobl yn ymddiried yn y bwyd maen nhw’n ei brynu, y cyngor maen nhw’n ei gael, a’r sefydliadau sy’n gweithio i’w diogelu nhw, maen nhw’n gallu gwneud dewisiadau cytbwys a rheoli risg yn well. Pan fydd ymddiriedaeth yn cael ei thanseilio, gall y canlyniadau fod yn ddifrifol.
Gall honiadau ffug a chamarweiniol ynglŷn â diogelwch bwyd ledaenu’n gyflym iawn ar-lein, ac mae’r cyfryngau cymdeithasol, algorithmau chwilio ac, erbyn hyn, deallusrwydd artiffisial (AI) yn gwaethygu’r broblem. Yn ystod adegau pan fo gan y cyhoedd gryn ddiddordeb yn y mater, er enghraifft digwyddiadau bwyd proffil uchel, gall camwybodaeth ddechrau llenwi’r bylchau yn nealltwriaeth pobl yn gyflym.
Mae hwn yn fater hollbwysig i’r ASB. Wedi’r cyfan, ein prif genhadaeth yw bwyd y gallwch ymddiried ynddo. Nid dim ond gwaith rheoleiddio effeithiol a gosod safonau uchel yw hyn. Hefyd, mae angen sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at wybodaeth glir a chywir sydd ar sail tystiolaeth pan fydd ei hangen arnyn nhw fwyaf.
Ers ein sefydlu yn 2000, rydyn ni wastad wedi bod yn sefydliad agored a thryloyw. Mae ein Bwrdd yn gwneud penderfyniadau yn gyhoeddus yn ystod cyfarfodydd agored ein Bwrdd; rydyn ni’n cyhoeddi cryn dipyn o dystiolaeth a data, fel y gall pobl weld sail y penderfyniadau hynny; ac rydyn ni’n cyfathrebu’n agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd am risgiau, gan gynnwys pan fo ansicrwydd.
Ond, mae amgylchiadau’r byd cyfathrebu wedi newid. Mae’r rhan fwyaf o bobl bellach yn chwilio am gyngor ar ddiogelwch bwyd ar-lein. Yn aml, byddan nhw’n gwneud hyn drwy chwilio ar sail cwestiynau neu gan ddefnyddio crynodebau y mae deallusrwydd artiffisial (AI) wedi’u llunio. Rhaid i’n hymateb gwrdd â phobl ble bynnag maen nhw’n eu cael eu hunain ar y pryd, gan ddefnyddio fformatau modern a hygyrch, yn ogystal â chynnal y safonau uchaf o gywirdeb.
Nod ein hymgyrch newydd yw sicrhau bod modd dod o hyd i wybodaeth ddibynadwy am fwyd, a bod modd ei deall ac ymddiried ynddi hefyd. Rydyn ni’n canolbwyntio ar y meysydd hynny lle mae gan wybodaeth gamarweiniol y potensial mwyaf i achosi pryder, gan gynnwys ychwanegion bwyd a bwyd anifeiliaid, lles anifeiliaid a bwydydd newydd. Nid rhwystro trafodaethau ar y materion hyn yw’r bwriad yma. Yn hytrach, rydyn ni am sicrhau bod y sgyrsiau rydyn ni a phobl eraill yn eu cael yn digwydd ar sail tystiolaeth glir a chywir.
Mae hyder yn y system fwyd yn dibynnu ar bob un ohonon ni. Mae rheoleiddwyr, busnesau, gwyddonwyr a chyfathrebwyr i gyd yn rhannu’r un nod cyffredin, sef sicrhau bod pobl yn cael gweld y dystiolaeth a chlywed gan yr arbenigwyr. Rwy’n annog cydweithwyr ar draws y sectorau hyn i chwarae rhan weithredol yn yr ymgyrch hon, i rannu cynnwys sydd ar sail tystiolaeth, ac i helpu i sicrhau bod gwybodaeth gywir yn rhagori ar gamwybodaeth.
Felly, pan fo ansicrwydd yn gallu lledaenu mor gyflym yn y byd sydd ohoni, diogelu ymddiriedaeth yw un o’r pethau pwysicaf y gallwn ni ei wneud i helpu pobl i wneud dewisiadau cytbwys a diogel ynglŷn â’u bwyd.
Leave a comment