
It was a pleasure to welcome parliamentarians, partners and friends of the Food Standards Agency (FSA) to the House of Commons last week for our annual parliamentary reception, held to mark World Food Safety Day.
These events are always a highlight in the FSA calendar, but this year’s felt particularly vibrant. There was a real sense of shared purpose in the room, with so many people from across the food system, all committed to making sure we have food we can trust.
Food safety doesn’t happen by accident; it depends on strong systems and dedicated people working together every day. It was a great opportunity to recognise that collective effort.
We were pleased to give attendees previews of our new food hygiene campaign, which we’ve just launched, and our campaign to tackle mis- and disinformation in the food system. Keep an eye out for both campaigns on our social media channels.
In my speech I reflected on how the FSA is evolving to meet the challenges of a changing food system. We have set out an ambitious plan to reform the regulatory model for food standards and hygiene inspections and to support the development of innovative foods in a way that maintains public confidence.
At the same time, we’re thinking more broadly about the role food can play in improving people’s lives and I am looking forward to increasing our work to support healthier and more sustainable diets. You can read a full transcript of my speech on our blog.
My thanks go to Layla Moran MP for sponsoring the event, and to her and Department of Health and Social Care Minister Sharon Hodgson for their thoughtful contributions. They helped stimulate lively interactions in the room and new connections.
Conversations like this matter. They challenge and stretch our thinking and strengthen the partnerships that underpin a food system we can all trust.
Finally, a reminder that our next FSA Board meeting is on Wednesday 17 June 2026 in Newcastle. The agenda includes an annual update on the progress of the FSA's strategy, our Chief Scientific Adviser’s report, and an annual review of our work on incidents. Register to attend or view online.
Cydweithio a hyder mewn system fwyd sy’n newid
Yr Athro Susan Jebb, Cadeirydd yr ASB.

Pleser oedd croesawu seneddwyr, partneriaid a ffrindiau’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) i Dŷ’r Cyffredin yr wythnos diwethaf ar gyfer ein derbyniad seneddol blynyddol, a gynhaliwyd i nodi Diwrnod Diogelwch Bwyd y Byd.
Mae’r digwyddiadau hyn bob amser yn uchafbwynt yng nghalendr yr ASB, ond roedd un eleni yn teimlo’n arbennig o fywiog. Roedd gwir ymdeimlad o bwrpas cyffredin yn yr ystafell, gyda chynifer o bobl o bob cwr o’r system fwyd, a phob un wedi ymrwymo i sicrhau bod gennym fwyd y gallwn ni ymddiried ynddo.
Nid yw diogelwch bwyd yn digwydd drwy hap a siawns – mae’n dibynnu ar systemau cryf a phobl ymroddedig yn gweithio gyda’i gilydd bob dydd. Roedd y digwyddiad yn gyfle gwych i gydnabod yr ymdrech gyfunol honno.
Roedden ni’n falch o allu rhoi cipolwg i bawb oedd yn bresennol o ddwy o’n hymgyrchoedd, sef ymgyrch hylendid bwyd rydyn ni newydd ei lansio ac ymgyrch i fynd i’r afael â chamwybodaeth a thwyllwybodaeth yn y system fwyd. Cadwch lygad am y ddwy ymgyrch ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Yn fy araith, gwnes i fyfyrio ar sut mae’r ASB yn esblygu er mwyn ymdopi â’r heriau mewn system fwyd sy’n newid. Rydyn ni wedi gosod cynllun uchelgeisiol i ddiwygio’r model rheoleiddio ar gyfer arolygiadau hylendid a safonau bwyd, ac i gefnogi datblygiad bwydydd arloesol mewn ffordd sy’n cynnal hyder y cyhoedd.
Ar yr un pryd, rydyn ni’n meddwl yn ehangach am y rhan mae bwyd yn gallu ei chwarae wrth wella bywydau pobl, ac rwy’n edrych ymlaen at gynyddu ein gwaith i gefnogi deietau iachach a mwy cynaliadwy. Gallwch ddarllen trawsgrifiad llawn o’m haraith ar ein blog.
Diolch i Layla Moran AS am noddi’r digwyddiad, ac iddi hi a Sharon Hodgson, Gweinidog yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, am eu cyfraniadau meddylgar. Gwnaethon nhw annog trafodaethau bywiog a helpu pawb i ffurfio cysylltiadau newydd.
Mae sgyrsiau fel hyn yn bwysig. Maen nhw’n herio ac yn ymestyn ein ffordd o feddwl ac yn cryfhau’r partneriaethau sy’n sail i system fwyd y gallwn ni i gyd ymddiried ynddi.
Yn olaf, dyma’ch atgoffa y bydd cyfarfod nesaf Bwrdd yr ASB ar ddydd Mercher, 17 Mehefin 2026 yn Newcastle. Mae’r agenda’n cynnwys diweddariad blynyddol ar gynnydd strategaeth yr ASB, adroddiad gan ein Prif Ymgynghorydd Gwyddonol, ac adolygiad blynyddol o’n gwaith ar ddigwyddiadau bwyd. Gallwch gofrestru i ddod i’r cyfarfod neu ei wylio ar-lein.
Leave a comment