https://food.blog.gov.uk/2026/06/16/precision-fermented-foods-getting-allergen-labelling-right/

Precision fermented foods: getting allergen labelling right 

Posted by: , Posted on: - Categories: Business guidance
Stainless steel fermentation tank with pressure gauge, pipes and heat warning sign in a lab setting.

Cymraeg

At the Food Standards Agency (FSA), we want to support innovation in food production where it delivers benefits for consumers and the food system.

We want to share our perspective on allergen labelling for foods produced using precision fermentation. This is especially important where consumers might not expect a product to contain allergens based on the product’s presentation or marketing.

Precision fermentation is playing an increasing role in the UK food system, with more businesses exploring the technology's potential.

Because precision fermented foods are often innovative and novel, allergens may be present in ways not typically encountered in traditional food.

Example: dairy-alternative products

A useful example of this is dairy-alternative products made using precision fermentation.

In recent years, a variety of milk protein-equivalent precision fermented products have been developed, such as casein, β-lactoglobulin (BLG), and lactoferrin.

BLG is the main whey protein in milk from animals (for example, cow’s milk), and a versatile ingredient widely used in the food industry in products like nutritional supplements, bakery items, and milk-derived products like butter.

Some precision fermented dairy-equivalent products are lactose-free but contain precision fermented BLG.

Because BLG is a potent cow's milk allergen, these products may not be suitable for consumers with a milk allergy, something that may not be immediately obvious from how they are marketed.

This illustrates a broader challenge as a dairy alternative marketed as 'animal free' may still contain a protein similar to milk protein, even though it does not come from an animal source.

Consumers may not expect something that might trigger an allergic reaction to be present. Therefore, this should be clearly indicated on the packaging in accordance with allergen labelling requirements.

Terms like 'animal free' can be conflated by consumers with 'plant-based' or even 'dairy free', which could put people with allergies at risk.

Developing a product for the UK market

Different countries have their own rules about allergen labelling for precision‑fermented foods, so the requirements aren’t the same everywhere.

If you are developing a product for the UK market, do not assume that labelling requirements authorised elsewhere will automatically meet UK requirements.

You should seek guidance early in the product development process.

Good labelling supports innovation

Clear and accurate allergen labelling of your product is a legal requirement.

It’s essential to help consumers make safe and informed choices. It also protects people with food allergies or intolerances from harm, including unintentional exposure.

Allergen risks may affect how you market your product, and so it is good to consider them at an early stage of product development.

Existing allergen labelling rules apply fully to precision fermented food products, just as they do for conventional products.

Because precision fermented foods can contain proteins that closely match common food allergens, we strongly encourage businesses to take a cautious approach. Make sure allergen information is clear, accurate and accessible for consumers when making labelling decisions.

Good labelling practice should be seen not as a barrier to innovation, but as an enabler.

Getting allergen labelling right from the outset protects consumers, builds market acceptance, and helps innovative products succeed safely in the UK food system.

Where to get help

If your business is developing or selling a precision fermented food, you should think about how key food regulations may apply to your product.

For businesses close to applying for market authorisation for a precision fermented product, the FSA’s Business Support Service can offer additional support.

Technical guidance for food allergen labelling and best practice guidance for allergen information for non‑prepacked foods is available on our website.

Local authorities and district councils can provide further advice, and you can also access free allergen training online.

Bwydydd wedi’u heplesu’n fanwl: labelu alergenau yn gywir

Lavanya Kala, Pennaeth Polisi Arloesi

Stainless steel fermentation tank with pressure gauge, pipes and heat warning sign in a lab setting.

Yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), rydym am gefnogi arloesedd wrth gynhyrchu bwyd lle mae’n darparu manteision i ddefnyddwyr a’r system fwyd.

Dyma rannu ein safbwynt ar labelu alergenau ar gyfer bwydydd sy’n cael eu cynhyrchu gan ddefnyddio eplesu manwl. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan na fydd defnyddwyr o reidrwydd yn disgwyl i gynnyrch gynnwys alergenau, a hynny ar sail sut mae’n cael ei gyflwyno neu ei farchnata.

Mae eplesu manwl yn chwarae rhan gynyddol yn system fwyd y DU, gyda mwy o fusnesau’n archwilio potensial y dechnoleg.

Gan fod bwydydd wedi’u heplesu’n fanwl yn aml yn fwydydd arloesol a newydd, gall alergenau fod yn bresennol mewn ffyrdd anghyffredin o’u cymharu â bwydydd traddodiadol.

Enghraifft: cynhyrchion amgen i gynnyrch llaeth

Enghraifft ddefnyddiol o hyn yw cynhyrchion amgen i gynnyrch llaeth a wneir gan ddefnyddio dulliau eplesu manwl.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae amrywiaeth o gynhyrchion wedi’u heplesu’n fanwl wedi’u datblygu sy’n efelychu proteinau llaeth, fel casein, β-lactoglobulin (BLG) a lactoferrin.

