
When I joined the Food Standards Agency (FSA) as Chief Scientific Adviser, I knew I was stepping into an organisation where science sits at the heart of everything we do. Now, approaching my first 100 days in the role, I want to reflect on what I’ve learned, what I’ve seen, and what lies ahead.
Getting to know the FSA
Over the past few months, I’ve spent time meeting colleagues across the FSA, as well as partners in government, academia and industry.
What has stood out most is the commitment of all to the mission and purpose of the FSA, and to ensuring that our work is fully informed by the best science and evidence. Colleagues across FSA are welcoming and fully engaged, and the culture of the organisation comes across as positive and inclusive.
The breadth of the FSA’s activity is considerable - extending across food safety, hygiene, animal welfare, public health and nutrition, and many other areas. But everyone I have encountered has been knowledgeable about their specialist area, and fully aware of the broader goals of the organisation and the importance of maintaining trust in the food system.
Science at the core of our work
Science and evidence are fundamental to how the FSA protects public health and consumer interests. Our decisions are underpinned by careful analysis of available data and risk assessment informed by independent advice.
We draw on expertise from internal scientists, advisory committees, external specialists and other government bodies.
This ensures that our policies are informed by the best available science and evidence, and that the processes around policy development are transparent and proportionate.
A key part of my role will be to ensure that this scientific foundation remains strong, credible, and responsive to emerging challenges.
The role of research and evidence
One of my initial priorities has been understanding how research supports our regulatory work.
The FSA commissions research which helps us to identify, understand and assess the extent of risks, evaluate the impact of interventions, and inform policy development.
In addition, we articulate key questions and important evidence gaps and liaise with external funders, such as UKRI, with the capacity to fund work which will generate the evidence that we need.
Both recent and ongoing areas of focus include the extent of exposure to PFAS (per- and polyfluoroalkoxy substances) in food and the reasons for increasing food borne disease associated with campylobacter and salmonella.
Where possible, we work closely with partners, such as the UK Health Security Agency (UKHSA), to co-develop evidence, leverage expertise and maximise impact.
Importantly, research is not an abstract activity; it directly informs the decisions that keep food safe and protect consumers.
Connecting science to impact Turning science into real outcomes
Even the strongest science only has value if it is used effectively.
We are working to ensure that evidence is accessible, timely and usable, and framed in a way which is most useful to those developing policy.
This requires clear presentation of our research to highlight the most important findings and their implications, along with active engagement and communication to ensure awareness among key internal and external stakeholders and the wider public where relevant.
It is also important to evaluate the impact of our research so that we can improve processes to ensure the most effective use of limited resources in the future.
I have seen real commitment across the organisation to making sure our science translates into meaningful outcomes.
Looking ahead
As I look to the future, I am keen to focus on strengthening our scientific capability in priority areas and ensuring that our research is framed in a way that is linked clearly to policy.
In addition, our research capacity can be increased by enhancing collaboration with academic partners and major funders, and we can ensure awareness of emerging evidence through close liaison with international partners and other regulators.
Improved data sharing with other government bodies, industry and international partners will help to ensure we are prepared for emerging risks and to respond to, support and ensure safety of the changing food landscape.
In this context, we will look to take advantage of new approaches, including artificial intelligence, while remaining aware of any risks and safeguarding against them.
Final reflections
My first 100 days have confirmed my view that the FSA is a science-led organisation with a clear purpose: to protect public health and consumers.
I look forward to continuing to work with colleagues and partners to ensure that our science and research remain at the forefront of our work, underpinning the decisions that matter for people’s daily lives.
Sign up to our science, evidence and research newsletter to get the latest insight in your inbox.
Fy 100 diwrnod cyntaf fel Prif Gynghorydd Gwyddonol yr Asiantaeth Safonau Bwyd
Ian Young CBE, Prif Gynghorydd Gwyddonol

Mae Ian Young, Prif Gynghorydd Gwyddonol yr Asiantaeth Safonau Bwyd, yn myfyrio ar ei 100 diwrnod cyntaf yn y rôl. Mae’n rhannu beth mae wedi’i ddysgu am sut rydyn ni’n defnyddio gwyddoniaeth a thystiolaeth i gadw bwyd yn ddiogel a diogelu defnyddwyr.
