Skip to main content

https://food.blog.gov.uk/2020/09/11/infectious-intestinal-disease-in-the-community-study-join-iid3/

Infectious Intestinal Disease in the community study - Join IID3

Decorative only, woman holding stomach for IID3 Blog

Cymraeg

The FSA are looking for collaborators for the next major study of Infectious Intestinal Disease in the UK - IID3. Join our webinar on Tuesday 22 September 2020 to learn more. To book your place, email IID3micro@food.gov.uk

One of the Food Standards Agency's key and ongoing commitments to food safety is surveillance. In particular, the surveillance of the levels of infectious intestinal disease (IID) in the UK. While we regularly review the number of confirmed IID cases, not all cases are reported to healthcare providers. That's why we also do research to estimate the total burden of foodborne disease and the cost of illness to society.

What is Infectious Intestinal Disease (IID)?

IID usually presents as diarrhoea and vomiting. In the UK, IID usually goes away on its own and has no long-term effects. Despite this, it has a high cost associated with it in terms of the number of people made ill, and the consequences of them being off work or receiving treatment. In some cases IID can lead to death for high-risk individuals.

IID is caused by a range of microorganisms, including:

  • bacteria (e.g. salmonella, campylobacter and shiga toxin-producing Escherichia coli)
  • viruses (e.g. norovirus and rotavirus)
  • parasites (e.g. giardia or cryptosporidium)

Transmission of IID can occur through a variety of pathways, for example via foods and person-to-person transmission. That's why good personal hygiene is important to avoid getting ill.

Learning from IID1 and IID2

The FSA and our predecessor organisations have funded and published two studies examining IID in the UK. The first, our unprecedented IID1 study, was carried out in England during the mid-1990s. IID2 then followed in 2012.

These used prospective cohort studies which involves the recruitment of a cohort of people in advance of the study. They then report symptoms of diarrhoea and vomiting. Stool samples can then be collected for a microbiological examination, so that the specific case of illness can be determined.

We recently published research that shows cohort studies are the most accurate way of estimating rates of IID. To situate IID in an international context, we have recently completed a comparison of methodologies used to estimate foodborne disease in the UK to those in other countries.

These IID studies allow us to establish the relationship between disease burden in the community and reported statistics.

The main aims of IID3

At the FSA we're dedicated to providing the best research possible and keeping our food safety knowledge up-to-date. This includes our understanding of IID in the UK. That's why we will be calling for further research into IID, in the form of the IID3 study.

IID3 is a major programme which will run over several years. The main aims of this study will be to:

  • assess the overall burden of IID in the UK and find out its key causes
  • work out what proportion of cases are not reported to healthcare providers
  • look at how many of these cases are likely to be caused by foodborne disease

The core of IID3 will be a prospective cohort study examining rates of IID in the UK. The study will also use technologies developed since the completion of IID2 in 2012. These will include metagenomics, a technique which allow us to look at the total human “microbiome” (the total collection of microorganisms found in the gut) and antimicrobial resistance burden. We will also use new web-based surveys to self-report IID symptoms and modernise our information collection.

Why we are doing IID3

The IID studies allow us to reflect on figures of IID. They also allow us to examine whether our interventions are working, and help us to target new areas of concern. These studies allows the FSA to understand the key risks to consumers. By using the previous studies as a baseline, this allows us to monitor changes in the likely risks.

Through the use of modern technologies, we can plug gaps in the data that were previously unachievable. This allows us to maximise the positive impact and value for money of our work, ultimately allowing us to protect consumers.

Join the IID3 webinar

The FSA is keen to secure the best collaboration for the IID3 project. We are hosting a webinar on Tuesday 22 September 2020 at 10am for researchers working in public health, epidemiology, or related fields.