BLG yw’r prif brotein maidd (‘whey’) a geir mewn llaeth anifeiliaid (er enghraifft, llaeth buwch), ac mae’n gynhwysyn amlbwrpas sy’n cael ei ddefnyddio’n helaeth yn y diwydiant bwyd. Mae i’w gael mewn cynhyrchion fel atchwanegiadau maethol, cynhyrchion becws, a chynhyrchion sy’n deillio o laeth fel menyn.

Mae rhai cynhyrchion wedi’u heplesu’n fanwl sy’n efelychu cynhyrchion llaeth yn rhydd rhag lactos ond yn cynnwys BLG wedi’i eplesu’n fanwl.

Gan fod BLG yn alergen cryf sy’n dod o laeth buwch, efallai na fydd y cynhyrchion hyn yn addas i bobl ag alergedd i laeth – rhywbeth nad yw o reidrwydd yn amlwg o’r ffordd maen nhw’n cael eu marchnata.

Mae hyn yn dangos her ehangach, gan y gallai dewis amgen i gynnyrch llaeth, sy’n cael ei farchnata fel cynnyrch nad yw’n cynnwys anifeiliaid (‘animal free’), gynnwys protein sy’n debyg i brotein llaeth, er nad yw’n deilio o anifeiliaid.

Efallai na fydd defnyddwyr yn disgwyl i gynnyrch gynnwys rhywbeth a allai sbarduno adwaith alergaidd, ac felly dylid nodi hyn yn glir ar y pecyn yn unol â gofynion labelu alergenau.

Gall defnyddwyr gymysgu termau fel ‘animal free’ â ‘plant-based’ neu hyd yn oed ‘dairy free’, a allai roi pobl ag alergeddau mewn perygl.

Datblygu cynnyrch ar gyfer marchnad y DU

Mae gan wahanol wledydd eu rheolau eu hunain ynghylch labelu alergenau ar fwydydd wedi’u eplesu’n fanwl, felly nid yw’r gofynion yr un peth ym mhobman.

Os ydych chi’n datblygu cynnyrch ar gyfer marchnad y DU, peidiwch â thybio y bydd gofynion labelu a awdurdodwyd mewn mannau eraill yn bodloni gofynion y DU yn awtomatig.

Dylech geisio arweiniad yn gynnar wrth ddatblygu cynnyrch.

Mae labelu da yn cefnogi arloesedd

Mae’n ofyniad cyfreithiol labelu alergenau’n glir ac yn gywir ar eich cynnyrch.

Mae’n hanfodol er mwyn helpu defnyddwyr i wneud dewisiadau diogel a gwybodus. Mae hefyd yn helpu i ddiogelu pobl ag alergeddau neu anoddefiadau bwyd rhag niwed, gan gynnwys cyswllt anfwriadol.

Gall risgiau alergenau effeithio ar sut rydych chi’n marchnata’ch cynnyrch, felly mae’n bwysig eu hystyried yn gynnar yn y broses o ddatblygu cynnyrch.

Mae’r rheolau labelu alergenau presennol yn gwbl gymwys i gynhyrchion bwyd wedi’u eplesu’n fanwl, yn union fel y maent ar gyfer cynhyrchion confensiynol. Gan y gall bwydydd wedi’u eplesu’n fanwl gynnwys proteinau sy’n cyfateb yn agos i alergenau bwyd cyffredin, rydym yn annog busnesau’n gryf i fod yn ofalus. Gwnewch yn siŵr bod gwybodaeth am alergenau yn glir, yn gywir ac yn hygyrch i ddefnyddwyr wrth wneud penderfyniadau labelu.

Mae labelu da yn helpu arloesi, nid yn ei rwystro.

Mae labelu alergenau yn gywir o’r cychwyn cyntaf yn diogelu defnyddwyr, yn helpu cynhyrchion i gael eu derbyn ar y farchnad, ac yn galluogi cynhyrchion arloesol i lwyddo’n ddiogel yn system fwyd y DU.

Ble i gael cymorth

Os yw eich busnes yn datblygu neu’n gwerthu bwyd wedi’i eplesu’n fanwl, dylech feddwl am sut y gallai rheoliadau bwyd allweddol fod yn gymwys i’ch cynnyrch.

I fusnesau sydd ar fin gwneud cais i awdurdodi cynnyrch wedi’i eplesu’n fanwl i’w roi ar y farchnad, gall Gwasanaeth Cymorth Busnes yr ASB gynnig cymorth ychwanegol.

Mae canllawiau technegol o ran labelu alergenau bwyd a chanllawiau arferion gorau ar wybodaeth am alergenau ar gyfer bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw ar gael ar ein gwefan.

Gall awdurdodau lleol a chynghorau dosbarth roi rhagor o gyngor, a gallwch hefyd gael mynediad at hyfforddiant alergenau am ddim ar-lein.

Sharing and comments

Leave a comment

We only ask for your email address so we know you're a real person

By submitting a comment you understand it may be published on this public website. Please read our privacy notice to see how the GOV.UK blogging platform handles your information.