Pan ymunais â’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fel Prif Gynghorydd Gwyddonol, roeddwn i’n gwybod fy mod i’n camu i mewn i sefydliad lle mae gwyddoniaeth wrth wraidd popeth a wnawn. Nawr, wrth i mi agosáu at fy 100 diwrnod cyntaf yn y rôl, hoffwn i fyfyrio ar yr hyn rydw i wedi’i ddysgu, yr hyn rydw i wedi’i weld, a’r hyn sydd o’n blaenau.
Dod i ddeall yr ASB
Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rydw i wedi treulio amser yn cwrdd â chydweithwyr ar draws yr ASB, yn ogystal â phartneriaid yn y llywodraeth, y byd academaidd a’r diwydiant.
Yr hyn sydd wedi fy nharp fwyaf yw ymrwymiad pawb i genhadaeth a phwrpas yr ASB, a’r pwyslais ar ddefnyddio’r wyddoniaeth a’r dystiolaeth orau i lywio ein gwaith. Mae cydweithwyr ar draws yr ASB yn hynod groesawgar ac yn ymgysylltu’n llawn â’u gwaith, ac mae diwylliant y sefydliad i’w weld yn gadarnhaol a chynhwysol.
Mae gweithgareddau’r ASB yn sylweddol – gan ymestyn ar draws meysydd fel diogelwch bwyd, hylendid, lles anifeiliaid, iechyd y cyhoedd a maeth, a llawer mwy. Ond mae pawb rydw i wedi dod ar eu traws wedi bod yn wybodus yn eu maes arbenigol, ac yn gwbl ymwybodol o nodau ehangach y sefydliad, yn ogystal â phwysigrwydd cynnal ymddiriedaeth yn y system fwyd.
Gwyddoniaeth wrth wraidd ein gwaith
Mae gwyddoniaeth a thystiolaeth yn hanfodol i’r ffordd mae’r ASB yn diogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau defnyddwyr. Mae ein penderfyniadau’n seiliedig ar ddadansoddiadau gofalus o’r data sydd ar gael, ac ar asesiadau risg sydd wedi’u llywio gan gyngor annibynnol.
Fy rôl fel Prif Gynghorydd Gwyddonol yw rhoi sicrwydd annibynnol ynghylch ansawdd y wyddoniaeth yn yr ASB, a sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau o’r dystiolaeth sydd ar gael – o fewn y sefydliad ac ar draws ein partneriaid yn y DU ac yn rhyngwladol.
Mae ein polisïau’n cael eu llywio gan arbenigwyr, gan gynnwys gwyddonwyr, pwyllgorau cynghori, arbenigwyr allanol a chyrff eraill y llywodraeth.
Rwy’n teimlo’n gryf iawn am rôl yr ASB fel llais dibynadwy ac awdurdodol ym maes gwyddoniaeth bwyd.
Rydw i am i wyddonwyr yr ASB fod yn rhan o’r ymdrech honno: gan fod yn weladwy, yn gredadwy ac yn hygyrch i’r cyhoedd, i’r diwydiant ac i lunwyr polisi. Dyma uchelgais a nodais yn fy Adroddiad Blynyddol cyntaf ar Wyddoniaeth i’r Bwrdd ym mis Mehefin.
Rôl ymchwil a thystiolaeth
Un o’m blaenoriaethau cychwynnol fu deall sut mae ymchwil yn cefnogi ein gwaith rheoleiddio.
Mae’r ASB yn comisiynu ymchwil sy’n ein helpu i nodi, deall ac asesu maint risgiau, gwerthuso effaith ymyriadau, a llywio’r gwaith o ddatblygu polisïau.
Yn ogystal, rydym yn gofyn cwestiynau allweddol, yn nodi bylchau pwysig mewn tystiolaeth ac yn cysylltu â chyllidwyr allanol – fel UKRI – sydd â’r gallu i ariannu gwaith a fydd yn cynhyrchu’r dystiolaeth sydd ei hangen arnom. Rydym hefyd yn gweithio’n agos â phartneriaid, fel Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA), i gyd-ddatblygu tystiolaeth, manteisio ar arbenigedd a chynyddu’r effaith.
Roedd fy Adroddiad Blynyddol ar Wyddoniaeth i’r Bwrdd hefyd yn nodi fy meysydd blaenoriaeth ar gyfer yr ASB – gan gynnwys parhau â’n hymchwiliad sy’n seiliedig ar dystiolaeth i ddeall yn well pam mae nifer yr achosion o gampylobacter a salmonela wedi mynd y tu hwnt i’r trothwyon a osodwyd.