In the webinar we will:

  • introduce the IID projects - including the key methods and findings of IID2, plus the IID2 extension projects
  • explore the aims of IID3
  • explain the FSA procurement processes
  • host a Q&A session

To book your place on the IID3 webinar, please email IID3micro@food.gov.uk

Decorative - man holding stomach for IID3 blog


Ymunwch ag IID3: Astudiaeth Clefyd Perfeddol Heintus yn y Gymuned

Rydym ni’n chwilio am gydweithredwyr ar gyfer yr astudiaeth fawr nesaf o Glefyd Perfeddol Heintus yn y Deyrnas Unedig (DU) - IID3.

Ymunwch â'n gweminar ddydd Mawrth 22 Medi 2020 i ddysgu rhagor. I gadw eich lle, anfonwch e-bost at IID3micro@food.gov.uk

Diogelwch Bwyd a Chlefyd Perfeddol Heintus (IID)

Un o'n hymrwymiadau allweddol a pharhaus i ddiogelwch bwyd yw gwyliadwriaeth. Yn benodol gwyliadwriaeth o lefelau clefyd perfeddol heintus (IID) yn y DU.

Er ein bod yn adolygu nifer yr achosion IID a gadarnhawyd yn rheolaidd, nid yw darparwyr gofal iechyd yn rhoi gwybod am bob achos. Dyna pam rydym ni hefyd yn gwneud ymchwil i amcangyfrif cyfanswm baich clefyd a gludir gan fwyd a chost salwch i gymdeithas.

Beth yw Clefyd Perfeddol Heintus (IID)?

Mae IID fel arfer yn cynnwys dolur rhydd a chwydu. Yn y DU mae IID fel arfer yn diflannu ar ei ben ei hun ac nid yw'n cael unrhyw effeithiau tymor hir. Ac eto mae ganddo gost ddrud, o ran nifer y bobl sy'n sâl a'r canlyniadau o fod i ffwrdd o'r gwaith neu'n cael triniaeth. Hefyd, mewn rhai achosion gall IID arwain at farwolaeth unigolion risg uchel.

Achosir IID gan ystod o ficro-organebau, gan gynnwys:

  • bacteria (er enghraifft Salmonela, Campylobacter ac Escherichia coli sy'n cynhyrchu gwenwyn Shiga)
  • feirysau (fel norofeirws a rotafeirws)
  • a pharasitiaid (fel Giardia neu Cryptosporidium)

Gall trosglwyddo IID ddigwydd trwy amrywiaeth o lwybrau, er enghraifft trwy fwydydd a throsglwyddo person i berson. Dyna pam mae hylendid personol da yn bwysig er mwyn osgoi IID.

Dysgu o IID1 a IID2

Mae'r ASB a’i rhagflaenwyr wedi ariannu a chyhoeddi dwy astudiaeth sy'n archwilio IID yn y DU. Cynhaliwyd y cyntaf, ein hastudiaeth ddigynsail IID1, yn Lloegr yng nghanol y 1990au. Yna dilynodd IID2 yn 2012. Defnyddiodd y prosiectau hyn “astudiaethau carfan arfaethedig”. Mae hyn yn cynnwys recriwtio carfan o bobl cyn yr astudiaeth a gofyn iddynt adrodd symptomau dolur rhydd a chwydu. Yna gellir casglu samplau carthion ar gyfer archwiliad microbiolegol fel y gellir pennu achos penodol salwch.

Yn ddiweddar gwnaethom gyhoeddi ymchwil sy'n dangos mai astudiaethau carfan yw'r ffordd fwyaf cywir o amcangyfrif cyfraddau IID. Dyma’r Athro Rick Mumford, Pennaeth ein Cyfarwyddiaeth Gwyddoniaeth, Tystiolaeth ac Ymchwil, yn cymharu methodolegau a ddefnyddir i amcangyfrif clefyd a gludir gan fwyd yn y DU â’r rhai mewn gwledydd eraill.

Mae'r astudiaethau IID hyn yn caniatáu i ni sefydlu'r berthynas rhwng baich clefydau yn y gymuned ac ystadegau yr adroddwyd amdanynt.