Roedd y papur hefyd yn nodi pwysigrwydd meysydd ffocws parhaus, gan gynnwys effaith dod i gysylltiad â PFAS (sylweddau per- a pholyfflworoalcocsi).
Rydw i wedi ymrwymo i adolygu’n barhaus yr ymchwil gynyddol sy’n cysylltu bwyta gormod o fwydydd wedi’u prosesu’n helaeth â chanlyniadau iechyd niweidiol. Rydw i hefyd wedi ymrwymo i gydweithio â chyllidwyr fel UKRI i lenwi’r bylchau yn y dystiolaeth ar y pwnc hwn sydd o ddiddordeb cyhoeddus sylweddol.
Yn bwysig, nid gweithgaredd haniaethol yw ymchwil; mae’n llywio’n uniongyrchol y penderfyniadau sy’n cadw bwyd yn ddiogel ac yn diogelu defnyddwyr.
Cysylltu gwyddoniaeth ag effaith Defnyddio gwyddoniaeth i greu canlyniadau go iawn
Mae gwyddoniaeth yn werthfawr, ond dim ond pan gaiff ei defnyddio’n effeithiol.
Rydyn ni’n gweithio i sicrhau bod tystiolaeth yn hygyrch, yn amserol, yn cael ei chyflwyno yn y ffordd sy’n helpu llunwyr polisi fwyaf, a bod modd ei defnyddio.
Mae hyn yn gofyn am gyflwyno ein hymchwil yn glir i dynnu sylw at y canfyddiadau pwysicaf a’u goblygiadau, ynghyd â gwaith ymgysylltu a chyfathrebu i sicrhau ymwybyddiaeth ymhlith rhanddeiliaid mewnol ac allanol allweddol a’r cyhoedd ehangach lle bo’n berthnasol.
Mae hefyd yn bwysig gwerthuso effaith ein hymchwil fel y gallwn wella prosesau i sicrhau’r defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau cyfyngedig yn y dyfodol.
Rydw i wedi gweld ymrwymiad gwirioneddol ar draws y sefydliad i sicrhau bod ein gwyddoniaeth yn trosi’n ganlyniadau ystyrlon.
Edrych tua’r dyfodol
Wrth i mi edrych tua’r dyfodol, rwy’n awyddus i ganolbwyntio ar gryfhau ein gallu gwyddonol mewn meysydd blaenoriaeth a sicrhau bod ein hymchwil yn gysylltiedig yn glir â pholisi.
Yn ogystal, mae modd cynyddu ein gallu ymchwil drwy gydweithio’n well â phartneriaid academaidd a chyllidwyr mawr. Gallwn sicrhau ymwybyddiaeth o dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg drwy gysylltu’n agos â phartneriaid rhyngwladol a rheoleiddwyr eraill.
Bydd rhannu ein data’n well gyda chyrff eraill o’r llywodraeth, y diwydiant a phartneriaid rhyngwladol yn helpu i sicrhau ein bod yn barod ar gyfer risgiau sy’n dod i’r amlwg ac yn barod i gefnogi, sicrhau ac ymateb i ddiogelwch y dirwedd fwyd sy’n newid.
Yn y cyd-destun hwn, byddwn yn ceisio manteisio ar ddulliau newydd, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial, a hynny wrth barhau i fod yn ymwybodol o unrhyw risgiau a diogelu rhagddynt.
Myfyrdodau i gloi
Mae fy 100 diwrnod cyntaf wedi cadarnhau fy marn bod yr ASB yn sefydliad sy’n cael ei arwain gan wyddoniaeth ac sydd â phwrpas clir: diogelu iechyd y cyhoedd a defnyddwyr.
Edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda chydweithwyr a phartneriaid i sicrhau bod ein gwyddoniaeth a’n hymchwil yn parhau i fod wrth wraidd ein gwaith, gan ategu’r penderfyniadau sy’n bwysig i fywydau pobl.
Tanysgrifiwch i’n cylchlythyr gwyddoniaeth, tystiolaeth ac ymchwil i gael yr wybodaeth ddiweddaraf yn eich mewnflwch.
Leave a comment