Beth yw prif nodau IID3?

Yn yr ASB rydym ni’n ymroddedig i ddarparu'r ymchwil orau bosibl a chadw ein gwybodaeth yn gyfredol. Mae hyn yn cynnwys ein gwybodaeth am IID yn y DU. Dyna pam y byddwn ni’n galw am ymchwil bellach i IID, ar ffurf astudiaeth IID3.

Mae IID3 yn rhaglen fawr, a fydd yn rhedeg dros sawl blwyddyn. Prif nodau'r astudiaeth hon fydd:

  1. Asesu baich cyffredinol IID yn y DU a darganfod ei brif achosion
  2. Cyfrifo pa gyfran o achosion nad ydynt yn cael eu hadrodd i ddarparwyr gofal iechyd
  3. Edrych ar faint o'r achosion hyn sy'n debygol o gael eu hachosi gan glefydau a gludir gan fwyd

Bydd craidd IID3 yn astudiaeth carfan arfaethedig yn archwilio cyfraddau IID yn y DU. Bydd yr astudiaeth hon hefyd yn defnyddio technolegau a ddatblygwyd ers cwblhau IID2 yn 2012. Bydd y rhain yn cynnwys metagenomeg i'n galluogi ni i edrych ar y “microbiome” dynol yn ei gyfanrwydd (cyfanswm y casgliad o ficro-organebau a geir yn y perfedd) a baich ymwrthedd gwrthficrobaidd. Byddwn ni hefyd yn defnyddio arolygon newydd ar y we i alluogi pobl i adrodd symptomau IID eu hunain a moderneiddio ein harolygon.

Pam rydym ni'n cynnal IID3?

Mae'r astudiaethau IID yn caniatáu i ni fyfyrio ar ffigurau IID. Maent hefyd yn caniatáu i ni archwilio a yw ein hymyriadau yn gweithio, a thargedu meysydd newydd sy’n peri pryder. Yn olaf, mae'n caniatáu i'r ASB ddeall y risgiau allweddol i ddefnyddwyr, ac mae defnyddio'r astudiaethau blaenorol fel llinell sylfaen yn caniatáu i ni weld newidiadau yn y risgiau tebygol i ddefnyddwyr.

Trwy ddefnyddio technolegau modern, gallwn geisio llenwi bylchau yn y data nad oedd modd ei wneud o’r blaen. Trwy ddysgu o brosiectau blaenorol rydym ni’n gwybod beth sy'n gweithio ac nad yw'n gweithio. Mae hyn yn ein galluogi ni i wneud yn siŵr bod ein gwaith yn cyflawni'r effaith gadarnhaol fwyaf a'r gwerth gorau am arian, wrth i ni ddiogelu defnyddwyr.

Ymunwch â gweminar IID3

Mae'r ASB yn awyddus i gael y cydweithrediad gorau ar gyfer ein prosiect IID3 newydd. Felly, rydym ni’n cynnal gweminar ar ddydd Mawrth 22 Medi 2020 am 10am ar gyfer ymchwilwyr sy'n gweithio ym maes iechyd y cyhoedd, epidemioleg, neu feysydd cysylltiedig.

Yn y weminar byddwn ni’n:

  • Cyflwyno'r prosiectau IID - gan gynnwys dulliau a chanfyddiadau allweddol IID2 ynghyd â’i phrosiectau ymestynnol
  • Archwilio nodau IID3
  • Esbonio prosesau caffael yr ASB
  • Cynnal sesiwn Holi ac Ateb

I archebu eich lle ar weminar IID3, anfonwch e-bost at IID3micro@food.gov.uk

Sharing and comments

Share this page

Leave a comment

We only ask for your email address so we know you're a real person

By submitting a comment you understand it may be published on this public website. Please read our privacy notice to see how the GOV.UK blogging platform handles your information.